Datganoli Cyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:55, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei esboniad clir o'r weledigaeth honno. Ni fydd yn synnu gwybod ei bod yn un yr wyf i yn ei rhannu. Rwy'n gobeithio, yn y sgyrsiau y mae'n eu cael gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a chyda'r Arglwydd Ganghellor, y byddan nhw'n pwysleisio y canlyniadau yr ydym wedi eu gweld yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn y ffordd y mae'r coronafeirws wedi effeithio ar garchardai Cymru, sef nad ydym wedi gweld y gallu i ddarparu dull cyfannol o drin pobl, o ran eu hamser mewn sefydliadau diogel a hefyd o ran sut y caiff pobl eu rhyddhau yn ôl i'r gymuned. Methiant y gwasanaethau prawf, wrth gwrs, yw'r enghraifft amlwg o hynny. Wrth ddod i'w gasgliadau, gobeithiaf y bydd yr Arglwydd Ganghellor yn cydnabod mai'r hyn sy'n bwysig yw'r hyn sy'n bwysig i bobl Cymru ac nid yr hyn sy'n bwysig i'r Arglwydd Ganghellor.