Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe am adeiladau anniogel. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r adeiladau rwy'n cyfeirio atynt; rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at fflatiau â chladin anniogel, er enghraifft. Dywedodd y Prif Weinidog y dylai datblygwyr dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny ac na ddylai lesddeiliaid fod yn talu'r bil. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o'r mater hwn ers tro bellach, felly fy nghwestiwn i yw: pam nad yw'r Llywodraeth wedi gorfodi'r datblygwyr i dalu'r bil eto?