Part of the debate – Senedd Cymru am 4:37 pm ar 20 Hydref 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Rwy'n falch o nodi sylwadau Cadeirydd y pwyllgor craffu am welliannau o ran darparu gwybodaeth a data sy'n sail i'r dewisiadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud.
Rwy'n falch o weld y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau. Ac mewn ffordd gwbl adeiladol i ateb y pwyntiau a godwyd gan Siân Gwenllian, ac yn arbennig y pwynt am gyfathrebu lleol, oherwydd yr ydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella'r ffordd yr ydym nid yn unig yn gwneud penderfyniadau, ond wedyn yn eu cyfleu hefyd. Wrth ddod i'r penderfyniadau hyn, ym mhob un dewis yr ydym wedi'i wneud, rydym wedi siarad ag arweinydd yr awdurdod lleol a'i brif weithredwr. Gwnaethom yr un peth ym mhob un o'r ardaloedd yn y de, gwnaethom yr un peth ym mhob un yn y gogledd, ac yn wir yn sir Gaerfyrddin hefyd. Felly, mae Gweinidogion yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinydd yr awdurdod lleol, ac mae'n deg dweud bod gan bob awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, uwch swyddog—yn achos Gwynedd, y cyfarwyddwr corfforaethol, rwy'n deall—sy'n cymryd rhan yn y tîm rheoli achos lluosog, ac maen nhw'n gwneud argymhellion ynghylch pa un a ddylid gweithredu ynghyd â lledaeniad a natur y camau gweithredu hynny hefyd. Felly, roedd y cyngor, mewn gwirionedd, yn rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniadau.
Nawr, dydw i ddim yn meddwl mai mater i Weinidogion Cymru wedyn yw ceisio cyfarwyddo'r ymgysylltu â chyngor y dref nac ag aelodau unigol o'r cyngor, ond mae a wnelo â sut yr ydym yn gweithio gyda phob un o'n hawdurdodau lleol i ddeall sut mae angen i'r cyfathrebu hwnnw ddigwydd, a sut y caiff gwybodaeth ei chasglu ac yna ei lledaenu. Rydym wedi mynd ati ein hunain i geisio sicrhau bod Gweinidogion a swyddogion wedyn yn siarad â chynrychiolwyr etholaethau cyn i benderfyniadau gael eu gwneud fel nad yw pobl yn cael gwybod yn uniongyrchol gan y cyfryngau am y dewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Derbyniaf pam y byddai'n ddefnyddiol i'r Aelod lleol fod wedi cael sesiwn friffio—credaf mai wyth awr ymlaen llaw oedd yr awgrym—ond mae arnaf ofn nad yw'n adlewyrchu realiti cyflymder yr argymhelliad na'r angen i wneud penderfyniadau. Ac mae'n wir hefyd bod yn rhaid i ni brofi bob un o'r argymhellion, yna deall a fydd Gweinidogion yn gweithredu ar argymhellion ai peidio, neu a ydym yn teimlo bod angen i ni eu profi a'u hanfon yn ôl. Mae hynny'n cynnwys maint ac arwynebedd y lle i gyflwyno cyfyngiadau ai peidio. Felly, mae arnaf ofn, yng nghanol yr holl ansicrwydd yr ydym yn byw ynddo, dydw i ddim yn credu y byddwn ni'n gallu darparu'r math o sesiwn friffio ymlaen llaw y mae'r Aelod yn gofyn amdano gyda'r amserlen sydd ar gael. Petaem yn gallu gwneud penderfyniadau'n gynharach bob dydd, byddai'n rhoi mwy o amser i ni siarad â chynrychiolwyr lleol, oherwydd, fel y dywedais, rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd o wella'r modd yr ydym yn gwneud penderfyniadau a'r ffordd yr ydym wedyn yn eu cyfleu.
Rydym yn mynd i gyfnod nawr lle bydd gennym set wahanol o reoliadau cenedlaethol gyda'r cyfnod atal byr. Er ei fod yn gwbl bosibl, wrth gwrs, yn y dyfodol, yn y byd y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, y bydd angen i ni gael cyfyngiadau lleol penodol. Mae'n gwbl bosibl; gallai fod achosion hyperleol a fyddai'n gofyn am y gweithredu lleol penodol hwnnw. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato ac rwy'n cydnabod bod ei sylwadau'n cael eu rhoi mewn ysbryd adeiladol a bwriedir i'm hymateb i fod felly hefyd.
Fel ag erioed, mae ein dull gweithredu yn parhau i gael ei lywio gan gyngor y prif swyddog meddygol, ein swyddogion gwyddonol, ein cell cyngor technegol, y grŵp cyngor technegol, a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth yng Nghymru, ledled y DU a gweddill y byd. Credwn eto fod y rheoliadau hyn yn gamau penodol a chymesur i'w cymryd mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr achosion a welwn mewn rhannau penodol o'n gwlad.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud dewisiadau, i ddilyn y mesurau, y gyfraith a'r canllawiau i helpu i'n cadw ni, ein hanwyliaid a'n cymunedau yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn. Nodyn atgoffa terfynol i gadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn allan ac yn sicr i osgoi cyswllt yn ein cartrefi ein hunain, i ddilyn y rheolau ynghylch pwy sy'n cael ei wahardd o'ch cartref eich hun, i olchi ein dwylo'n aml, i weithio gartref os gallwn, i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae angen i ni aros gartref os oes gennym symptomau ac aros am ganlyniad, ac, fel y dywedais, i ddilyn y cyfyngiadau sydd ar waith yn lleol. Gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron y prynhawn yma.