Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 14 Hydref 2020.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod â thrigolion Llysfaen, ychydig y tu allan i Fae Colwyn yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Rwyf wedi gohebu â chi ar ran trigolion Llysfaen yn y gorffennol oherwydd bod potensial ar gyfer cynllun cysylltu â'r prif gyflenwad nwy yn y gymuned honno. Mae'n gymuned eithaf mynyddig ac yn agored iawn i'r elfennau, felly mae costau gwresogi'n uchel iawn. Yn anffodus, nid oedd y cynllun nwy arfaethedig yn addas oherwydd costau ariannol cysylltu â'r prif gyflenwad. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr, pe bai cynllun amgen nad yw'n gysylltiedig â nwy yn cael ei gyflwyno, y gallwch ei gymeradwyo cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, os cyflwynir y pecyn hwnnw i chi gan Arbed am Byth?