Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 14 Hydref 2020.
Mae Janet Finch-Saunders yn dyfynnu ffigurau o 2005 a 2010. Yn sicr, pan oeddwn yn Weinidog cynllunio ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd hyn yn rhywbeth y gofynnais i swyddogion cynllunio edrych arno fy rhan, gan ein bod yn gweld yr effaith gronnol honno y cyfeiriodd Janet Finch-Saunders ati. Rwy'n hapus fod CNC yn monitro fel y dylent, ond unwaith eto, os oes ganddi unrhyw bryderon penodol, rwy’n fwy na pharod i drafod hynny gyda CNC.