Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch. Ac roeddwn yn falch iawn o fynychu eich grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, neu'r wythnos flaenorol—ni allaf gofio'n iawn nawr—a chredaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cydnabod Diwrnod Aer Glân, nid yn y ffordd y bu modd inni wneud y llynedd, ond roeddwn yn wirioneddol falch o allu cefnogi'r fenter allweddol honno. Fel y dywedwch, lansiais y cynllun aer glân ym mis Awst, ac mae'n nodi'r camau allweddol y byddwn yn eu cymryd i leihau llygredd aer a'i effaith ar iechyd y cyhoedd a bioamrywiaeth, a hefyd yr amgylchedd naturiol yng Nghymru. Mae'r cynllun hefyd yn nodi mesurau i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion deddfwriaethol Ewropeaidd a domestig.
Fel y dywedwch, byddwn yn cynhyrchu Papur Gwyn ar aer glân, ac rydym yn datblygu hwnnw er mwyn gwella'r ddeddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd. Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn ar Fil aer glân i Gymru erbyn diwedd tymor y Senedd hon fel y gall Aelodau graffu arno.