Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Lloyd David Lloyd Plaid Cymru 2:03, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yr wythnos diwethaf, gwnaethom nodi Diwrnod Aer Glân, lle cawsom ddata wedi'i ddiweddaru, a oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod gan dde Cymru, cyn y cyfyngiadau symud, y lefelau llygredd gwaethaf ond un yn y DU—roedd lefelau nitrogen deuocsid gwenwynig 1.6 gwaith yn fwy na therfynau cyfreithiol yr UE. Nawr, yn ystod y cyfyngiadau symud eleni, gwelsom lygredd aer yng Nghymru yn gwella’n ddramatig, a chyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun aer glân hefyd, er mai ar strydoedd Caerdydd yn unig y bu hynny. Nawr, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar Ddeddf aer glân i Gymru, a gaf fi ofyn pryd y bydd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno yn y Senedd, a phryd y cawn gyfle i ofyn cwestiynau ar fanylion y cynllun a chynnwys y Papur Gwyn a ddaw'n sylfaen i'r fframwaith deddfwriaethol ar gyfer Deddf aer glân newydd i Gymru?