Part of the debate – Senedd Cymru am 5:21 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch, Llywydd. Rydym ni, yn amlwg, o'r farn, o ystyried difrifoldeb difrifol y sefyllfa sy'n ein hwynebu ni yn awr, nad oes gan y Llywodraeth unrhyw ddewis heblaw cyflwyno'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe. Nid oes gennym ni amser i'w wastraffu, a dweud y gwir, oherwydd mae'r adroddiad gan y gell cyngor technegol mor ddiamwys ag y mae'n—. Wel, rwyf eto i fyth—. Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn ysgwyd ei ben, ond ni allaf i, mewn 20 mlynedd o fywyd cyhoeddus, gofio adroddiad cynghorol i'r Llywodraeth sydd wedi bod mor glir a diamwys â hyn. Gadewch i mi ddarllen y paragraff olaf:
'Mae'r gell cyngor technegol yn argymell ystyried a gweithredu cyfnod atal cenedlaethol caled ar frys er mwyn lleihau'r trosglwyddo yn aruthrol am gyfnod o wythnosau'.
Ac yn yr adroddiad—. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynghylch yr hyn y mae'n ei ddweud: pe na byddai'r Llywodraeth yn gwneud yr hyn y mae wedi ei gyhoeddi, yna byddai rhwng 960 a 1,300 o bobl yn marw yng Nghymru, yn ôl yr amcangyfrifon, erbyn diwedd y flwyddyn. Dyna'r pris, o bosibl, o ohirio unrhyw gamau gweithredu; byddem ni wedi hoffi eu gweld yn cael eu cymryd yn gynharach.
Wrth gwrs, mae'n wir nad oes gennym ni wybodaeth berffaith. Nid oes gennym ni dreialon rheoli ar hap ynghylch yr ymyraethau manwl, ond beth mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud? Rwyf i wedi gweld dyfyniad. Beth am i ni ddarllen yr hyn y mae y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau yn ei ddweud am y dystiolaeth yn llawn:
'Mae'r sylfaen dystiolaeth i effeithiolrwydd a niwed yr ymyraethau hyn yn wan ar y cyfan. Fodd bynnag, mae brys y sefyllfa yn golygu na allwn ni aros am dystiolaeth o ansawdd gwell cyn gwneud penderfyniadau.'
Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniad yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd o'n blaenau, ac mae'r gell cyngor technegol yn gwbl glir—mae gennym ni gynnydd esbonyddol mewn achosion, cyfartaledd o 4 y cant, yn ôl adroddiad y gell cyngor technegol, ac mae hynny'n parhau ac mae'n arwain at ymledu ledled Cymru, a dyna pam y maen nhw wedi dod i'r casgliad ei bod yn angenrheidiol, fel mesur o frys, i gyflwyno'r cyfnod atal byr.
Nawr, nid cyfyngiadau symud parhaus yw'r ateb. Mae'n rhaid i ni felly ailosod y strategaeth a'r polisïau, a dyna sydd wrth wraidd ein gwelliant, ac mae'n gyson â'r hyn yr ydym ni wedi ei ddweud drwyddi draw. Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn a myfyrio ar yr hyn sydd wedi mynd o'i le a'r hyn y gellir ei unioni.
A phan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—a gwelsom yn yr astudiaeth yn The Lancet fis yn ôl—mae gennym ni wersi o bob cwr o'r byd y gallwn ni eu rhoi ar waith er mwyn ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto, ac, yn enwedig, gan fod un o'r gwelliannau eraill yn pwysleisio, wrth gwrs, pwysigrwydd, pwysigrwydd canolog, fel y dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd o'r dechrau, system brofi, olrhain ac ynysu a chefnogi. Mae'n rhaid i ni unioni hynny, ac mae gwersi o bob cwr o'r byd o ran sut y gallwn ni gryfhau'r system honno a sicrhau bod ganddi adnoddau digonol.
Mae angen i ni fabwysiadu strategaeth dim-COVID neu strategaeth ddileu, oherwydd, pan edrychwn ni ar draws y byd, wrth gwrs—. Edrychwch ar y sefyllfa mewn llawer o wledydd ledled y byd—Fietnam, 97 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau yn Fietnam? Hyd yma, 35. Taiwan, 23 miliwn o bobl. Faint o farwolaethau hyd yma? Saith. Seland Newydd, sy'n gyfarwydd iawn i ni—33 o farwolaethau mewn poblogaeth o 5 miliwn. Cymharwch hynny—125 miliwn yn y tair gwlad hynny gyda'i gilydd, 75 o farwolaethau i gyd—cymharwch hynny â'r 1,700 o farwolaethau yng Nghymru. Mae gwledydd y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw, ac mae angen i ni ddefnyddio'r cyfnod hwn dros yr wythnosau nesaf i gael dadl, ie, a sefydlu system wahanol, polisi gwahanol, fframwaith gwahanol, sy'n golygu nad ydym ni'n gorfod ystyried cyfnod o gyfyngiadau symud dro ar ôl tro.
Ni ddylem ni fod yn y sefyllfa hon, ond mae'n rhaid i ni weithredu nawr, neu fel arall bydd pobl yn marw yn ddiangen. Ond gadewch i ni, yn sicr, edrych ar draws y byd ar yr hyn y mae'r Almaen yn ei wneud ar awyru, ar y polisi masgiau sydd wedi'i gyflwyno mewn llawer o wledydd, gan ymestyn ei ddefnydd, ar yr olrhain cyswllt tair haen y mae Fietnam yn ei ddefnyddio, ar bwysigrwydd cymorth ariannol ac ymarferol i helpu pobl i ynysu, ar atal digwyddiadau ymledu mawr, ar brofi cysylltiadau asymptomatig—mae llu o wersi ar gael, ac mae cyfathrebu clir a chyson yn gwbl ganolog. Gadewch i ni ddysgu'r gwersi hynny yn awr, fel y gallwn ni ddefnyddio'r wythnosau nesaf a chael ymdeimlad o genhadaeth genedlaethol, fel y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd, y Llywodraeth a'r gwrthbleidiau yn gweithio'n adeiladol, gan weithio gyda chymunedau ledled Cymru, fel y gallwn ni achub bywydau nid dim ond yn ystod y tri mis nesaf, ond ein hatal rhag bod yn y sefyllfa hon eto.