1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth ariannol i brifysgolion? OQ55755
Llywydd, rydym ni wedi darparu mwy na £213 miliwn i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae hynny'n cynnwys £27 miliwn ychwanegol i sefydlu cronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch i gydnabod effaith y pandemig ar ein prifysgolion.
Diolch, Prif Weinidog. O'r ffigurau hynny, rwy'n credu y gallwn ni weld bod prifysgolion yn gweithredu yn erbyn cefndir lle nad ydyn nhw'n cael manteision llawn arian canlyniadol llawn Barnett ar gyfer ymchwil ac arloesi. Felly, byddwn yn ddiolchgar i gael gwybod faint o'r taliad ymateb COVID gwerth £27 miliwn yr ydych chi'n cyfeirio ato a ddefnyddiwyd i gynorthwyo a chadw myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig yn ystod y cyfnod hwn, yn enwedig gan y bydd nifer y myfyrwyr tramor sy'n croes-gymorthdalu peth o'r gwaith hwnnw yn is eleni? Ac, yn arbennig, beth, yn ymarferol, y maen nhw'n ei gael tuag at gostau byw a chymorth iechyd meddwl o'r gronfa hon, ac a yw hyn yn cael ei ailadrodd ymhlith israddedigion, sydd yn amlwg i fod i gael cymorth o'r arian hwn hefyd?
Wel, Llywydd, mater i'r prifysgolion yw cyflogi ôl-raddedigion, nid i mi. O ran y pwynt iechyd meddwl y mae'r Aelod yn ei godi, wrth gwrs, mae hynny'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae angen i ni roi sylw iddo wrth i bobl ifanc ddychwelyd i'w hastudiaethau, neu ddechrau eu hastudiaethau, yma yng Nghymru. Rydym ni wedi darparu £10 miliwn, yn ychwanegol at y dyraniadau cychwynnol a roddwyd i CCAUC, yn benodol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant ymhlith myfyrwyr. Rwy'n ddiolchgar iawn i Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr am bopeth y maen nhw'n ei wneud gyda ni a chyda sefydliadau addysg uwch i wneud yn siŵr bod yr arian hwnnw yn cael ei wario yn y ffordd sy'n cael yr effaith fwyaf posibl ar lesiant a llesiant meddyliol y bobl ifanc hynny. Gwn fod CCAUC yn ychwanegu arian at y £10 miliwn yr ydym ni wedi ei ddarparu ac y bydd prifysgolion ym mhob cwr o Gymru yn elwa ar y gronfa honno.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi ei bod hi'n hanfodol, ar gyfer dyfodol tymor canolig ein prifysgolion, eu bod nhw'n cael mynediad digonol at gyllid ar gyfer gwaith ymchwil. A yw'r Prif Weinidog, fel finnau, yn pryderu nad yw ein prifysgolion erioed wedi cael yr hyn a fyddai wedi bod yn gyfystyr â'u harian canlyniadol Barnett gan y cynghorau ymchwil ar unrhyw adeg yn ystod holl gyfnod datganoli, dros yr 20 mlynedd diwethaf? Ac a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi y gallai fod yn bryd ystyried datganoli'r cyllid hwnnw a'r cyfrifoldeb hwnnw fel y gallwn ni fod yn gwneud penderfyniadau yma yng Nghymru am ba ymchwil y dylem ni fod yn ei flaenoriaethu a sut y gallwn ni gynorthwyo ein prifysgolion i ddatblygu eu rhagoriaeth ymchwil ymhellach?
Llywydd, diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i ddweud nad yw prifysgolion Cymru wedi cael cyfran Barnett o incwm DU gyfan y cynghorau ymchwil, ac rydym ni mewn sgyrsiau parhaus gyda'r cynghorau ymchwil hynny i wneud yn siŵr bod ceisiadau gan sefydliadau Cymru yn cael eu hystyried yn briodol ac nad ydyn nhw'n cael eu hanwybyddu mewn patrymau hanesyddol o ariannu sefydliadau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n siŵr, hefyd, Llywydd, y bydd Helen Mary Jones yn cytuno â mi bod colli cyllid Horizon 2020 i brifysgolion Cymru yn fygythiad arbennig i'n sylfaen ymchwil yma. Mae prifysgolion Cymru, yn wahanol i'w gallu i gael gafael ar arian gan gynghorau ymchwil, wedi gwneud llawer mwy na'r hyn y gellid ei ddisgwyl ganddyn nhw o ran cael arian Horizon 2020 i Gymru. Rydym ni'n gwneud yn llawer gwell na'n cyfran o'r boblogaeth yn hynny o beth. Mae methiant Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd y Deyrnas Unedig a sefydliadau Cymru yn gallu parhau i gymryd rhan mewn rhaglenni olynol i Horizon, a gallu elwa arnyn nhw yn y ffordd yr ydym ni wedi ei wneud, yn fygythiad arall i sylfaen ymchwil ein sefydliadau addysg uwch.
Prif Weinidog, rydych chi newydd ddewis maes yr oeddwn i'n mynd i'ch holi chi yn ei gylch—cyllid Ewropeaidd Cymru. Nawr, mae ein prifysgolion wedi elwa ar gyllid Ewropeaidd—nid Horizon 2020 yn unig, ond ffrydiau eraill o gyllid Ewropeaidd. Pa sicrwydd ydych chi wedi ei gael gan Lywodraeth y DU y bydd unrhyw ffrwd ariannu y byddai prifysgolion wedi elwa arni ar gyfer gwaith ymchwil—er enghraifft, y prosiectau ariannu ymchwil glo a dur—yn cael ei hail-ddyrannu i brifysgolion Cymru ac nid i gronfa ganolog a'i rannu gydag ardaloedd eraill, fel y gall ein prifysgolion barhau i elwa ar y cyllid a fyddai wedi bod ar gael o dan yr Undeb Ewropeaidd?
Does dim sicrwydd o unrhyw fath, Llywydd. Rwy'n gresynu yn arw at y ffaith fod Llywodraeth y DU wedi gwrthod rhoi rhaglenni cydweithredu rhyng-diriogaethol ar y bwrdd ar gyfer cyllid ar ôl i aelodaeth o'r UE ddod i ben. Mae ein prifysgolion ym Mangor, Aberystwyth, Abertawe wedi elwa yn aruthrol ar gyllid cydweithredu rhyng-diriogaethol; dros €100 miliwn yn y rhaglen honno gyda de Iwerddon. Ac mae hynny wedi bod yn wir gatalydd i waith ymchwil gwirioneddol bwysig yn yr amgylchedd morol, mewn ynni adnewyddadwy—gwerth 20 mlynedd o fuddsoddiad rhwng ein sefydliadau addysg uwch a sefydliadau addysg uwch mewn mannau eraill na fydd modd bwrw ymlaen â nhw bellach. Ac rydym ni wedi dadlau'r achos, Llywydd, dro ar ôl tro, a chyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, y dylem ni barhau i fod yn aelodau o'r rhaglenni cydweithredu hynny, ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl fyddar i'r holl ddadleuon a wnaed iddi.
Caroline Jones. Na, mae'n ddrwg gen i—
—cwestiwn 2, Russell George.