Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 20 Hydref 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, sydd, wrth gwrs, yn adeiladu ar ateb cynharach gan y Prif Weinidog i Adam Price. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymwybodol o'r adroddiad academaidd newydd gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd, a phartneriaid eraill, ar yr effaith ar reoliadau, yn enwedig ar ôl Brexit, a'r effaith bosibl ar gwmpas tiriogaethol deddfwriaeth ddatganoledig. Nawr, mae'r Cwnsler Cyffredinol yn sôn am welliannau posibl, a soniodd y Prif Weinidog am y rheini wrth Adam Price, ond onid yw'n wir, o ystyried maint mwyafrif y Ceidwadwyr, y gallai'r gwelliannau gael eu pasio yn Nhŷ'r Arglwyddi, ond maen nhw'n debygol o fethu, onid ydynt, pan fyddan nhw'n dychwelyd i Dŷ'r Cyffredin? Ac a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol: a wnaiff ef ystyried cynnal trafodaethau gyda gweinyddiaethau datganoledig eraill am her gyfreithiol i'r darn niweidiol hwn o ddeddfwriaeth, os na fydd y broses gwelliannau yn llwyddiannus? Byddwn yn awgrymu iddo fod y rhain yn brosesau y mae angen iddyn nhw fynd ymlaen ochr yn ochr, oherwydd ar ôl i'r gwelliannau fethu, bydd llawer o amser wedi mynd heibio, ac efallai y bydd yn anos wedyn cynnal her gyfreithiol ffurfiol, os oes modd gwneud y fath beth.