Llygredd Aer

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:07, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, siaradais yr wythnos diwethaf yn lansiad maniffesto Living Streets Cymru ar gyfer cerdded yng Nghymru. Maent am i bawb yng Nghymru allu anadlu aer glân, ac maent am i'r Llywodraeth nesaf flaenoriaethu'r argyfwng hinsawdd, cyflwyno Deddf aer glân i Gymru a pharthau aer glân o amgylch holl ysgolion Cymru, creu mwy o fannau gwyrdd trefol a choridorau gwyrdd lle gall pobl gerdded a beicio, a gweithio tuag at nod sero-net o ran allyriadau carbon mewn trefi a dinasoedd, mynd i'r afael â pharcio ar balmentydd, buddsoddi mwy mewn targedau i blant gerdded i'r ysgol ac i oedolion ddewis teithio llesol. Felly, Weinidog, a wnewch chi ddarllen eu maniffesto’n fanwl a sicrhau bod cymaint o fesurau â phosibl yn cael eu cyflwyno gan y Llywodraeth Lafur nesaf?