Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch yn fawr. Dwi eisiau jest ymateb yn glou i'r bobl sydd wedi cyfrannu. Diolch yn gyntaf i Gadeirydd y pwyllgor deddfwriaethol, a diolch am gydnabod ein bod ni wedi dangos yn ein hesboniad ni ein bod ni yn cydymffurfio â deddfwriaeth ryngwladol. Mae'n bwysig tanlinellu nad yw ysmygu yn hawl ddynol, ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod pobl yn deall hynny. Rŷn ni yn gwybod bod ysmygu yn niweidiol iawn i iechyd pobl. Mae ysmygu yn un o brif achosion salwch a marwolaeth gynnar, ac yn achos sylweddol o anghydraddoldebau iechyd yn ein cymunedau ni.
Jest i ymateb yn gyflym i Mr Davies: jest i fod yn glir, nid yw'r mesurau rŷn ni'n dod ger eich bron chi heddiw yn effeithio ar fannau preifat. Beth rŷn ni'n sôn amdanynt fan hyn yw ysbytai, llefydd cyhoeddus—meysydd chwarae cyhoeddus, er enghraifft—a dyw hyn ddim yn amharu ar fannau preifat pobl. Jest i ategu'r hyn yr oedd Mr Griffiths yn ei ddweud ynglŷn â'r help y mae angen ei roi i bobl sydd eisiau stopio ysmygu, mae eisiau canolbwyntio ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r ffaith bod gwasanaeth gyda ni, Help Me Quit, sydd wedi bod yn gweithredu drwy gydol y pandemig. Rŷn ni'n ymwybodol bod lot o bobl eisiau rhoi'r gorau i ysmygu yn ystod y pandemig yma.
Rŷn ni wedi gweld lleihad yng nghyffredinrwydd ysmygu yng Nghymru, ond rŷn ni'n ymwybodol bod rhagor i'w wneud. Mae'r rheoliadau hyn yn rhan o'n camau parhaus ni i wneud Cymru yn ardal ddi-fwg, lle nad yw ysmygu yn cael ei wneud fel gweithgaredd arferol bellach, a lle bydd pobl yn cael eu cefnogi i wneud y dewisiadau cadarnhaol yna er eu lles a'u hiechyd nhw. Felly, dwi'n gofyn i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau hyn, a dwi'n cytuno ei bod hi'n angenrheidiol i wella iechyd y cyhoedd a bywydau pobl Cymru. Diolch yn fawr.