Part of the debate – Senedd Cymru am 5:51 pm ar 20 Hydref 2020.
O, wel, Neil, ni fydd o bwys i chi; nid ydym ni yn Wiltshire beth bynnag. Mae hwn yn fater i ni sydd, mewn gwirionedd, yn ceisio cynrychioli'r bobl a oedd yn meddwl eu bod nhw'n ein hethol ni.
Gadewch i mi ddweud hyn: pan edrychais i ar y cynnig hwn gan y Prif Weinidog, roeddwn i'n ansicr a bod yn gwbl onest. Gofynnais dri chwestiwn i mi fy hun. Y cwestiwn cyntaf oedd, 'A oes unrhyw ddewis arall?', yn ail, 'A yw'n gymesur?' ac yn olaf, 'Beth sy'n digwydd nesaf?' Darllenais y dystiolaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Darllenais a gwrandewais ar y dystiolaeth gan y cynghorwyr arbenigol. Gwrandewais ar yr hyn yr oedd gan y prif swyddog meddygol i'w ddweud. Darllenais yr adroddiad cyngor technegol cyfan, ac fe ddes i i'r un casgliad nid yn unig â'r Prif Weinidog, ond ag Adam Price hefyd. Fel Gweinidog, rwyf i wedi darllen nifer o ffolderi penderfyniadau a ddarparwyd gan gynghorwyr, a byddwn wedi bod yn falch iawn pe byddai gennym y cyngor clir sydd wedi ei ddarparu yn y ddogfen hon. Rwyf i wedi bod eisiau cael llai o amwysedd yn aml, rwyf i wedi bod eisiau cael mwy o gyfeiriad yn aml, a phan ddarllenais y ddogfen hon, roeddwn i'n glir, yn gwbl berffaith glir yn fy meddwl, mai'r peth cyfrifol y mae'n rhaid i mi ei wneud yw cefnogi'r Llywodraeth yn yr hyn y mae'n ei wneud.
Rwyf i'n dweud hynny fel rhywun a fyddai hefyd yn siarad pe byddwn i'n meddwl ei bod yn anghywir, ac rwyf i'n dweud hynny oherwydd fy mod i'n cynrychioli'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. Mae'n rhaid i mi wneud yr hyn sy'n iawn ac yn briodol i'r bobl yn y gymuned hon ym Mlaenau Gwent. A phan fyddaf i'n cerdded i fyny ac i lawr y strydoedd yn y fan yma, mae'n rhaid i mi edrych ym myw llygaid y bobl; nid diflannu ar ôl i etholiad gael ei hymladd, anfon neges atyn nhw ar Facebook ac anghofio amdanyn nhw, ond edrych ym myw eu llygaid—edrych ym myw eu llygaid yn yr archfarchnad, yn y siopau, a siarad â phobl, a siarad ag aelodau o fy nheulu fy hun, a siarad â phobl yr oeddwn i yn yr ysgol gyda nhw, ynghylch yr effaith y mae'n mynd i'w chael ar eu bywydau. Y peth anghywir i'w wneud fyddai gwneud y peth haws a dweud, 'Rwy'n llai sicr, nid wyf i'n sicr.' Oherwydd fy mod i'n gwybod fy mod i'n siŵr bod yn rhaid i ni wneud y peth iawn a symud i'r cyfeiriad hwn.
Yn rhy aml o lawer, Llywydd, yn y ddadl hon, rydym ni wedi gweld pobl sy'n galw eu hunain yn gynrychiolwyr y cyhoedd—er na fyddai'r cyhoedd yn eu hadnabod—yn chwarae gyda gwybodaeth ffug, yn chwarae gyda newyddion ffug, yn rhoi pethau ar gyfryngau cymdeithasol, nid yn unig heb wybod a yw'n wir, ond yn gallu bod yn eithaf sicr nad yw'n wir. Heddiw, fe wnaeth dwy fil a hanner o bobl ar Twitter ailadrodd celwydd ynghylch Ysbyty Nevill Hall, gan ddweud ei fod yn wag, a bod meddygon yn chwarae golff. Mae'r math o wybodaeth sy'n mynd o amgylch ein cymunedau a'n cymdeithasau ar hyn o bryd yn beryglus iawn ac mae pobl yn mynd i farw o'r herwydd. Felly, nid oedd unrhyw ddewis arall, ac rwyf i'n gwahodd yr holl Aelodau yn y lle hwn heddiw i gefnogi Llywodraeth Cymru yn yr hyn y mae'n ei wneud.
A yw'n gymesur? Rwyf i wedi siarad â'r Prif Weinidog am rai o fy mhryderon ynghylch yr effaith ar iechyd meddwl, ynghylch yr effaith ar iechyd corfforol, cau campfeydd, ac ynghylch cau canolfannau hamdden, oherwydd bod gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bobl. Mae gen i bryderon ynghylch yr effaith y bydd yn ei chael ar ddynion ifanc, na fyddan nhw'n ffonio llinellau cymorth, na fyddan nhw'n siarad â phobl am yr effaith y mae'n ei chael ar eu hiechyd meddwl. Rwy'n cydnabod grym ei ddadl mai cyfyngiadau symud byrrach, llymach yw'r ffordd orau o weithredu, ac rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog hefyd yn cydnabod grym fy mhwynt i ynghylch materion sy'n ymwneud ag iechyd corfforol a iechyd meddwl y bydd angen i ni fynd i'r afael â nhw wrth i ni fynd drwy'r cyfnod hwn.
Ac yn olaf, beth sy'n digwydd nesaf? Nid wyf i'n credu y gallwn ni barhau i orfodi cyfyngiadau symud, wedyn llacio, gorfodi cyfyngiadau wedyn llacio ymlaen i'r dyfodol pell, heb roi unrhyw ymdeimlad i bobl o ble yr ydym ni'n mynd. Rwy'n credu bod angen i ni ddefnyddio'r offer sydd ar gael i ni. Gallwn ni, yng Nghymru, yn fy marn i, ymfalchïo yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi wynebu'r pandemig hwn a'r argyfwng enfawr hwn. Nid ydym ni wedi cael y contractau llwgr y maen nhw wedi eu cael yn Llundain. Nid ydym ni wedi cael y methiannau pan fyddan nhw wedi rhoi swyddi i'w ffrindiau yn hytrach na rhywun sy'n gwybod sut i wneud y gwaith. Mae gennym ni drefn brofi sy'n gweithio. Mae gennym ni broses olrhain a thracio sy'n gweithio, ac mae gennym ni'r gallu i ddiogelu ein poblogaeth. Ac rydym ni'n gwneud hynny oherwydd ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac rydym ni'n trefnu ac yn gweithio'r sector cyhoeddus cyfan gyda'n gilydd—llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth iechyd gwladol yn cydweithio i wasanaethu'r bobl, nid i wasanaethu eu hunain ac nid i lenwi eu pocedi. Mae'r gwahaniaeth moesol hwnnw mewn gwerthoedd, yn fy marn i, hefyd yn rhoi llwyfan i ni symud ymlaen ac edrych ymlaen, gan ddefnyddio'r cyfleusterau sydd ar gael i ni, gan ddefnyddio'r dulliau a'r strwythurau yr ydym ni wedi eu creu yn ystod y misoedd diwethaf hyn, i lunio dyfodol gwahanol wrth i ni symud ymlaen, er mwyn i ni allu dweud wrth bobl, 'Ie, nid yn unig y cewch chi Nadolig, ond cewch chi fwy o obaith yn y flwyddyn newydd hefyd', bod gennym ni fodd o olrhain a thracio y feirws, gan sicrhau bod gennym ni ddull gorfodi i sicrhau ein bod ni wedyn, yn gallu cael dyfodol gwahanol iawn.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr y prynhawn yma yn pleidleisio o blaid y cynnig hwn. Ac rwy'n gwybod ei bod yn anodd, hefyd, i Aelodau'r gwrthbleidiau wneud hynny weithiau, ond rydym ni wedi gweld enghreifftiau yn y dyddiau diwethaf hyn o wrthwynebiad cyfrifol, ac rwy'n talu teyrnged i Adam Price yn y ffordd y mae wedi ymdrin â hynny. Ac yna rydym ni wedi gweld enghreifftiau o boblyddiaeth anghyfrifol a gwrthwynebiad anghyfrifol, ac rydym ni i gyd yn gwybod yr hyn a olygir wrth hynny. Pobl Cymru yw'r flaenoriaeth. Y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent yw'r flaenoriaeth, a dylem ni i gyd roi popeth arall o'r neilltu.