Part of the debate – Senedd Cymru am 5:46 pm ar 20 Hydref 2020.
Mae'r syniad y bydd y pythefnos hwn o gyfyngiadau symud yn mynd i wneud unrhyw wahaniaeth o gwbl i gyfraddau heintiau a marwolaethau hirdymor y clefyd hwn yn amlwg yn hurt. Nid oes dim yn yr hyn yr ydym ni'n ei wybod am epidemioleg y clefyd hwn yn ystod y chwe mis diwethaf a allai gyfiawnhau y rhagfynegiadau hurt ynghylch diwedd y byd gan y modelwyr mathemategol—nid gwyddonwyr, modelwyr mathemategol—sy'n cynghori'r Llywodraeth i gyflwyno'r mesurau llym iawn hyn.
Rwy'n falch o ddweud fy mod i, drwy gydol yr argyfwng cyfan hwn, wedi bod yn gyson, o'r cychwyn cyntaf, pan ddyfynnais Dr Johan Giesecke, epidemiolegydd hynod nodedig o'r radd flaenaf a ysgrifennodd yn The Lancet ar 5 Mai fod y clefyd hwn:
bron bob amser yn ymledu oddi wrth bobl iau heb unrhyw symptomau neu symptomau gwan i bobl eraill a fydd hefyd â symptomau ysgafn... Ychydig iawn y gallwn ni ei wneud i atal y lledaeniad hwn: efallai y bydd cyfyngiadau symud yn gohirio achosion difrifol am gyfnod, ond ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd yr achosion yn ailymddangos. Rwy'n amau, pan fyddwn ni'n cyfrif nifer y marwolaethau o COVID-19 ym mhob gwlad flwyddyn i nawr, y bydd y ffigurau yn debyg, ni waeth pa fesurau a gymerwyd.
Wel, nid ydym ni flwyddyn yn ddiweddarach eto; dim ond chwe mis ydym ni, ond hyd yn hyn, y mae wedi ei brofi yn hollol gywir. Rwy'n credu bod y neges hon wedi cyrraedd rhai rhannau o'r blaid Lafur, os nad yng Nghymru, oherwydd dywedodd Syr Richard Leese, arweinydd y Blaid Lafur ar gyngor dinas Manceinion fwyaf ddoe,
Nid yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n profi'n bositif ar gyfer y feirws yn mynd yn arbennig o sâl. Nid nhw yw'r broblem.
Felly, nid nifer yr heintiau yw'r ystadegyn cywir i ganolbwyntio arno os ydym ni'n bwriadu lleihau effaith y clefyd hwn ar y wlad. Dywedodd Syr Richard Leese ddoe:
Pe byddai'r Llywodraeth yn gwario £14 miliwn y mis yn amddiffyn y rhai mwyaf agored i niwed gallai hynny osgoi'r angen am gyfyngiadau symud Haen 3, a honnodd y byddai hyn yn llai nag un rhan o bump o gost cau busnesau, gan eu galluogi i aros ar agor ac i'r rhan fwyaf o bobl osgoi cyfyngiadau llymach. Dyna'r agwedd aeddfed a synhwyrol sydd wedi ei seilio ar realiti, nid ar ragfynegiadau hurt sefyllfa waethaf nad ydyn nhw erioed wedi eu gweld yn unman yn y byd, hyd y gwelaf i. Mae'n un o weddillion y dyddiau pan oedd y mawreddog Athro Ferguson o goleg Imperial yn rhagweld hanner miliwn o farwolaethau o COVID yn y Deyrnas Unedig, rhagfynegiad a gafodd ei chwalu yn gyflym iawn o dan amgylchiadau braidd yn annifyr iddo ef, fel efallai y byddwn ni i gyd yn cofio.
Nid cyfnod atal byr yw'r gyfres hon o fesurau; mewn gwirionedd, llosgydd ydynt i'r busnesau a'r swyddi a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i'r newidiadau llym iawn hyn. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, dim ond 20 o achosion newydd sydd wedi digwydd. Yn ystod gwyliau'r haf pan gawsom ni dorfeydd o bobl ar eu gwyliau o rannau eraill o'r wlad, ni fu unrhyw gynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r clefyd. Cafwyd 600 o achosion newydd yng Nghymru ddoe ac un farwolaeth. Ar y sail honno yr ydym ni'n cyflwyno'r mesurau eithriadol hyn, nad ydyn nhw wedi eu gweld erioed o'r blaen yn ystod cyfnod o heddwch.
Cefais i gyfarfod, ynghyd ag Aelodau eraill, â bwrdd iechyd Hywel Dda ddydd Gwener diwethaf, ac yn siroedd Ceredigion, Sir Benfro a Chaerfyrddin, roedd chwe unigolyn yn yr ysbyty gyda COVID: tri yn Llanelli, tri ym Mronglais yn Aberystwyth, ac roedd un o'r tri yn Aberystwyth wedi ei drosglwyddo yno mewn gwirionedd o Abertawe. Ac mae 16 o bobl yr amheuir bod ganddyn nhw COVID. Nid yw hynny'n ymddangos i mi yn argyfwng iechyd ar y lefel yr oedd y Gweinidog iechyd yn ei nodi ar ddechrau ei araith heddiw. Yn y cyfamser, yn Hywel Dda, mae 15,800 o bobl wedi bod yn aros am fwy na 36 wythnos am driniaeth ar gyfer amrywiaeth o gyflyrau difrifol, ac mae'r bwrdd iechyd 650 o nyrsys cofrestredig yn brin o'i gymharu â faint sydd eu hangen arno i ofalu am bobl yn yr ysbyty. Rydym ni'n dinistrio'r union sylfaen creu cyfoeth yn yr economi y mae'r gwasanaeth iechyd yn cael ei hariannu arni, ac os oes cymaint o frys, pam mae'n rhaid i ni aros tan ddydd Gwener cyn i'r mesurau hyn gael eu cyflwyno?
Y broblem sydd gennym ni yw mai ymarfer enfawr yw hwn lle mae Llywodraethau a chynghorwyr iechyd yn diogelu eu hunain trwy gyflwyno'r sefyllfa waethaf bosibl, ni waeth pa mor annhebygol ydyw o ddigwydd, fel na allan nhw ddweud, 'Roeddem ni'n gyfrifol am x o farwolaethau ar ddiwedd hyn i gyd.' Ond yr hyn sydd ei angen arnom ni, mewn gwirionedd, yw synnwyr o gymesuredd yn hyn i gyd, a dyna'r un peth nad oes gan Lywodraeth Cymru mohono.