2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i drigolion er mwyn lleihau costau ynni yn eu cartrefi? OQ55690
Diolch, Darren. Ers 2011, mae cymorth i bobl yng Nghymru i wella eu heffeithlonrwydd ynni cartref wedi bod ar gael drwy ein rhaglen Cartrefi Cynnes, sydd wedi helpu dros 61,400 o aelwydydd i leihau eu biliau ynni. Cefnogir gwelliannau i effeithlonrwydd ynni cartref yn y sector tai cymdeithasol drwy safon ansawdd tai Cymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod â thrigolion Llysfaen, ychydig y tu allan i Fae Colwyn yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Rwyf wedi gohebu â chi ar ran trigolion Llysfaen yn y gorffennol oherwydd bod potensial ar gyfer cynllun cysylltu â'r prif gyflenwad nwy yn y gymuned honno. Mae'n gymuned eithaf mynyddig ac yn agored iawn i'r elfennau, felly mae costau gwresogi'n uchel iawn. Yn anffodus, nid oedd y cynllun nwy arfaethedig yn addas oherwydd costau ariannol cysylltu â'r prif gyflenwad. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr, pe bai cynllun amgen nad yw'n gysylltiedig â nwy yn cael ei gyflwyno, y gallwch ei gymeradwyo cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, os cyflwynir y pecyn hwnnw i chi gan Arbed am Byth?
Wel, Darren, yn amlwg ni allaf wneud sylwadau ar gynllun unigol o'r math hwnnw na rhoi sicrwydd o'r fath, gan nad wyf yn gwybod digon am y manylion penodol. Serch hynny, rwy'n fwy na bodlon siarad gyda chi am y manylion a gwneud fy ngorau glas i weld beth y gallwn ei wneud i breswylwyr yn y sefyllfa honno. Fel y dywedoch chi'n gywir, mae Arbed, sydd ym mhortffolio fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Lesley Griffiths mewn gwirionedd, yn darparu cynlluniau o'r math hwnnw i gynorthwyo pobl sydd oddi ar y grid nwy, gydag olew ac amrywiol ddewisiadau eraill drutach ar gyfer gwresogi cartref, ac inswleiddio ac yn y blaen. Felly, ni allaf roi'r addewid penodol rydych chi'n gofyn amdano, ond rwy'n hapus iawn i siarad gyda chi a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ynglŷn â pha gynlluniau a allai fod ar gael yn yr achos unigol hwnnw.