Credyd Cynhwysol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:14, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am hynna. Rhwng mis Chwefror a mis Medi eleni, cafwyd cynnydd o dros 120,000 o hawlwyr credyd cynhwysol yng Nghymru, ac roedd hwnnw yn gynnydd o 80 y cant. 271,186 o bobl oedd nifer yr hawlwyr ym mis Medi, o'i gymharu â 150,527 yn ôl ym mis Chwefror.