Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:30, 14 Hydref 2020

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ddau adroddiad ar lywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad 'Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19' fod cynghorau yng Nghymru, yn ystod chwe mis cyntaf eleni, wedi cofnodi costau ariannol o £325 miliwn oherwydd y pandemig ac er bod cronfa galedi llywodraeth leol Llywodraeth Cymru wedi gwrthbwyso hyn i raddau helaeth, mae'r adroddiad yn nodi ffigurau gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sy'n amcangyfrif y bydd cynghorau'n wynebu pwysau cyllidebol o tua £600 miliwn erbyn 2022-23. Awgrymodd Archwilydd Cyffredinol Cymru fod rhai cynghorau mewn sefyllfa well nag eraill i ymdopi ag effeithiau ariannol yr argyfwng, lle roedd cyfanswm eu cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio oddeutu £1.1 biliwn ym mis Mawrth eleni, ond mae hyn yn amrywio'n fawr: Rhondda Cynon Taf, dros £119 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn y gellid eu defnyddio, i Gonwy, tua £14 miliwn, a Blaenau Gwent, tua £12 miliwn. Sut, felly, rydych chi'n ymateb i ddatganiad yr adroddiad sy'n dweud, er bod y cymorth ariannol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru wedi gwrthbwyso'r pryderon ariannol uniongyrchol i raddau helaeth, efallai y bydd yn rhaid i gynghorau ddefnyddio mwy a mwy ar eu cronfeydd wrth gefn pe bai'r effaith ariannol yn parhau dros y blynyddoedd i ddod? A sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb yn y gallu ar draws y cynghorau i wneud hyn?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:32, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mark. Buom yn trafod rhywfaint ar hyn yn ystod fy ymddangosiad diweddar yn y pwyllgor llywodraeth leol, lle roeddwn yn ateb cwestiynau craffu ar yr ymateb i COVID-19. Felly mae'r ateb i hynny wedi'i gynnwys yn yr ateb rwyf newydd ei roi i nifer o'r Aelodau yn gynharach, sef ein bod yn gweithio gyda phob awdurdod lleol unigol i'n galluogi i ddeall eu hamgylchiadau penodol iawn: beth yw eu sefyllfa o ran cronfeydd wrth gefn; yr hyn y byddent wedi disgwyl ei gael mewn ffioedd a thaliadau a'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig cenedlaethol; beth yw eu sefyllfa o ran gostyngiad mewn incwm; beth yw eu costau ychwanegol; beth yw eu hamgylchiadau penodol yn yr awdurdod lleol penodol hwnnw, er mwyn gallu eu cynorthwyo i wneud hawliadau am y gronfa galedi, sydd, fel rwyf wedi'i bwysleisio droeon, yn cael ei dalu ar sail costau gwirioneddol, yn hytrach nag unrhyw fath o ddull wedi'i lywio gan fformiwla, fel y gallwn ddeall beth yw sefyllfa pob awdurdod lleol a deall eu cynlluniau cydnerthedd ac yn y blaen.

Mae nifer fawr o resymau pam y cedwir gwahanol lefelau o gronfeydd wrth gefn mewn gwahanol awdurdodau: o ganlyniad i bolisïau a bennir yn lleol; o ganlyniad i gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer prosiectau cyfalaf penodol; a nifer fawr o resymau eraill sy'n rhy niferus i'w crybwyll yma. Felly rwy'n hyderus ar hyn o bryd fod gennym reolaeth ar hynny ac nad ydym mewn sefyllfa lle mae unrhyw awdurdod lleol yng Nghymru yn wynebu unrhyw argyfwng ariannol penodol, ond wrth gwrs, mae llawer yn dibynnu ar agwedd Llywodraeth y DU at gyllidebau yn y dyfodol. Byddwn wedi gobeithio'n fawr y byddem wedi cael adolygiad cynhwysfawr o wariant a fyddai wedi ein galluogi i roi rhywfaint o sicrwydd dros gyllideb dair blynedd, fan lleiaf, ond nid yw'n ymddangos y bydd hynny'n digwydd yn awr, ac yn amlwg os oes rhaid i chi gynllunio ar sail flynyddol ar gyfer awdurdodau lleol, mae'n llawer anos i'w wneud o ran cynllunio hirdymor ac mae'n arwain at rai effeithiau tymor byr annymunol.

Ond rydym wedi gweithio'n dda iawn gydag awdurdodau lleol; rydym wedi cydweithredu'n dda iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i swyddogion yr awdurdodau lleol a CLlLC ac i fy holl swyddogion sydd wedi gweithio'n eithriadol o galed drwy'r cyfnod hwn i sicrhau bod gennym lywodraeth leol gadarn yng Nghymru.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:34, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Wel, gobeithio y bydd hynny'n golygu y bydd ystyriaeth yn y dyfodol ynghylch sut i helpu'r rheini sydd â leiaf o gronfeydd wrth gefn yn benodol a allai fod â llai o hyblygrwydd yn yr holl feysydd rydych yn sôn amdanynt.

Ond yn eu hail adroddiad, 'Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol', dadleuodd Swyddfa Archwilio Cymru

'O edrych ar yr ochr orau, nid oes modd rhagweld y cyllid fydd ar gael at y dyfodol, felly mae angen syniadau newydd er mwyn trawsnewid y ffordd y mae cynghorau’n gweithredu i ddiogelu gwasanaethau, a’u gwella, ar gyfer eu cymunedau. O ganlyniad, ni fu cymaint o angen erioed am arloesi a thrawsnewid llywodraeth leol, i fod yn uchelgeisiol a meddwl yn hanfodol wahanol ynghylch yr hyn y mae cynghorau’n ei wneud, a sut, a’r cydberthnasau sydd ganddynt â’u trigolion.'

Canfuwyd bod cefnogaeth gyhoeddus i gynghorau weithredu'n fwy masnachol, gan ddyfynnu arolwg dinasyddion a gynhaliwyd ganddynt hwy eu hunain a ganfu fod naw o bob 10 ymatebydd yn cefnogi eu cyngor yn gyffredinol i ddilyn gweithgareddau masnachol sydd, yn y pen draw, yn cefnogi'r ardal leol drwy dwf economaidd a buddsoddiad yn y cymunedau mwyaf difreintiedig. Sut, felly, rydych yn ymateb i ddadleuon yr adroddiad fod angen i gynghorau ddiffinio a chytuno ar yr hyn y mae masnacheiddio'n ei olygu iddynt hwy eu hunain, eu cymunedau a'u dinasyddion, ac mai newid diwylliant sefydliadau oedd y pwnc a amlygwyd yn fwyaf cyson fel yr her allweddol sy'n wynebu cynghorau rhag dod yn fwy entrepreneuraidd?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:35, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n credu ei bod yn amlwg iawn o'r ffordd y mae awdurdodau lleol wedi ymateb i'r pandemig eu bod yn wir yn sefydliadau hyblyg a gwydn iawn sydd wedi gallu newid y ffordd y maent yn ymateb i'r cyhoedd a'r ffordd y maent yn darparu gwasanaethau, yn yr hyn na ellir ond ei ystyried yn gyfnod o amser gwyrthiol, ac maent wedi cydweithio er mwyn gallu gwneud hynny mewn ffordd y credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn ei chydnabod fel un entrepreneuraidd iawn mewn unrhyw ystyr. Oherwydd mae rhai o'r ffyrdd arloesol y maent wedi gallu ymateb i'r pandemig yn ysbrydoledig iawn yn wir.

Ym Mil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), sydd newydd fynd drwy Gyfnod 2 y pwyllgor yn ddiweddar iawn wrth gwrs, rydym hefyd yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i gynghorau. Fe fyddwch yn ymwybodol, fel aelod o'r pwyllgor, mai un o'r pethau rydym yn ceisio'i wneud yw rhoi rheoliadau ar waith sy'n sicrhau, drwy weithredu mewn ffordd fasnachol, fod pŵer cymhwysedd cyffredinol yn cael ei ddefnyddio mewn ffyrdd penodol, gyda darpariaethau penodol ar gyfer cynlluniau busnes, strwythurau cwmnïau, ac yn y blaen, a fydd yn annog y ffyrdd o feddwl rydym yn disgwyl eu gweld a hefyd yn annog pobl i beidio â defnyddio'r mathau o fentrau masnachol hapfasnachol a arweiniodd at rai awdurdodau yn y gorffennol, yn enwedig yn Lloegr, yn gorymestyn eu hunain mewn mentrau a aeth o chwith yn ddrwg iawn. Gwn fy hun, a minnau wedi byw drwyddo yn ôl ar ddiwedd yr 1980au, y gall rhai mentrau masnachol gan awdurdodau lleol fethu'n syfrdanol ar brydiau.

Felly rydym yn ofalus iawn i weithio gyda'n hawdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn deall y cynlluniau masnacheiddio y maent eisiau eu rhoi ar waith, ein bod yn eu hannog fel y bo'n briodol, fod gennym y mathau cywir o ganllawiau a'r mathau cywir o strwythurau llywodraethu ar waith i'w galluogi i wneud yn union fel yr awgrymwch, i sicrhau'r incwm mwyaf posibl i'w wario ar eu gwasanaethau lleol gan ddiogelu'r cyhoedd ar yr un pryd rhag unrhyw orfasnacheiddio neu weithgarwch sy'n cynnwys risg ormodol a allai beryglu'r gwasanaethau hynny.

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 2:37, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Gan gyfeirio at ddechrau eich ymateb—ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch—serch hynny, tynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at yr angen i newid diwylliant sefydliadau a'r her allweddol iddynt ddod yn fwy entrepreneuraidd. A chanfuwyd bod sgiliau'r aelodau etholedig eu hunain yn rhwystr i gynghorau fanteisio ar gyfleoedd masnachol a mwy o entrepreneuriaeth, gyda bron i ddwy ran o dair o'r aelodau etholedig eu hunain a oedd wedi ymateb i'w harolwg yn dweud bod gallu aelodau etholedig i benderfynu'n effeithiol ar opsiynau yn rhwystro'u cyngor rhag mynd ar drywydd mentrau masnachol. Ac adleisiwyd yr ymatebion hyn gan dimau rheoli corfforaethol, a ddywedodd mai 19 y cant yn unig oedd yn credu bod aelodau etholedig wedi'u hyfforddi'n ddigonol ac yn ddigon medrus i allu ystyried a chymeradwyo mentrau masnachol newydd. Sut rydych chi'n ymateb felly i ddadl yr adroddiad fod y dulliau gorau o weithredu yn cynnwys aelodau etholedig yn gynnar, a bod ganddynt bolisïau penodol wedi'u diffinio'n dda a'u diweddaru'n rheolaidd sy'n briodol i amgylchiadau lleol ac sy'n cynorthwyo cynghorwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau llywodraethu, gwneud penderfyniadau a goruchwylio?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:39, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rydym yn cytuno i raddau helaeth â hynny, a dyna pam rydym yn rhoi'r darpariaethau yn y Ddeddf sy'n ein galluogi i roi'r rheoliadau ar waith i wneud yn union hynny.

Mae problem fawr hefyd ynghylch amrywiaeth mewn democratiaeth. Rydych yn cyfeirio at sgiliau cynghorwyr penodol ac yn y blaen, ond gwyddom fod diffyg amrywiaeth gwirioneddol yn ein democratiaeth ar draws llywodraeth leol. Ac felly, gyda fy nghyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar raglen sy'n hybu amrywiaeth mewn democratiaeth leol, gan obeithio annog ystod lawer ehangach o bobl i gymryd rhan, yn enwedig pobl iau sydd â sgiliau mwy masnachol efallai, ac sy'n dal i weithio, i'n galluogi i sicrhau bod amrywiaeth ym mhrosesau penderfynu awdurdodau lleol wrth symud ymlaen yn dod ag ystod lawer ehangach o leisiau o amgylch y bwrdd nag a welwn ar hyn o bryd mewn rhai awdurdodau lleol.

Ac wrth inni wneud hynny, byddwn hefyd, fel y dywedais, yn rhoi'r rheoliadau ar waith i annog awdurdodau lleol i ddefnyddio'r pŵer cymhwysedd cyffredinol, ond i wneud hynny mewn modd cadarn, gan gymryd y risgiau rydym yn credu eu bod yn dderbyniol a diogelu'r cyhoedd rhag risgiau masnachol gormodol, sydd, fel y gwelsom yn y gorffennol, wedi arwain at rai amgylchiadau lle mae awdurdodau lleol wedi dod yn agos iawn at beidio â gallu parhau. Felly, rydym yn awyddus iawn, Mark, i geisio sicrhau cydbwysedd rhwng y ddau beth ac i weithio'n agos iawn gyda Swyddfa Archwilio Cymru er mwyn gwneud hynny.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn ofyn ynglŷn â rhai o'r sylwadau a wnaed gan y Prif Weinidog ddoe am adeiladau anniogel. Rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol o'r adeiladau rwy'n cyfeirio atynt; rwy'n cyfeirio, wrth gwrs, at fflatiau â chladin anniogel, er enghraifft. Dywedodd y Prif Weinidog y dylai datblygwyr dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny ac na ddylai lesddeiliaid fod yn talu'r bil. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn ymwybodol o'r mater hwn ers tro bellach, felly fy nghwestiwn i yw: pam nad yw'r Llywodraeth wedi gorfodi'r datblygwyr i dalu'r bil eto?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:41, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, yn anffodus, Delyth, nid oes gennym yr holl bwerau angenrheidiol i newid y gyfraith sylfaenol er mwyn gallu gwneud hynny. Byddem yn gwneud hynny pe gallem; hoffwn allu gwneud hynny'n fawr iawn. Mae rhai pethau y gallwn eu gwneud wrth symud ymlaen a fydd yn diogelu pobl rhag bod yn y sefyllfa honno gydag adeiladau newydd, ond ni fydd hynny'n helpu'r bobl sydd mewn sefyllfaoedd anodd iawn ar hyn o bryd mewn adeiladau ar hyd a lled y wlad—mae nifer fawr ohonynt wedi cael eu crybwyll o'r blaen yn y Cyfarfod Llawn. 

Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i ffyrdd o allu cynorthwyo pobl i wneud y gwaith heb iddynt golli eu hecwiti i gyd, ond pe bawn—. Mae'n beth anodd iawn i'w wneud, gadewch i ni fod yn glir. Mae'r berthynas rhwng y lesddeiliad, y rhydd-ddeiliad, a'r rhwymedigaethau cytundebol rhwng y lesddeiliad, y rhydd-ddeiliad a'r adeiladwr gwreiddiol, y cwmni rheoli ac yn y blaen yn wahanol ym mhob un adeilad. Felly, mae'n anodd iawn trin amgylchiadau penodol pob adeilad ar sail gyffredinol. Ac mae gennyf amryw o gyfarfodydd i ddod lle byddaf yn cyfarfod â phreswylwyr blociau penodol sydd wedi gofyn am gael cyfarfod â mi. A dylwn ddweud ar hyn o bryd, Lywydd, fod gennyf un o'r rhain yn fy etholaeth fy hun, yn y canol, felly mae cyd-Aelodau yn y Llywodraeth yn ymdrin â'r mater penodol hwnnw ar fy rhan, am fy mod yn awyddus i'w cynrychioli fel eu cynrychiolydd etholedig.

A'r hyn yr hoffem allu ei wneud—. Felly, mae ffordd i'r cyngor lleol wneud y gwaith angenrheidiol i ddiogelu'r adeilad rhag tân. Ac rydym yn awyddus iawn—. Rydym wedi bod yn gweithio gyda'r gwasanaethau tân—mae fy nghyd-Aelod Hannah Blythyn wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r gwasanaethau tân hefyd—i sicrhau ein bod wedi cael yr holl archwiliadau cywir a bod pobl mor ddiogel ag sy'n bosibl iddynt fod heb y gwaith sydd ei angen i'w wneud yn 100 y cant. Ond wrth gwrs, os yw'r cyngor lleol yn gwneud gwaith diofyn ar yr adeiladau hynny, yr hyn a wnânt yw codi pridiant tir ar yr eiddo yn yr adeilad i adennill cost y gwaith, ac mae'r bobl hynny, druan, yn colli eu holl fuddsoddiad yn eu heiddo. Nawr, pe bai'n sefyllfa bywyd a marwolaeth, wrth gwrs y byddem yn gwneud hynny gan nad ydym eisiau i neb fod yn y sefyllfa honno. Ond mae'n gydbwysedd rhwng ceisio sicrhau bod pobl yn cadw rhywfaint o ecwiti yn eu lesddaliadau a'n bod yn rhoi'r trefniadau diogelwch tân rydym eu heisiau ar waith. Ac mae arnaf ofn fod hynny'n gymhleth iawn, ac mae'n golygu bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhai pethau. Rydym wrthi'n gweithio gyda Llywodraeth y DU ar hyn o bryd i geisio rhoi rhai o'r darpariaethau hynny ar waith, ond nid yw'n bosibl rhoi trefniant llys cyffredinol ar waith sy'n caniatáu iddynt erlyn yr adeiladwyr yn y lle cyntaf. Pe bai hynny'n bosibl, byddem wedi gallu gwneud hynny.

Nid wyf yn aml yn garedig wrth Lywodraeth y DU, ond yn yr achos hwn, dywedaf ei fod yn beth eithaf cymhleth i geisio'i ddatrys. Felly, rydym yn gweithio'n galed iawn i geisio sefydlu cynllun a fyddai'n caniatáu i lesddeiliaid hawlio arian gennym heb golli eu hecwiti i gyd, ond bydd yn amhosibl ei wneud heb iddynt golli rhywfaint o'u hecwiti, ac mae'n fater o sut y gallwn ddatrys y set gymhleth honno o amgylchiadau. Felly, nid yw'n bosibl siarad amdano ar sail gyffredinol. Mae pob adeilad unigol, y ffordd y trefnir y les, y ffordd y trefnir y rhwymedigaethau, pwy sy'n berchen arno, lle mae'r cwmni rheoli ac yn y blaen, i gyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn sy'n bosibl. Felly, mae arnaf ofn ei fod yn gymhleth iawn.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:44, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, rwy'n gwerthfawrogi eich gonestrwydd yn nodi'r anawsterau. Rwy'n credu ei bod yn ddefnyddiol eich bod wedi cadarnhau bod angen pwerau pellach ar Gymru er mwyn rhoi mwy o amddiffyniad, ac yn amlwg, byddai Plaid Cymru yn cefnogi'r Llywodraeth i geisio sicrhau'r pwerau ychwanegol hynny.

Rydych wedi nodi rhai o'r darpariaethau rydych yn bwriadu eu cyflwyno o fewn pwerau'r Llywodraeth fel ag y maent. Byddai rhai o'r pethau yr hoffem weld y Llywodraeth yn eu gwneud, ac y byddem yn sicr yn eu cefnogi, yn cynnwys rhywfaint o'r hyn rydych wedi'i nodi: newid cyfraith cynllunio i ganiatáu i berfformiad blaenorol datblygwr fod yn ystyriaeth berthnasol hefyd; sicrhau bod gan adrannau cynllunio yr adnoddau y maent eu hangen i sicrhau bod datblygwyr mawr yn cydymffurfio ag amodau cynllunio, fel nad ydym yn gweld yr un datblygwyr yn gwneud yr un camgymeriadau neu'n torri'r un corneli eto; a chyflwyno cynlluniau ar gyfer newid rheoleiddiol, fel rydych newydd nodi, a'u cyflwyno yn awr oherwydd—yn eich ateb gonest, yn amlwg fe wnaethoch gyfeirio at hyn—gorau po gynharaf y gallwn ddatrys y sefyllfa gymhleth hon er lles iechyd meddwl y bobl sy'n byw yn y blociau tai hyn. A fyddech yn ystyried y mesurau eraill hyn, Weinidog, ac a fyddech yn dweud hynny ar y cofnod? Oherwydd rwy'n credu y gallai'r cyhoeddusrwydd ynghylch enw da yn dod yn ystyriaeth berthnasol fod yn ddigon i wneud i'r datblygwyr hyn unioni'r sefyllfa heb inni orfod gorfodi'r peth.

Photo of Julie James Julie James Labour 2:45, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wrth gwrs, rydym yn barod i edrych ar bob posibilrwydd ar gyfer hynny. Dywedaf unwaith eto fod rhai o'r pethau hynny'n swnio'n ddeniadol, ond maent yn llawer anos i'w gwneud yn ymarferol mewn gwirionedd. Felly, rwyf am ddefnyddio fy enw fy hun fel enghraifft: gallwn fod yn Gwmni Adeiladu Julie James Cyf. a gallwn werthu Cwmni Adeiladu Julie James Cyf. a gallwn ddechrau Cwmni Adeiladu Julie Jones Cyf. a byddai Cwmni Adeiladu Julie James Cyf. yn cael ei wahardd rhag cynllunio oherwydd y pethau gwael y byddwn wedi'u gwneud, ond mewn gwirionedd gallai'r sawl a oedd yn euog o wneud y pethau hynny fod wedi mynd a dechrau rhywbeth arall. Felly, mae yna lawer o gymhlethdodau. Nid yw hyn yn ymwneud ag enw cwmni'n unig. Felly, unwaith eto, mae rhai o'r pethau hyn yn swnio fel pe baent yn hawdd i'w gweithredu, ond mewn gwirionedd, yn ymarferol, mae'n anodd iawn sicrhau bod yr unigolion sy'n gyfrifol—oherwydd yn y pen draw, polisïau unigol sy'n gyfrifol—yno. Mae llawer o'r adeiladau hyn yn cael eu hadeiladu gan fentrau arbenigol ar y cyd rhwng amryw o wahanol gwmnïau, cyllid ac yn y blaen. Felly, mae'n ddeniadol, ac rwy'n deall yr atyniad o ddweud y byddem yn gwneud hynny, ond mae'n llawer mwy cymhleth o ran—. O ran ysgrifennu'r rheoliadau mewn gwirionedd, mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Ond rydym yn edrych i weld beth y gellir ei wneud.

Ac unwaith eto, Delyth, hoffwn bwysleisio ein bod, wrth gwrs, yn awyddus iawn i'w unioni wrth symud ymlaen, ond nid yw hynny'n datrys problem y bobl sydd â'r broblem yn awr—ni allaf wneud hynny'n ôl-weithredol. Ac felly, yr hyn rydym hefyd yn ceisio'i wneud yw gweld beth y gellir ei wneud i gynorthwyo'r bobl sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno ar hyn o bryd. Felly, mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â hwy, ond mae'n anodd iawn, oherwydd yn y pen draw, prynu tŷ, prynu cartref, dyna lle rydych yn byw, ond mae hefyd yn fuddsoddiad a'r ddeuoliaeth rhwng y ddau beth hynny sydd mor anodd i'w chael yn iawn o dan yr amgylchiadau hyn.

Ond hoffwn sicrhau'r Senedd, mewn sefyllfa bywyd a marwolaeth, fod pwerau yn eu lle i awdurdod lleol wneud hynny, ond byddai'n golygu bod y bobl y tu mewn i'r adeilad yn colli'r ecwiti ac yn gyffredinol, nid yw hynny'n rhywbeth y maent yn barod i'w ystyried.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:47, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, unwaith eto, diolch am eich ymateb i'r cwestiwn hwnnw, Weinidog.

Photo of Julie James Julie James Labour

(Cyfieithwyd)

Dylwn ddweud, Delyth, am resymau dealladwy, nad oeddwn yn eu beio am hynny. Hoffwn wneud hynny'n glir iawn—nid wyf yn rhoi unrhyw bwysau arnynt; rwy'n deall eu rhesymau, ond mae'n gymhleth iawn.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 2:48, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Na, diolch am egluro hynny, Weinidog. Nid wyf yn credu i chi roi'r argraff honno, ond mae'n amlwg yn dda cofnodi hynny. Nid wyf yn amau natur gymhleth hyn am eiliad. Byddwn yn eich annog i beidio ag aros i weithredu ar y mater oherwydd mae'n amlwg ein bod eisiau gallu rhoi gobaith i breswylwyr. Ond rwy'n falch o glywed eich bod yn ystyried amrywiaeth o'r gwahanol opsiynau hyn, ac fel y dywedwch, maent yn opsiynau a fydd yn helpu preswylwyr y dyfodol, ond maent hefyd yn ceisio unioni'r sefyllfa i breswylwyr sydd wedi'u dal yn y sefyllfa ofnadwy hon yn barod.

Yn olaf, Weinidog, roeddwn eisiau ystyried rhai o'r sylwadau a wnaed gan David Melding ddoe, lle roedd yn beio cyfundrefn reoleiddio lac yng Nghymru a Lloegr am ganiatáu i'r sgandalau hyn ddigwydd yn y lle cyntaf. Unwaith eto, mae hyn yn cyffwrdd ar rywfaint o'r hyn rydym eisoes wedi sôn amdano, ond nid materion diogelwch tân yn unig rydym yn ei drafod yma—mae ystadau heb eu gorffen, lesddaliadau'n cael eu camwerthu, fel rydym wedi'i grybwyll, a datblygwyr yn torri addewidion, fel rydym wedi sôn, wedi dod yn nodwedd o ddatblygiad dros y degawd diwethaf. Mae'r achos dros ordreth ar elw datblygwyr mawr yn gryf iawn. A fyddech yn cefnogi'r alwad honno?

Photo of Julie James Julie James Labour 2:49, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Credaf fod angen pob math o ymatebion i hyn. Mae Llywodraeth y DU—ac rydym yn cydweithredu â hyn—wedi penodi Ombwdsmon Cartrefi Newydd, wrth gwrs, o ganlyniad i rai o'r materion eraill nad ydynt yn ymwneud ag adeiladau uchel iawn. Mae nifer fawr o'n cwmnïau adeiladu mawr wedi mynd i drafferthion difrifol o ganlyniad i rai o'r arferion adeiladu a oedd ganddynt, a chredaf fod y rheini'n hysbys iawn. A dyna pam fod Llywodraeth y DU wedi penodi Ombwdsmon Cartrefi Newydd er mwyn diogelu pobl rhag y math hwnnw o sgandal. A dyna pam ein bod ni yma yng Nghymru yn benderfynol o roi ein system gynllunio ar waith mewn ffordd gadarn fel bod gan bobl system gynllunio gadarn i'w dilyn a chyfundrefn gadarn ar ben hynny i arolygu diogelwch adeiladau er mwyn sicrhau ein bod yn dysgu'r gwersi ac yn gwneud yn siŵr fod gennym system gadarn. Nawr, yn anffodus, oherwydd y pandemig, mae gwaith ar ein rheoliadau diogelwch adeiladu bellach wedi'i oedi. Rydym ar fin cyflwyno Papur Gwyn ar hynny ac rydym yn gweithio'n galed iawn gyda'r darpariaethau diwygio lesddaliadau y bu Comisiwn y Gyfraith yn eu hystyried. Maent wedi cyflwyno adroddiad yn ddiweddar, ac rydym yn edrych i weld beth y gellir ei wneud ar y cyd â rhywfaint o ddeddfwriaeth y DU, os yn bosibl, oherwydd y diffyg amser sydd gennym bellach yn narpariaethau’r Senedd i allu gwneud hyn.

Un o'r pethau gwirioneddol drist am y pandemig, yn ogystal â'r holl bethau eraill y gwyddom amdanynt, yw ein bod wedi colli cyfle i roi rhai o'r diwygiadau diogelwch adeiladu ar waith. Ond rwy'n credu bod consensws ar draws y Siambr, felly bydd gan bwy bynnag sy'n ffurfio'r Llywodraeth nesaf gynllun parod, ac rwy'n siŵr, yn gynnar iawn yn y tymor newydd, y bydd pwy bynnag yw'r Llywodraeth yn gallu gweithredu'r diwygiadau hynny. Nid wyf yn credu eu bod nhw'n ddadleuol mewn unrhyw ffordd, ac rwy'n siŵr y byddwn yn gallu gwneud hynny'n gyflym iawn.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 2:51, 14 Hydref 2020

Tynnwyd cwestiwn 3 [OQ55673] yn ôl, felly cwestiwn 4, Adam Price.