Datganoli Cyfiawnder

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:53, 20 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am roi'r cyfle i mi egluro fy ngweledigaeth ar gyfer datganoli cyfiawnder yng Nghymru—efallai y bydd yn cymryd peth amser. Ond, dim ond er mwyn rhoi crynodeb o'r sefyllfa, credaf fod gwaith comisiwn Thomas, a sefydlwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yn ddadansoddiad rhagorol. Mae'n anodd dychmygu cyfres o gyfraniadau mwy swmpus i'r ddadl na'r hyn y mae'r adroddiad hwnnw yn ei gynrychioli. Mae'n wirioneddol bwysig yn hanes datganoli yng Nghymru. Mae'n cyflwyno'r achos yn wych iawn ac mewn ffordd y bydd unrhyw un sy'n ystyriol o dystiolaeth yn ei gweld hi'n dipyn o her i ddadlau'n groes.

Rwy'n falch bod yr Arglwydd Ganghellor wedi pwysleisio, ar bob cyfle, mai'r hyn sy'n bwysig iddo ef yw canlyniadau ac nid proses. Felly, byddwn yn awyddus iawn i barhau â'r trafodaethau yr ydym wedi eu cychwyn gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn canolbwyntio ar wella canlyniadau i bobl yng Nghymru, a gwn mai dyna yw ei phryder hi, fel fy un innau. Clywais sylwadau'r Arglwydd Ganghellor, a soniodd am rannu arbedion effeithlonrwydd. Wrth gwrs, yr hyn y mae hynny wedi ei olygu yng Nghymru yw dinistrio'r cyllid ar gyfer y system gyfiawnder. Dyna beth mae rhannu effeithlonrwydd wedi ei olygu yn ymarferol.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hefyd, y mae'n garedig iawn yn ei roi i mi, i'w gwneud yn gwbl glir nad yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru yn fygythiad o gwbl i allu cyfreithwyr sydd â chymwysterau yn awdurdodaeth Cymru a Lloegr fel y mae ar hyn o bryd i barhau i ymarfer yn y naill a'r llall yn y dyfodol. Nid oes rheswm o gwbl pam y dylid cyfyngu ar ymarferwyr yn y naill awdurdodaeth i weithredu'n llawn yn y llall. Yn sicr, dyna'r safbwynt y byddem ni yn ei gefnogi yma ac yr ydym wedi ei argymell i'r comisiwn ei hun. Yr unig bwynt yr oeddwn yn ei wneud ynglŷn â dod yn ôl at y pwnc hwn yn y dyfodol yw cydnabod y realiti, y gwn y bydd hi ei hun yn ei gydnabod, fod pwyslais y Llywodraeth yn San Steffan, fel yng Nghymru, yn amlwg wedi bod ar yr ymateb i COVID yn y misoedd diwethaf. A chyda'r ewyllys orau yn y byd, nid yw'r trafodaethau yr hoffem ni fod wedi eu cael mewn cysylltiad â hyrwyddo datganoli cyfiawnder yng Nghymru wedi cael eu datblygu ar y cyflymder yr hoffwn i, yn sicr, ei weld. Ond rwy'n gobeithio, yn fuan iawn, y byddwn ni'n gallu dychwelyd at y trafodaethau hynny mewn modd adeiladol.