1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 20 Hydref 2020.
6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth tai Llywodraeth Cymru i blant sy'n gadael gofal? OQ55749
Diolchaf i Dawn Bowden am hynna, Llywydd. Mae cymorth tai Llywodraeth Cymru i'r rhai sy'n gadael gofal yn cynnwys buddsoddiad mewn seilwaith ffisegol a'r gwasanaethau sydd eu hangen i helpu pobl ifanc i ymsefydlu yn llwyddiannus yn y cyfnod hwn o'u bywydau. Darperir cymorth uniongyrchol gan awdurdodau lleol a sefydliadau trydydd sector ym mhob rhan o Gymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, a diolch am eich ymrwymiad personol i'r mater hwn. Tynnodd yr adroddiad diweddar gan End Youth Homelessness Cymru sylw at nifer o faterion tai i bobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sy'n gadael gofal, gan gynnwys effaith y rheolau cysylltiad lleol ar eu dewis o gartref. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar yr adroddiad hwn ac ystyried pa gamau pellach y gellir eu cymryd i gynorthwyo'r grŵp hwn o bobl ifanc sydd angen y cymorth mwyaf effeithiol y gallwn ni ei ddarparu ac sy'n ei haeddu?
Diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiwn yna ac am dynnu sylw at yr adroddiad pwysig hwn. Arweinir cynghrair End Youth Homelessness, wrth gwrs, gan Llamau, sefydliad y cefais y fraint o fod yn un o'r tri aelod sylfaenydd cyntaf dros 30 mlynedd yn ôl erbyn hyn. Rwyf i wedi darllen yr adroddiad; roedd yn ddeunydd darllen diddorol iawn, oherwydd mae'n siarad yn llais y bobl ifanc hynny yng Nghymru sydd wedi canfod eu hunain mewn perygl o fod yn ddigartref, neu sydd yn ddigartrefedd mewn gwirionedd. Rwy'n credu mai'r rheswm pam mae'r adroddiad hwn mor ddiddorol yw bod y safbwyntiau hynny yn cael eu troi gan awduron yr adroddiad yn rhai camau syml iawn, y credaf y gellir eu gwneud o hyd i wella'r system. Mae'r syniad syml, er enghraifft, os bydd person ifanc mewn perygl o fod yn ddigartrefedd—neu wedi bod yn ddigartref—sydd wedi bod yn derbyn gofal, yn cyflwyno ei hun i awdurdod lleol, y dylid trefnu cynhadledd achos amlddisgyblaethol, o dan gadeiryddiaeth lefel uwch, i wneud yn siŵr bod yr holl bethau sydd eu hangen ar gyfer y person ifanc hwnnw yn cael eu paratoi ar draws ffiniau gwasanaethau a sefydliadau cyn gynted â phosibl. Mae'r adroddiad yn dweud, os bydd awdurdod lleol yn lleoli person ifanc mewn gwahanol awdurdod lleol, pan fydd y person ifanc hwnnw yn cyrraedd 18 oed, na ddylai'r ail awdurdod lleol hwnnw wrthod cymorth iddo ar y sail nad oes ganddo gysylltiad lleol. Mater i'r person ifanc yw penderfynu pa un a yw'n teimlo yn fwyaf cysurus yn ei awdurdod lleol newydd neu yn ei awdurdod lleol gwreiddiol. Rwy'n credu mai'r lefel honno o droi profiadau yn gynigion polisi ymarferol sy'n gwneud yr adroddiad hwn mor werthfawr, a gwn y bydd fy nghyd-Weinidogion, yn y gwasanaethau cymdeithasol ac ym maes tai, yn ei astudio yn ofalus iawn i ddysgu'r gwersi hynny a'u rhoi ar waith ym mywydau'r bobl ifanc hynny.