Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch i chi. Nid wyf yn hollol siŵr pa fanylder ychwanegol y mae Russell George yn teimlo fy mod i'n ei gelu oddi wrth y Senedd. Mae gennyf sesiwn ddwy awr gerbron pwyllgor yr economi yn fuan, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, felly fe fydd yna ddigon o gyfle i fynd drwy unrhyw gwestiynau manwl sydd ganddo ef bryd hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ymgais wedi bod, ar fy rhan i, i guddio unrhyw beth. Rydym wrthi'n gweithio drwy rywfaint o hyn, trwy ddiffiniad, mewn partneriaeth â'r diwydiant bysiau. Felly, nid ymgais yw hon i guddio unrhyw beth, dim ond ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth, fel y dywedais i, a'n bod ni'n dymuno dod at y manylion. Ond rydym wedi rhoi amlinelliad eglur iawn, ac rydym wedi egluro'r cyllid y gwnaethom ei roi hefyd, sef £140 miliwn eleni i wneud hynny, ac rydym yn awyddus i gyflawni hyn drwy gyfrwng Trafnidiaeth Cymru ar sail ranbarthol. Ac rwyf i o'r farn fy mod wedi nodi yn y datganiad, y soniodd Russell George ei fod ef wedi cael golwg arno ymlaen llaw, yr egwyddorion a fyddai'n llywio'r dull hwnnw. Felly, efallai y cawn ni barhau â'r drafodaeth hon yn y pwyllgor, neu os hoffech chi ysgrifennu—fe fyddwn i'n hapus i geisio helpu cyn belled ag y gallaf.
O ran y cyllid i weithredwyr yn ystod y cyfyngiadau symud, rydym yn parhau â'r cyllid sydd gennym yn ei le. Er ein bod yn disgwyl ac yn gofyn i'r gwasanaethau dorri i lawr ar eu gweithrediadau, ni fyddwn ni'n lleihau'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu ar eu cyfer. Rydym yn credu y byddai neges gwbl anghywir yn cael ei chyfleu os ydym yn gofyn i bobl aros gartref, a'r bysiau'n parhau i redeg yr un mor aml ag o'r blaen. Roeddem ni'n gwybod o'r cyfyngiadau symud cyntaf bod gweld bysiau gwag yn symud o gwmpas y strydoedd yn anfon neges anghyson, ac nid oeddem eisiau gweld hynny'n ailddigwydd.
Fe holodd am ganlyniadau gweithio gartref, a'r targed uchelgeisiol a osodwyd o 30 y cant yn gwneud hynny'n barhaol. Fel y crybwyllais i yn y datganiad, ledled y byd mae teithwyr yn pleidleisio gyda'u traed drwy ymwrthod â thrafnidiaeth dorfol oherwydd pryderon am y feirws. Nid yw hynny o ganlyniad i unrhyw benderfyniad gan Lywodraethau, ond, yn amlwg, mae gofynion Llywodraethau ynghylch cadw pellter cymdeithasol ac yn wir y cyfyngiadau symud yn ychwanegu at hynny. Fe fyddem ni'n disgwyl, o dan y drefn gweithio o gartref y soniwyd amdani, mai hyblygrwydd fydd y normal newydd. Ac fe fydd hyblygrwydd, mewn rhai achosion, yn golygu gweithio o gartref, ac mewn achosion eraill, weithio o ganolfannau gweithio ar y cyd yng nghanol trefi cyfagos. Felly, mae'n ddigon posibl y bydd yn ofynnol i bobl ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus o hyd i gyrraedd canol y trefi hynny, yn hytrach na mynd ar daith hir i gymudo i Gaerdydd neu Abertawe neu ddinasoedd cyfagos.
Felly, rydym yn dal i gredu bod swyddogaeth i system drafnidiaeth gyhoeddus gref, ac yn sicr ein bwriad ni yw parhau i ddatblygu'r metro a pharhau gyda buddsoddiadau eraill a nodwyd gennym. Ond, yn yr ysbryd hwn o hyblygrwydd, mae angen newid y ffordd y mae'r system drafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio. Mae ein rhaglen fysiau ni sy'n ymateb i'r galw drwy fenter Fflecsi, sy'n cael ei threialu mewn sawl rhan o Gymru erbyn hyn, gan gynnwys ar raddfa gynyddol, yng Nghasnewydd, yn argoeli'n addawol iawn bod gwasanaeth bysiau sy'n fwy ystwyth ac sy'n gallu ymateb i alw mwy gronynnol, yn hytrach na dim ond y gwasanaeth ar yr amserlen, yn diwallu anghenion yr oes.
Rwy'n credu mai ei gwestiwn olaf oedd a fydd y diwydiant bysiau yn cael ei gefnogi drwy'r newid hwn yn y galw. Wel, yn wir, dyma un o'r paradocsau y cyfeiriais i ato yn fy natganiad i. Rydym yn clywed yn aml gan y diwydiant bysiau mai gweithredwyr masnachol ydynt, ond nawr rydym yn clywed y galwadau hyn am ragor o arian cyhoeddus, ac mae'n anodd setlo'r ddau beth. Maent yn fasnachol pan fydd hynny'n eu siwtio nhw, ac maen nhw'n barod iawn i gymryd mwy o'n harian ni pan fydd hynny'n eu siwtio nhw hefyd. Rwy'n credu bod angen y fargen newydd y siaradais amdani, sy'n cydnabod eu bod nhw'n darparu gwasanaeth cyhoeddus allweddol ac y bydd angen cymhorthdal parhaus am hynny, ond yn gyfnewid am y cymhorthdal parhaus hwnnw, mae angen i ni gael mwy o bartneriaeth strategol gyda nhw, i sicrhau bod ein blaenoriaethau allweddol ni'n cael eu cyflawni. A dyna'r sgwrs yr ydym ni'n ei chael gyda nhw ar hyn o bryd. Felly, fe fydd yna gefnogaeth barhaus, ond mae pris i'w dalu am hynny.