Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 20 Hydref 2020.
Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi ynglŷn â maint mwyafrif Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Cyffredin. Er gwaethaf hynny, byddwn yn awgrymu y byddai'n Llywodraeth ddoeth yn San Steffan a fyddai'n gwrando ar bryderon mor eang am yr elfennau niweidiol yn y Bil hwn sy'n ymestyn yn llawer ehangach na phleidiau gwleidyddol, i gymdeithas ddinesig yn gyffredinol. Byddwn yn eu hannog i ymateb i unrhyw newidiadau a wneir yn Nhŷ'r Arglwyddi gyda meddwl agored.
Ynghylch ei phwynt am heriau eraill i'r Bil, byddaf yn tawelu ei meddwl, gobeithio, wrth ddweud ein bod wedi bod yn archwilio pob llwybr cyfreithiol posibl yng nghyswllt y ddeddfwriaeth hon, a gwn fod cyd-Aelodau mewn gweinyddiaethau datganoledig yn rhannu llawer o'r pwyntiau sy'n peri pryder i ni yma yng Nghymru. Bydd yn gyfarwydd iawn â'r heriau penodol o ran heriau cyfreithiol i ddeddfwriaeth sylfaenol sy'n mynd drwy'r Senedd, ond hoffwn ei sicrhau bod cwmpas llawn ein hopsiynau cyfreithiol, fel Llywodraeth yng Nghymru, wedi cael eu hystyried, ac yn parhau i gael eu hystyried ar hyn o bryd.