Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:37 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:37, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Cwnsler Cyffredinol, cytunaf yn llwyr ag Alun Davies pan fynegodd ei bryderon am Fil y farchnad fewnol, fel y gwnaethoch chithau yn eich dehongliad yn eich atebion hefyd. Ond onid yw'n wir hefyd y bydd y Bil hwn yn chwalu materion megis y fframweithiau cyffredin, sydd wedi'u negodi a'u trafod, yr adolygiad o'r cytundeb rhynglywodraethol, sy'n cael ei drafod ar hyn o bryd, ac o bosibl hyd yn oed y gronfa ffyniant a rennir, fel bod hyn, i bob pwrpas, yn dymchwel datganoli, ar un ystyr, nid ei wella?