– Senedd Cymru am 4:22 pm ar 20 Hydref 2020.
Gallaf weld nad oes gwrthwynebiad, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n cynnig y ddwy set o reoliadau ger ein bron heddiw yn ffurfiol a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi. Unwaith eto, cyflwynwyd y rheoliadau hyn o dan Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984 drwy weithdrefnau brys i gefnogi ein camau parhaus i fynd i'r afael â'r bygythiad gwirioneddol a pharhaus a achosir gan y coronafeirws.
Gwnaed Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 ar 9 Hydref a daethant i rym ar 12 Hydref. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020. Maen nhw'n rhoi pwerau i awdurdodau lleol i gau mangreoedd, gosod cyfyngiadau neu ofynion mewn perthynas â defnyddio'r fangre, mynd i'r fangre neu nifer y bobl yn y fangre, neu i wahardd digwyddiadau neu fathau penodol o ddigwyddiadau rhag digwydd, neu i osod cyfyngiadau neu ofynion o ran cynnal y digwyddiadau, mynediad at y digwyddiadau, neu nifer y bobl sy'n mynychu'r digwyddiadau, a chyfyngu ar fynediad i fannau awyr agored cyhoeddus neu eu cau drwy gyhoeddi cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus.
Wrth wneud y rheoliadau hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i bryderon a fynegwyd gan amrywiaeth o awdurdodau lleol ynghylch y pwerau sydd ar gael iddynt. Mae'r rheoliadau'n ehangu pwerau awdurdodau lleol i wneud cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus i'w galluogi i osod gwaharddiadau, gofynion neu gyfyngiadau o ran gweithgareddau a gynhelir mewn man cyhoeddus, gan gynnwys yfed alcohol. Mae'r pŵer cyfarwyddiadau mannau cyhoeddus ehangach hwn yn ategu'r cyfyngiadau ar werthu alcohol a gyflwynwyd yng Nghymru ar 24 Medi. Bydd yn helpu awdurdodau lleol i atal pobl sy'n yfed alcohol rhag casglu mewn ardaloedd dynodedig o ganlyniad i gau safleoedd trwyddedig yn gynharach. Gwyddom fod ymddygiadau o'r fath yn cynyddu'r risg o drosglwyddo'r coronafeirws, gan fod yfed alcohol yn arwain at lai o gadw pellter cymdeithasol ac yn gwneud gorfodi'n fwy anodd.
Bydd Aelodau'n ymwybodol, pan fydd awdurdod lleol yn cyhoeddi cyfarwyddyd, ei bod yn ofynnol iddynt hysbysu Gweinidogion Cymru cyn gynted â phosibl. Rhaid i hyn gynnwys copi o'r cyfarwyddyd, y rheswm dros gyhoeddi'r cyfarwyddyd, y lleoliad neu'r ardal y mae'r cyfarwyddyd yn ymwneud â hi, y sefydliadau a'r grwpiau o bobl y disgwylir i'r cyfarwyddyd hwnnw effeithio'n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol arnynt, y rhanddeiliaid yr ymgynghorwyd â hwy ar y penderfyniad ynghylch y cyfarwyddyd, y dyddiad a'r amser y daw'r cyfyngiad i rym, a'r dyddiad a'r amser y daw'r cyfyngiad i ben.
Gwnaed Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 ar 9 Hydref, a daethant i rym ar 10 Hydref. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio'r prif reoliadau, sydd bellach yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Diwygiwyd y prif reoliadau a ddaeth i rym ar 8 Medi 2020 i gyflwyno cyfyngiadau ynglŷn ag ardal diogelu iechyd leol. Erbyn hyn mae 16 o ardaloedd diogelu iechyd lleol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn cyfyngiadau i ardal diogelu iechyd leol arall, sy'n cynnwys wyth ward etholiadol yn ardal Bangor yng Ngwynedd. Mae'r cyfyngiadau a gyflwynir yr un fath â'r rhai sy'n berthnasol mewn ardaloedd diogelu iechyd eraill. Yn benodol, mae'r rheoliadau'n darparu na ellir trin unrhyw aelwyd o fewn yr ardal honno fel rhan o aelwyd estynedig, ac mae'n gwahardd ffurfio aelwyd estynedig gan aelwyd o'r fath; maen nhw'n gwahardd bobl sy'n byw yn yr ardal honno rhag gadael neu aros i ffwrdd o'r ardal honno heb esgus rhesymol; maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i drigolion yr ardal honno weithio gartref os yw'n rhesymol ymarferol iddynt wneud hynny; ac maen nhw'n gwahardd pobl o'r tu allan i'r ardal honno rhag dod i mewn i'r ardal heb esgus rhesymol.
Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd ymagwedd ofalus sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ymdrin â chlefyd y coronafeirws, gan gynnwys ein gofyniad ffurfiol i adolygu'r angen am gyfyngiadau perthnasol a'u cymesuredd bob 21 diwrnod. Mae pob un o'r rheoliadau sy'n ymwneud ag ardaloedd diogelu iechyd lleol yn cael eu hadolygu bythefnos ar ôl eu cyflwyno, a phob wythnos wedi hynny os bydd y cyfyngiadau'n parhau am gyfnod hwy na hynny.
Ddoe roedd hi'n amlwg pa mor ddifrifol yw pandemig y coronafeirws pan gyhoeddodd y Prif Weinidog ein penderfyniad ddoe i gyflwyno cyfnod atal byr o bythefnos i ddechrau am 6 p.m. ddydd Gwener yma gan ddod i ben ddydd Llun 9 Tachwedd. Gobeithio y cawn gyfle i drafod hynny'n fanylach yn ddiweddarach heddiw. Er hynny, gofynnaf i Aelodau, at ddibenion y rheoliadau sydd ger ein bron heddiw, wneud ein rhan i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Credaf fod angen y rheoliadau hyn yn ein hymdrechion parhaus i fynd i'r afael â'r pandemig. Gofynnaf nawr i'r Senedd eu cefnogi.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd dros dro. O ran eitem 7 ac eitem 8 gyda'i gilydd, fe wnaethom ystyried y ddwy set o reoliadau yn ein cyfarfod fore ddoe, ac mae ein hadroddiadau wedi'u gosod gerbron y Senedd i gynorthwyo'r ddadl heddiw.
Os caf, fe wnaf ymdrin â Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020 yn gyntaf. Roedd ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys un pwynt adrodd technegol a phum pwynt adrodd ar sail rhagoriaeth. Mae'r pwynt adrodd technegol yn tynnu sylw at broblem bosibl o ran eglurder y gyfraith. Mae rheoliad 2(2) yn cyfeirio at adran etholiadol 'Menai'. Mae Gorchymyn Sir Gwynedd (Newidiadau Etholiadol) 2002 yn nodi bod mewn gwirionedd dwy adran etholiadol ym Menai, Menai Bangor a Menai Caernarfon, ac er y gallai ymddangos yn amlwg o ddarllen y rheoliadau diwygio annibynnol mai Menai Bangor yw'r adran etholiadol sydd i'w hystyried yma, gan fod yr enw Bangor wedi'i gynnwys yn enw'r rheoliadau diwygio, gall fod yn llai amlwg wrth ystyried y prif reoliadau ar eu pen eu hunain. Mae potensial hefyd ar gyfer dryswch a dyblygu yn y dyfodol pe bai adran etholiadol Menai Caernarfon yn destun cyfyngiadau yn y dyfodol. Mae'r un mater yn codi yn fersiwn Gymraeg y rheoliadau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ein pryderon, ac mae'r afreoleidd-dra wedi'i gywiro yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020, a wnaed ar 16 Hydref 2020.
Mae ein pwynt rhagoriaeth cyntaf yn ymwneud â chyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol. Rydym wedi adrodd am gamgymeriad yn y disgrifiad o erthygl 11 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol yn y memorandwm esboniadol. Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi y bydd y camgymeriad yn cael ei gywiro. Fel gyda nifer o reoliadau y mae'r Senedd wedi'u hystyried yn ystod y misoedd diwethaf, mae ein hail bwynt rhagoriaeth yn nodi na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau hyn. At hynny, nododd ein trydydd pwynt rhagoriaeth nad oes asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer y rheoliadau hyn. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru egluro pa drefniadau y mae wedi'u gwneud i gyhoeddi adroddiadau ar asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn unol â rheoliad 8(1)(d) o Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011. Nodwn fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi asesiad effaith integredig o gyfyngiadau cynulliad cymdeithasol maes o law. Yn ein pedwerydd pwynt rhagoriaeth, gwnaethom ailadrodd ein barn, lle mae cyfyngiadau coronafeirws yn cael eu tynhau mewn unrhyw ffordd arwyddocaol, y dylai memoranda esboniadol nodi'r dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru yn dibynnu arni wrth benderfynu bod tynhau o'r fath yn angenrheidiol ac yn gymesur.
Mae ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn nodi mwy o dystiolaeth, ac rydym yn croesawu hynny. Mae'n dweud, pan sefydlwyd ardal diogelu iechyd leol ardal Bangor, fod tuedd gynyddol o ran cyfraddau saith diwrnod treigl o achosion o COVID-19 yng Ngwynedd; roedd Gwynedd yn parhau i fod â mwy na 50 achos i bob 100,000; fodd bynnag, nododd ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru fod y gyfradd o achosion ym Mangor yn uwch o lawer, ar 318 o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at bryder mwyaf y tîm rheoli achos lluosog sef bod cyfradd achosion o tua 390 o achosion i bob 100,000 mewn cymunedau myfyrwyr ym Mangor. Argymhelliad clir y tîm rheoli achos lluosog oedd sefydlu parth diogelu iechyd lleol ar gyfer Bangor yn unig. Credwn y bydd darparu'r dystiolaeth hon yn helpu tryloywder ac yn helpu'r Senedd i graffu ar reoliadau coronafeirws.
Mae ein pwynt rhagoriaeth terfynol yn tynnu sylw'r Senedd at y ffaith bod y rheoliadau hyn wedi dod i rym cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Rydym wedi nodi, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946, fod llythyr y Prif Weinidog at y Llywydd, dyddiedig 9 Hydref 2020, wedi cadarnhau'r ffaith hon ac yn cynnwys esboniad bod hyn yn angenrheidiol ac yn gyfiawn o ystyried y dystiolaeth newidiol ar risg o ran clefyd y coronafeirws. Gofynnwyd i Lywodraeth Cymru ddarparu rhagor o fanylion am y dystiolaeth hon yn ei hymateb i'n hadroddiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud ei bod o'r farn bod y cynnydd yn yr achosion a ddisgrifir yn ei hymateb i'n pedwerydd pwynt adrodd yn dangos ac yn cyfiawnhau'r angen i'r rheoliadau ddod i rym cyn gynted â phosibl.
Gan droi nawr at y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020, mae ein hadroddiad ar y rheoliadau hyn yn cynnwys dau bwynt rhagoriaeth. Nododd y pwynt cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol ac mae'n tynnu sylw at baragraffau perthnasol yn y memorandwm esboniadol cysylltiedig. Mae ein hail bwynt adrodd unwaith eto'n tynnu sylw at y ffaith na fu ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau hyn. Diolch, Llywydd dros dro.
Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau y prynhawn yma. Mae eitem Rhif 7 ar yr Agenda yn gamau synhwyrol, os ydych yn rhoi'r awdurdod hwn i awdurdodau lleol gau lleoedd ond hefyd yn cynnig y gallu i bobl sy'n dod o dan y rheoliadau hyn apelio i lys ynadon, fel y deallaf, a hefyd os oes angen i'r rheolau a rheoliadau ddod i ben ar ôl saith diwrnod, yna mae'r ddarpariaeth ar gyfer tynnu'r rheoliadau hynny ymaith yn ymddangos yn gamau synhwyrol.
Mae'r ail bwynt am Fangor, yr ail reoliad y byddwn yn pleidleisio arno'r prynhawn yma, yn rhywbeth yr ydym wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w wneud. Maen nhw wedi'i ddefnyddio yn Llanelli a chredwn ei fod yn gam gweithredu synhwyrol o ran Bangor, o ystyried nifer yr achosion o'r haint ym Mangor. Ac felly, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau sydd gerbron y Cynulliad y prynhawn yma.
Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y rheoliadau yn ymwneud â Bangor, yn fy etholaeth i. Doedden ni ddim yn gwrthwynebu eu cyflwyno nhw, ond mi oedden ni'n anfodlon efo'r materion cyfathrebu a'r diffyg cyfathrebu lleol o gwmpas y broses o'u cyflwyno nhw. Mae angen cyfathrebu llawer cliriach efo cymunedau lleol, fel y rhai ym Mangor, os bydd angen cyfnodau clo lleol eto i'r dyfodol. Mae amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, ond mae yna wersi pwysig i'w dysgu, dwi'n credu.
Hoffwn i dynnu sylw at bwynt 5 yn y memorandwm esboniadol, sydd yn sôn am ymgynghori ac yn dweud na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau ar gyfer wyth ward Bangor. Rŵan, dwi'n derbyn nad oes amser i ymgynghori'n ffurfiol mewn argyfwng, ond dwi yn meddwl bod gwersi i'w dysgu yn sgil y ffordd y cafodd y cyfyngiadau a'r angen am gyfyngiadau eu cyfathrebu i'r boblogaeth leol. A dwi yn credu bod angen cyflwyno protocolau arbennig er mwyn sicrhau gwell cyfathrebu efo arweinwyr cymunedol lleol.
Yn achos Bangor, ni chafwyd dim cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorwyr sir yr wyth ward, na'r cynghorwyr dinas, a'r unig beth gefais i fel yr Aelod o'r Senedd, a'r Aelod yn San Steffan, oedd galwad ffôn chwarter awr cyn i Weinidog o'r Llywodraeth ddatgan ar y teledu fod y cyfyngiadau i ddod i rym, a hynny mewn llai na 24 awr. Roedd hynny'n arwain at bob math o broblemau i etholwyr a oedd yn naturiol yn troi at eu harweinwyr cymunedol am wybodaeth, ond doedd y wybodaeth honno ddim gennym ni. Petaem ni wedi cael ein briffio ymlaen llaw, hyd yn oed wyth awr ymlaen llaw, fe fyddem ni wedi gallu helpu i osgoi llawer o'r dryswch a'r penbleth.
Yn achos Bangor, roedd llawer iawn yn cwestiynu pam gadael un ward gyfan, sy'n cynnwys talp o'r ddinas, allan o'r ardal diogelu iechyd. Dwi'n cymryd bod yna resymeg i hynny, ond chefais i ddim esboniad, a dwi ddim wedi cael esboniad hyd heddiw ynglŷn â hynny. Mi fyddai cynnwys ward Pentir wedi gwneud synnwyr, oherwydd byddai wedi cynnwys y ddinas gyfan o fewn yr ardal diogelu iechyd a hefyd wedi cynnwys rhan wledig, sydd yn cynnwys darn o lwybr yr arfordir yn ogystal â mannau gwledig, a fyddai wedi bod ar gael i etholwyr y ddinas sydd wedi gorfod cael eu cyfyngu i ardal ddaearyddol drefol heb fawr ddim o ardaloedd gwyrdd ynddi hi. Dwi'n cymryd bod yna esboniad gwyddonol pam ddim cynnwys ward Pentir, ond heb wybod yr esboniad, sut mae modd i arweinwyr lleol drosglwyddo'r wybodaeth honno? A heb y wybodaeth, dryswch sydd yn digwydd ac amheuaeth, ac yn y pen draw mae hynny'n arwain at lai o gydymffurfiaeth, a chydymffurfiaeth ydy yr hyn rydym ni yn chwilio amdano fo, wrth gwrs.
Felly, dwi'n tynnu sylw Llywodraeth Cymru at hyn ar lawr y Senedd heddiw er mwyn ichi fedru gweithredu, er mwyn cael gwell cyfathrebu a chyfathrebu clir wrth inni symud ymlaen. Gobeithio eich bod chi'n talu sylw i'r sylwadau hyn. Y pwrpas ydy cynorthwyo'r Llywodraeth i wella protocolau cyfathrebu wrth inni symud i'r cyfnod nesaf, a hynny er mwyn cael gwell cydymffurfiaeth yn y pen draw.
A'r Gweinidog i ymateb.
Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Rwy'n falch o nodi sylwadau Cadeirydd y pwyllgor craffu am welliannau o ran darparu gwybodaeth a data sy'n sail i'r dewisiadau y mae Gweinidogion yn eu gwneud.
Rwy'n falch o weld y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r ddwy set o reoliadau. Ac mewn ffordd gwbl adeiladol i ateb y pwyntiau a godwyd gan Siân Gwenllian, ac yn arbennig y pwynt am gyfathrebu lleol, oherwydd yr ydym wastad yn chwilio am ffyrdd o wella'r ffordd yr ydym nid yn unig yn gwneud penderfyniadau, ond wedyn yn eu cyfleu hefyd. Wrth ddod i'r penderfyniadau hyn, ym mhob un dewis yr ydym wedi'i wneud, rydym wedi siarad ag arweinydd yr awdurdod lleol a'i brif weithredwr. Gwnaethom yr un peth ym mhob un o'r ardaloedd yn y de, gwnaethom yr un peth ym mhob un yn y gogledd, ac yn wir yn sir Gaerfyrddin hefyd. Felly, mae Gweinidogion yn ymgysylltu'n uniongyrchol ag arweinydd yr awdurdod lleol, ac mae'n deg dweud bod gan bob awdurdod lleol, gan gynnwys Gwynedd, uwch swyddog—yn achos Gwynedd, y cyfarwyddwr corfforaethol, rwy'n deall—sy'n cymryd rhan yn y tîm rheoli achos lluosog, ac maen nhw'n gwneud argymhellion ynghylch pa un a ddylid gweithredu ynghyd â lledaeniad a natur y camau gweithredu hynny hefyd. Felly, roedd y cyngor, mewn gwirionedd, yn rhan o'r broses cyn gwneud penderfyniadau.
Nawr, dydw i ddim yn meddwl mai mater i Weinidogion Cymru wedyn yw ceisio cyfarwyddo'r ymgysylltu â chyngor y dref nac ag aelodau unigol o'r cyngor, ond mae a wnelo â sut yr ydym yn gweithio gyda phob un o'n hawdurdodau lleol i ddeall sut mae angen i'r cyfathrebu hwnnw ddigwydd, a sut y caiff gwybodaeth ei chasglu ac yna ei lledaenu. Rydym wedi mynd ati ein hunain i geisio sicrhau bod Gweinidogion a swyddogion wedyn yn siarad â chynrychiolwyr etholaethau cyn i benderfyniadau gael eu gwneud fel nad yw pobl yn cael gwybod yn uniongyrchol gan y cyfryngau am y dewisiadau sy'n cael eu gwneud.
Derbyniaf pam y byddai'n ddefnyddiol i'r Aelod lleol fod wedi cael sesiwn friffio—credaf mai wyth awr ymlaen llaw oedd yr awgrym—ond mae arnaf ofn nad yw'n adlewyrchu realiti cyflymder yr argymhelliad na'r angen i wneud penderfyniadau. Ac mae'n wir hefyd bod yn rhaid i ni brofi bob un o'r argymhellion, yna deall a fydd Gweinidogion yn gweithredu ar argymhellion ai peidio, neu a ydym yn teimlo bod angen i ni eu profi a'u hanfon yn ôl. Mae hynny'n cynnwys maint ac arwynebedd y lle i gyflwyno cyfyngiadau ai peidio. Felly, mae arnaf ofn, yng nghanol yr holl ansicrwydd yr ydym yn byw ynddo, dydw i ddim yn credu y byddwn ni'n gallu darparu'r math o sesiwn friffio ymlaen llaw y mae'r Aelod yn gofyn amdano gyda'r amserlen sydd ar gael. Petaem yn gallu gwneud penderfyniadau'n gynharach bob dydd, byddai'n rhoi mwy o amser i ni siarad â chynrychiolwyr lleol, oherwydd, fel y dywedais, rydym eisiau dod o hyd i ffyrdd o wella'r modd yr ydym yn gwneud penderfyniadau a'r ffordd yr ydym wedyn yn eu cyfleu.
Rydym yn mynd i gyfnod nawr lle bydd gennym set wahanol o reoliadau cenedlaethol gyda'r cyfnod atal byr. Er ei fod yn gwbl bosibl, wrth gwrs, yn y dyfodol, yn y byd y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, y bydd angen i ni gael cyfyngiadau lleol penodol. Mae'n gwbl bosibl; gallai fod achosion hyperleol a fyddai'n gofyn am y gweithredu lleol penodol hwnnw. Felly, mae'n sicr yn rhywbeth y bydd angen i ni ddychwelyd ato ac rwy'n cydnabod bod ei sylwadau'n cael eu rhoi mewn ysbryd adeiladol a bwriedir i'm hymateb i fod felly hefyd.
Fel ag erioed, mae ein dull gweithredu yn parhau i gael ei lywio gan gyngor y prif swyddog meddygol, ein swyddogion gwyddonol, ein cell cyngor technegol, y grŵp cyngor technegol, a'r astudiaeth a wnânt o dystiolaeth yng Nghymru, ledled y DU a gweddill y byd. Credwn eto fod y rheoliadau hyn yn gamau penodol a chymesur i'w cymryd mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr achosion a welwn mewn rhannau penodol o'n gwlad.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wneud dewisiadau, i ddilyn y mesurau, y gyfraith a'r canllawiau i helpu i'n cadw ni, ein hanwyliaid a'n cymunedau yn ddiogel rhag y feirws heintus a niweidiol hwn. Nodyn atgoffa terfynol i gadw pellter oddi wrth ein gilydd pan fyddwn allan ac yn sicr i osgoi cyswllt yn ein cartrefi ein hunain, i ddilyn y rheolau ynghylch pwy sy'n cael ei wahardd o'ch cartref eich hun, i olchi ein dwylo'n aml, i weithio gartref os gallwn, i wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae angen i ni aros gartref os oes gennym symptomau ac aros am ganlyniad, ac, fel y dywedais, i ddilyn y cyfyngiadau sydd ar waith yn lleol. Gofynnaf i'r Senedd gefnogi'r rheoliadau sydd ger ein bron y prynhawn yma.
Diolch, Gweinidog. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf Aelod yn gwrthwynebu, ac felly gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Unwaith eto, gwelaf Aelodau'n gwrthwynebu, a gohiriaf bleidleisio o dan yr eitem hon hefyd tan y cyfnod pleidleisio.