Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:38, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod hyn yn ymgais i ysbaddu datganoli mewn cysylltiad â'r meysydd hyn. Yn sicr o ran mecanwaith y fframweithiau cyffredin, byddai'r gwelliannau arfaethedig yr ydym ni wedi eu cyflwyno, y gobeithiwn eu gweld yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn rhoi fframweithiau cyffredin lle y dylent fod, sef wrth wraidd y farchnad fewnol, nid yn cael eu gwthio i'r ymylon, sef yr hyn y mae'r Bil hwn i bob pwrpas yn ei wneud. I bob pwrpas, mae'n dileu unrhyw gymhelliant ar ran Llywodraeth y DU i barhau i ymgysylltu â'r rheini. Rwy'n credu ei fod e'n iawn wrth ddweud bod y darpariaethau cymorth ariannol yn arbennig yn fwy na thebyg wedi'u cynllunio yn benodol i ddarparu cronfa ffyniant a rennir heb gyfeirio at Lywodraeth Cymru a'r ystod eang o randdeiliaid yng Nghymru sy'n cefnogi'r safbwynt y dylai'r penderfyniadau hynny barhau i gael eu gwneud gan Lywodraeth etholedig Cymru, sy'n atebol i Senedd etholedig Cymru.