Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 3:06 pm ar 14 Hydref 2020.
Wel, Darren, yn amlwg ni allaf wneud sylwadau ar gynllun unigol o'r math hwnnw na rhoi sicrwydd o'r fath, gan nad wyf yn gwybod digon am y manylion penodol. Serch hynny, rwy'n fwy na bodlon siarad gyda chi am y manylion a gwneud fy ngorau glas i weld beth y gallwn ei wneud i breswylwyr yn y sefyllfa honno. Fel y dywedoch chi'n gywir, mae Arbed, sydd ym mhortffolio fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Lesley Griffiths mewn gwirionedd, yn darparu cynlluniau o'r math hwnnw i gynorthwyo pobl sydd oddi ar y grid nwy, gydag olew ac amrywiol ddewisiadau eraill drutach ar gyfer gwresogi cartref, ac inswleiddio ac yn y blaen. Felly, ni allaf roi'r addewid penodol rydych chi'n gofyn amdano, ond rwy'n hapus iawn i siarad gyda chi a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths ynglŷn â pha gynlluniau a allai fod ar gael yn yr achos unigol hwnnw.