Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:56 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch i Alun Davies am y cwestiwn atodol yna ac am ei gefnogaeth hirsefydlog i achos datganoli cyfiawnder yng Nghymru. Fe wnaf ddweud fy mod i, yn ystod y misoedd diwethaf, yn credu bod dealltwriaeth pobl yng Nghymru o sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu a sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn deddfu, a sut y caiff y cyfreithiau hynny eu plismona gan heddlu neilltuedig, os hoffech chi—. Rwy'n credu bod pobl wedi magu dealltwriaeth ddyfnach ac ehangach o'r potensial i wneud penderfyniadau cyfiawnder yma yng Nghymru a chredaf fod hynny, mewn amgylchiadau tywyll iawn, wedi bod yn ddatblygiad cadarnhaol o ran dealltwriaeth pobl. Hoffwn ddweud hefyd, yng ngallu Llywodraeth Cymru i weithio gyda'r heddlu, yn amlwg, ond hefyd y gwasanaeth carchardai, y gwasanaeth llysoedd a nifer o awdurdodau eraill neilltuedig o fewn y system gyfiawnder, y bu llawer iawn o gydweithio mewn ffordd gydgysylltiedig iawn yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ond mae hynny wedi digwydd er gwaethaf y trefniadau cyfiawnder sydd gennym ni, nid o'u herwydd. Mae wedi digwydd oherwydd yr ymdrechion y mae unigolion wedi'u gwneud i wneud i'r gyfres honno o berthnasoedd weithio, ac rwy'n credu bod hynny, ar un ystyr, yn arwydd i ni o faint yn fwy y gallem ni ei gyflawni o ran y meddylfryd cydgysylltiedig hwnnw pe byddai gennym setliad datganoli a fyddai yn ei gwneud yn haws, yn hytrach nag yn anos.