Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 20 Hydref 2020.
Wel, rwy'n credu y dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn llwyddiant a dyfodol yr undeb fod wedi ei ddychryn yn fawr gan gynnwys y Bil hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod, gymaint ag y mae unrhyw beth, yn cryfhau achos annibyniaeth ym mhob rhan o'r DU, ac nid yw hynny'n ganlyniad yr wyf yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n credu bod ei ddehongliad o'r Bil, a dweud yn blaen, yn sylfaenol naïf.
Rydym ni fel Llywodraeth yn credu yn y farchnad fewnol; rydym yn credu bod marchnad fewnol yn ffordd effeithiol o ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru, defnyddwyr Cymru, busnesau Cymru a'r economi. Felly, rydym yn credu bod hynny'n ymdrech y dylem ni i gyd ymgysylltu â hi, fel pedair Llywodraeth, i sicrhau nad oes rhwystrau diangen rhag masnachu yn y modd y mae cwestiwn yr Aelod yn ei awgrymu, ond mae gennym ni fecanwaith eisoes ar gyfer gwneud hynny, sef y mecanwaith fframweithiau cyffredin sy'n galluogi Llywodraethau i fod â gwahanol bolisïau mewn gwahanol rannau o'r DU, sy'n gyson â chyflawni'r farchnad fewnol. Mae wedi gweithio'n effeithiol iawn tan nawr. Nid oes rheswm dros ei dinistrio drwy greu ffordd ddeddfwriaethol drwsgl iawn o'i hosgoi.
Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn gwneud mwy o ddifrod i'r DU a mwy o ddifrod i farchnad fewnol y DU na'r cynigion adeiladol, cymedrol, rhesymol, ac y gellir eu cyflawni y mae'r Llywodraethau datganoledig wedi eu cyflwyno yn ei le.