Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch. Roedd yr Arglwydd Ganghellor yn glir iawn yng nghynhadledd ddiweddar Cymru'r Gyfraith mai Cymru a Lloegr unedig sydd orau i'r gyfraith. Mae'r trefniadau presennol yn golygu y gallwn ni rannu adnoddau ac effeithlonrwydd ar draws y system gyfiawnder, gall llysoedd ddysgu oddi wrth ei gilydd, ac mae gan weithwyr cyfreithiol proffesiynol y rhyddid i ymarfer o Gaerdydd i Gaerliwelydd, ac o Gaernarfon i Gaergaint. Dywedodd hyd yn oed y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru y dylid parhau â'r system bresennol, lle gall ymarferwyr cyfreithiol ymarfer yng Nghymru a Lloegr, a bod y proffesiynau cyfreithiol yn cael eu rheoleiddio ar y cyd. Nawr, rwy'n credu eich bod wedi cynghori yr un gynhadledd Cymru'r Gyfraith y bydd Llywodraeth Cymru, serch hynny, yn mynd ar drywydd datganoli cyfiawnder pan fydd mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a wnewch chi ddweud wrth ein Senedd beth yw eich gweledigaeth ar gyfer dyfodol cyfiawnder yng Nghymru? Beth sy'n eich dal yn ôl ar hyn o bryd? Ac, a ydych chi'n cydnabod manteision y trefniadau presennol, fel y'u nodwyd gan yr Arglwydd Ganghellor?