Part of the debate – Senedd Cymru am 5:27 pm ar 20 Hydref 2020.
Llywydd, pan aethom ni i'r cyfnod o gyfyngiadau symud am y tro cyntaf ym mis Mawrth a phasio deddfwriaeth frys yn groes i gymaint o'n greddfau naturiol, democrataidd, dywedais bryd hynny—ac fe'i dywedaf eto nawr—wnes i ddim dod i'r lle hwn i wneud penderfyniadau felly, ond, ar adegau o argyfwng, mae'n rhaid gwneud y penderfyniadau anoddaf. Dyna yw ein dyletswydd. Mae hynny'n golygu na allwn ni guddio nac osgoi'r penderfyniadau anodd hynny. Allwn ni ddim dilyn y llif poblyddol a fyddai o bosibl yn rhoi rhywfaint o boblogrwydd tymor byr i ni gyda phobl sy'n gwrthod gwrando ar yr wyddoniaeth na chael eu harwain ganddi. Mae'n rhaid i ni wneud penderfyniadau anodd er lles gorau pawb—dyna beth sy'n iawn ac yn briodol i'w wneud. Dyna y cawsom ni ein hethol i'w wneud, a dyna y mae ein Llywodraeth yng Nghymru wedi bod yn ei wneud.
Mae ein Prif Weinidog wedi dangos agwedd ddigyffro, pwyllog a deallus wrth ymdrin â'r argyfwng hwn. Mae'n deall y problemau, mae'n deall yr effaith ar bob un ohonom ni, ac mae wedi dangos gwerth datganoli a llywodraethu da i bawb sy'n barod i wrando. Cymharwch hynny, os gwnewch chi, â'r cawlio a'r diffyg manylion a dealltwriaeth Trumpaidd o'r argyfwng a ddangoswyd gan Brif Weinidog y DU, ac rwyf yn diolch byth ein bod ni yng Nghymru.
Felly, ar ôl bod drwy'r cyfnod anoddaf y gall unrhyw un ohonom ni ei gofio, ar yr adeg hon rwy'n gofyn i mi fy hun: beth sydd fwyaf pwysig? Ac mae'n rhaid mai'r ateb yw cefnogi'r camau hynny sy'n helpu i leihau cyfraddau heintio a helpu i achub bywydau yn fy etholaeth i a ledled Cymru, ac i wneud yr hyn y gallwn ni i sicrhau y gall ein GIG nid yn unig reoli'r cynnydd mewn achosion o COVID, ond y gall hefyd gynnal y cynnydd mewn gweithgarwch nad yw'n COVID sydd wedi ei ailddechrau yn y misoedd diwethaf.
Ar ôl darllen y cyngor cefndirol i'r penderfyniad hwn, byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth heddiw yn ei phenderfyniad i gyflwyno cyfnod atal byr. Mae'n seiliedig ar wyddoniaeth, mae'n seiliedig ar gyngor meddygol, mae'n seiliedig ar wybodaeth o'r gell cyngor technegol. Nid yw'n osgoi yr hyn y mae'n rhaid ei wneud—mae'n gwneud y peth iawn. A dylai gwrthwynebwyr poblyddol y Llywodraeth yn rhengoedd y Torïaid Cymreig, UKIP, Brexit, Diddymu Cynulliad Cymru, y grŵp diwygio annibynnol, neu unrhyw fersiwn arall gan y rheini sy'n credu bod y byd yn wastad ac sy'n gwadu bod COVID yn bodoli, fyfyrio ar hynny.
Ond bydd Gweinidogion hefyd yn gwybod—ac rwyf i wedi bod yn glir iawn yn fy marn—bod yn rhaid i unrhyw gyfyngiadau iechyd gyd-fynd â chymorth economaidd. Felly, rwy'n falch iawn o weld bod mesurau wedi'u cyhoeddi a fydd yn helpu i gefnogi'r busnesau hynny y bydd yn ofynnol iddyn nhw gau unwaith eto am y pythefnos nesaf. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu yn y fan yma o fewn yr adnoddau sydd ar gael iddi. Maen nhw'n cymryd cyfrifoldeb am eu penderfyniadau, ond mae angen i ni hefyd weld Llywodraeth y DU a'r Canghellor yn gwneud yr un peth. Maen ganddynt hwythau hefyd gyfrifoldeb mawr, ac mae'n rhaid iddyn nhw gynnig cymorth ychwanegol i'r gweithwyr hynny sy'n canfod eu hunain yn cael eu diswyddo am gyfnod byr neu'n cael eu diswyddo'n barhaol wrth i ni geisio cael rheolaeth dros ledaeniad y feirws hwn.
Mewn gwirionedd, nid haf o pizzas hanner pris oedd yr ymateb gorau i'r pandemig hwn. Cymorth economaidd parhaus yw'r unig bont y gallwn ni ei darparu rhwng nawr a dyfodol anhysbys. Ond mae'n amlwg bod model economaidd y degawdau diwethaf yn wynebu her ddofn yn wyneb y pandemig hwn. Ni all yr argyfwng iechyd cyhoeddus lithro i argyfwng economaidd a chymdeithasol hir, ac rwy'n credu mai dyna yw'r gwir linell sy'n ein gwahanu mewn gwleidyddiaeth gyfoes erbyn hyn. Fel Aelodau o'r Senedd, mae'n rhaid i ni weithredu i ddiogelu iechyd ein hetholwyr, ond rwy'n disgwyl i'n system wleidyddol ddiogelu buddiannau cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau hefyd. Efallai ein bod ni yn ei chael hi'n anodd i ymdrin â'r feirws hwn, ond gallwn ni roi'r cymorth i bobl y mae ei angen arnynt.