Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 20 Hydref 2020.
Llywydd, diolch yn fawr i Dr Lloyd am y cwestiwn. Mae gofalwyr yn wynebu pwysau ariannol sylweddol yn sgil y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru, felly, wedi creu cronfa galedi newydd gwerth £1 miliwn, fel a gynigiwyd gan sefydliadau gofalwyr cenedlaethol. Cafodd hyn ei gyhoeddi yn gynharach heddiw gyda'n hymgynghoriad ar gynllun cenedlaethol newydd ar gyfer gofalwyr.