7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 18) (Bangor) 2020

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:33 pm ar 20 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 4:33, 20 Hydref 2020

Mi fydd Plaid Cymru yn atal pleidlais ar y rheoliadau yn ymwneud â Bangor, yn fy etholaeth i. Doedden ni ddim yn gwrthwynebu eu cyflwyno nhw, ond mi oedden ni'n anfodlon efo'r materion cyfathrebu a'r diffyg cyfathrebu lleol o gwmpas y broses o'u cyflwyno nhw. Mae angen cyfathrebu llawer cliriach efo cymunedau lleol, fel y rhai ym Mangor, os bydd angen cyfnodau clo lleol eto i'r dyfodol. Mae amgylchiadau wedi newid erbyn hyn, ond mae yna wersi pwysig i'w dysgu, dwi'n credu.

Hoffwn i dynnu sylw at bwynt 5 yn y memorandwm esboniadol, sydd yn sôn am ymgynghori ac yn dweud na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol ar y rheoliadau ar gyfer wyth ward Bangor. Rŵan, dwi'n derbyn nad oes amser i ymgynghori'n ffurfiol mewn argyfwng, ond dwi yn meddwl bod gwersi i'w dysgu yn sgil y ffordd y cafodd y cyfyngiadau a'r angen am gyfyngiadau eu cyfathrebu i'r boblogaeth leol. A dwi yn credu bod angen cyflwyno protocolau arbennig er mwyn sicrhau gwell cyfathrebu efo arweinwyr cymunedol lleol.

Yn achos Bangor, ni chafwyd dim cyfathrebu rhwng Llywodraeth Cymru a chynghorwyr sir yr wyth ward, na'r cynghorwyr dinas, a'r unig beth gefais i fel yr Aelod o'r Senedd, a'r Aelod yn San Steffan, oedd galwad ffôn chwarter awr cyn i Weinidog o'r Llywodraeth ddatgan ar y teledu fod y cyfyngiadau i ddod i rym, a hynny mewn llai na 24 awr. Roedd hynny'n arwain at bob math o broblemau i etholwyr a oedd yn naturiol yn troi at eu harweinwyr cymunedol am wybodaeth, ond doedd y wybodaeth honno ddim gennym ni. Petaem ni wedi cael ein briffio ymlaen llaw, hyd yn oed wyth awr ymlaen llaw, fe fyddem ni wedi gallu helpu i osgoi llawer o'r dryswch a'r penbleth.

Yn achos Bangor, roedd llawer iawn yn cwestiynu pam gadael un ward gyfan, sy'n cynnwys talp o'r ddinas, allan o'r ardal diogelu iechyd. Dwi'n cymryd bod yna resymeg i hynny, ond chefais i ddim esboniad, a dwi ddim wedi cael esboniad hyd heddiw ynglŷn â hynny. Mi fyddai cynnwys ward Pentir wedi gwneud synnwyr, oherwydd byddai wedi cynnwys y ddinas gyfan o fewn yr ardal diogelu iechyd a hefyd wedi cynnwys rhan wledig, sydd yn cynnwys darn o lwybr yr arfordir yn ogystal â mannau gwledig, a fyddai wedi bod ar gael i etholwyr y ddinas sydd wedi gorfod cael eu cyfyngu i ardal ddaearyddol drefol heb fawr ddim o ardaloedd gwyrdd ynddi hi. Dwi'n cymryd bod yna esboniad gwyddonol pam ddim cynnwys ward Pentir, ond heb wybod yr esboniad, sut mae modd i arweinwyr lleol drosglwyddo'r wybodaeth honno? A heb y wybodaeth, dryswch sydd yn digwydd ac amheuaeth, ac yn y pen draw mae hynny'n arwain at lai o gydymffurfiaeth, a chydymffurfiaeth ydy yr hyn rydym ni yn chwilio amdano fo, wrth gwrs.

Felly, dwi'n tynnu sylw Llywodraeth Cymru at hyn ar lawr y Senedd heddiw er mwyn ichi fedru gweithredu, er mwyn cael gwell cyfathrebu a chyfathrebu clir wrth inni symud ymlaen. Gobeithio eich bod chi'n talu sylw i'r sylwadau hyn. Y pwrpas ydy cynorthwyo'r Llywodraeth i wella protocolau cyfathrebu wrth inni symud i'r cyfnod nesaf, a hynny er mwyn cael gwell cydymffurfiaeth yn y pen draw.