Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 14 Hydref 2020.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig hwn. Hoffwn ddweud ychydig eiriau i dalu teyrnged i ddyfalbarhad fy nghyd-Aelod Jenny Rathbone yn ymdrechu i sicrhau y gallwn drafod y pwnc hwn heddiw. Mae'n fater mor bwysig. Fel y dywedwyd, mae endometriosis yn effeithio ar un o bob 10 menyw yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu bod y cyflwr creulon hwn yn effeithio ar 160,000 o fenywod yng Nghymru. Bydd meinwe'n tyfu ac yn glynu at yr organau yn eu pelfis, gan achosi llid a all arwain at boen sylweddol, poen yn y pelfis, y cefn, y coesau, yr afl—poen dirdynnol yn ystod mislif, yn ystod rhyw, wrth ddefnyddio'r toiled, neu ddim ond wrth fyw bywyd bob dydd. Gall effeithio ar y gallu i weithio neu fywyd y cartref, gan y gall poen wanychol wneud gweithgareddau cyffredin hyd yn oed yn anodd. Gall y boen arwain at flinder, iselder, anffrwythlondeb, neu hyd yn oed, fel y nododd adroddiad gan y BBC y llynedd, at feddyliau hunanladdol.
Fodd bynnag, gall fod yn anodd gwybod gwir raddfa'r cyflwr. Mae rhai menywod yn dioddef y boen, yn ymdrechu'n daer i ymdopi, gan drin eu hunain, neu fel y soniodd Jenny Rathbone o'r blaen, efallai nad ydynt yn sylweddoli beth yn union y maent yn ei wynebu. Hyd yn oed os yw rhywun wedi cymryd y cam a mynd i siarad â'i meddyg, ceir tanddiagnosis neu gamddiagnosis o endometriosis, gan arwain at fenywod yn methu cael y cymorth cywir. Gall hefyd fod yn anodd iawn cael gafael ar gymorth arbenigol, pwynt a nodwyd yn ail bwynt y cynnig heddiw. Mae pwynt 5 yn cynnig un ateb i hyn, gan alw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigwyr endometriosis yn cael eu hyfforddi i ddiwallu anghenion y genedl. Ac rwy'n falch o weld bod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant, sy'n gwasanaethu cynifer o fy etholwyr, yn cael ei ystyried gan ymgynghorwyr arbenigol fel canolfan ar gyfer llawdriniaeth bellach. Mae hyn yn gysylltiedig â'r ymchwil sydd ei hangen i ddyfnhau ein dealltwriaeth o achosion y cyflwr a hefyd yr ymyriadau mwyaf effeithiol, fel y noda pwynt 3 yn y cynnig.
Gwyddom y gall merched yn eu harddegau wynebu anhawster i gael triniaeth. Mae hyn yn creu perygl y bydd cyflwr heb ei drin yn achosi effaith gydol oes. Mae ein pedwerydd pwynt yn nodi'r atebion posibl i fynd i'r afael â hyn a chodi ymwybyddiaeth drwy sicrhau bod ysgolion yn gwneud pob disgybl yn ymwybodol o'r hyn sy'n gyfnod mislif normal a phryd i ofyn am gyngor meddygol.
Wrth i mi gloi, rwyf am ystyried effaith y pandemig coronafeirws presennol ar fenywod yr effeithir arnynt gan endometriosis. Mae unrhyw un sy'n cael triniaeth neu sy'n aros am apwyntiad yn debygol o wynebu oedi neu ganslo. Os ydych yn aros am ymgynghoriad, mae'n debygol o gael ei wneud o bell. Mae Endometriosis UK wedi rhoi rhybudd clir y bydd y rhan fwyaf o lawdriniaethau'n cael eu hystyried yn rhai nad ydynt yn rhai brys, ac y bydd hynny'n golygu y cânt eu canslo neu eu hail-drefnu neu wynebu mynd ar restr aros hirach o lawer. Rwy'n falch fod yr elusen yn gweithio'n agos gyda Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr i fonitro'r sefyllfa hon. Ond mae'r ddadl heddiw yn ein hatgoffa'n amserol na allwn anghofio am y menywod y bydd eu bywydau'n cael eu newid gan y cyflwr hwn.
Gobeithio y bydd y Senedd yn cefnogi'r camau synhwyrol a amlinellwn fel y gallwn wneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y menywod hynny yn eu tro yn cael eu cefnogi hyd eithaf ein gallu. Diolch.