Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 20 Hydref 2020.
Gweinidog, siawns nad amcan Bil y farchnad fewnol yw cynnal marchnad gydgysylltiedig y DU. Mae'n sicrhau nad yw pedair gwlad y DU yn cael eu cyfyngu gan reoliadau a bennir gan bob un Llywodraeth ddatganoledig, a fyddai, wrth gwrs, yn niweidiol iawn i fasnachu o fewn y DU. Mae hefyd yn ceisio gwarantu bod gan y gymuned ryngwladol fynediad i'r DU gyfan, gan wybod bod y safonau a'r rheolau yr un fath ledled y gwledydd datganoledig.
Mae'r Llywodraethau datganoledig yn ceisio portreadu'r Bil hwn fel ymgais i gipio pŵer sydd wedi ei gynllunio i sicrhau bod datganoli yn cymryd camau tuag at yn ôl. Nid oes tystiolaeth o gwbl y bydd y pwerau hyn yn cael eu defnyddio yn y modd yr ydych yn benderfynol o'i bortreadu. Yn hytrach na chipio pŵer, mae'n ddull pragmatig a synhwyrol y byddai'r rhan fwyaf o bobl y gwledydd datganoledig yn ei ystyried yn synhwyrol ac yn adeiladol. Byddwn yn gobeithio y byddech chi, fel unoliaethwr ymroddedig, Gweinidog, yn cytuno ei bod yn iawn cael polisïau a rheoliadau ar gyfer y DU gyfan pryd bynnag y bo modd.