Plant sy'n Gadael Gofal

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:21, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i Dawn Bowden am hynna, Llywydd. Mae cymorth tai Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n gadael gofal yn cynnwys buddsoddiad mewn seilwaith ffisegol a'r gwasanaethau sydd eu hangen i helpu pobl ifanc i ymsefydlu yn llwyddiannus yn y cyfnod hwn o'u bywydau. Darperir cymorth uniongyrchol gan awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ym mhob rhan o Gymru.