Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:08, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am godi'r pwyntiau hynny, Huw, ac yn sicr, rwy’n fwy na pharod i fwrw golwg ar y maniffesto. Mae rhai o'r pethau y cyfeiriwch atynt—fe fyddwch yn ymwybodol fod fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi gwneud datganiad ddoe ynglŷn â mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol tuag at deithio llesol dros dymor y Llywodraeth hon, ond fe wnaethom gynyddu'r cyllid hwnnw yn ystod pandemig COVID-19. Felly, mae yna bethau rydym yn eu gwneud. Pan gyflwynodd ei faniffesto ddwy flynedd yn ôl, gwnaeth y Prif Weinidog ymrwymiad i Ddeddf aer glân, ac fel y dywedais mewn ateb cynharach, rydym wrthi’n datblygu'r Papur Gwyn ar Fil aer glân, a Deddf aer glân wedi hynny, fel y gallwn wella'r ddeddfwriaeth sydd gennym yma yng Nghymru ar hyn o bryd.