1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
6. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i sicrhau y gall ffermwyr wneud y gorau o'r cyfleoedd a ddarperir i'r diwydiant ffermio ar ôl Brexit? OQ55682
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gefnogi ffermwyr ar ôl gadael yr UE. Rwyf wedi cadarnhau na fydd lefel y cymhorthdal sylfaenol yn newid yn 2021, ac yn ddiweddar, cyhoeddais dros £106 miliwn o fuddsoddiad mewn ystod o gynlluniau dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ffermio a'n heconomi wledig.
Wel, diolch i'r Gweinidog am ei hateb, ac mae’n rhaid imi ddweud eu bod yn galonogol iawn—yr ymyriadau y sonioch chi amdanynt. Weinidog, soniais yr wythnos diwethaf yn fy nghwestiwn i’r Cwnsler Cyffredinol, ac nid wyf yn ymddiheuro am grybwyll hyn eto, fod ffermwyr Prydain ymhlith y ffermwyr mwyaf effeithlon ac arloesol yn y byd, ac y gallent, gyda’r adnoddau a’r cymhellion cywir, gynyddu faint o fwyd y maent yn ei gynhyrchu ar gyfer y cyhoedd ym Mhrydain yn sylweddol. Mae rhai wedi cwyno am gyw iâr wedi'i olchi ‘clorinedig’ fel y’i gelwir, a chynhyrchion eraill o'r UDA, ond ni chlywsom unrhyw gwynion o'r fath am fewnforio cynhyrchion porc o'r cyfandir, lle roedd moch yn cael eu cadw mewn amodau gwarthus, yn aml mewn cewyll wedi'u gosod un ar ben y llall hyd at dair cawell o uchder. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno â mi fod safonau hwsmonaeth yn y DU ymhlith y gorau yn y byd, ac ymhell uwchlaw'r rheini a geir mewn sawl rhan o Ewrop, yn enwedig yn y gwladwriaethau mwyaf newydd? Felly, onid yw'n wir mai gorau po fwyaf o fwydydd y gallwn eu cynhyrchu gartref? Byddwn yn gweld y budd o ran ansawdd y bwyd rydym yn ei fwyta, ond hefyd yn gweld budd amgylcheddol enfawr yn yr ystyr na fydd ein bwyd bellach yn cael ei gludo at ein byrddau dros filoedd o filltiroedd o bob rhan o Ewrop.
Gan gyfeirio at y sylwadau yn gynharach gan ein cyd-Aelod Llyr Gruffydd, os na allwn allforio i'r UE, mae hynny ynddo'i hun yn golygu na allant allforio i ni. Byddai hyn yn gadael gwagle enfawr ym marchnad y DU i holl gynhyrchion cig y DU a holl gynhyrchion bwyd y DU. Onid yw'r Gweinidog yn cytuno bod canlyniadau senario 'dim cytundeb' yn gweithio'r ddwy ffordd?
Nac ydw. Mae’n rhaid imi ddweud, nid ar ffermio ym Mhrydain y mae fy ffocws, ond ar ffermio yng Nghymru. Rydym wedi gwneud llawer iawn o waith i gefnogi'r sector amaethyddol, yn enwedig ers 2016, yn dilyn y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, rydym am sicrhau bod ein sector amaethyddol a'n ffermwyr a'u busnesau mor gystadleuol ac mor gynaliadwy â phosibl. Rydym wedi rhoi cryn dipyn o gyllid—yn eironig, gan yr UE—i sicrhau ein bod yn canolbwyntio ar y sector cig coch ac ar y sector llaeth, er mwyn gwneud yn siŵr y gall ffermwyr sicrhau bod eu busnesau mor gadarn â phosibl.
Rwy’n falch iawn o’r safonau iechyd a lles anifeiliaid sydd gennym yma yng Nghymru, a’n safonau bwyd, ac rwyf am sicrhau bod hynny’n parhau. Rwy'n siŵr y gallwn ddod o hyd i enghreifftiau o arferion gwael ledled y byd, ond mae fy ffocws i ar Gymru a ffermwyr Cymru.
Andrew R.T. Davies. A allwch agor eich meic, Andrew R.T. Davies? A yw hi'n edrych yn debyg fod modd gwneud hynny? Na. Credaf mai ‘na' oedd hynny. Bydd yn rhaid i mi symud ymlaen.
Cwestiwn 7—Michelle Brown.