2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru ar 21 Hydref 2020.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg yng Nghanol De Cymru? OQ55746
Gwnaf, â phleser. Mae gan awdurdodau lleol ddyletswydd statudol i gynnal ysgolion yn eu hardal. Yng Nghanol De Cymru, mae Consortiwm Canolbarth y De yn darparu cymorth gwella ysgolion i'r 277 o ysgolion, y ddwy ysgol arbennig a'r pedair uned cyfeirio disgyblion dan eu goruchwyliaeth.
Diolch, Weinidog. Mewn ysgolion yn Lloegr, bwriad Llywodraeth y DU yw bwrw ymlaen â'r rhan fwyaf o arholiadau yr haf nesaf. Nawr, rwy'n ymwybodol fod y Gweinidog newydd ddweud mewn ymateb i David Rees y bydd yn gwneud datganiad ar 9 Tachwedd, ac rwy'n sylweddoli na fydd hi eisiau achub y blaen ar hyn. Er hynny, arholiadau yw'r ffordd decaf a mwyaf tryloyw o asesu gallu disgyblion ysgol, a phan gawsant eu canslo yr haf diwethaf, a phan roddwyd graddau i ddisgyblion yn lle hynny, roedd yn llanast. Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion a myfyrwyr yn dweud eu bod eisiau i arholiadau gael eu cynnal gan nad ydynt eisiau gradd wedi'i rhoi gan athro neu ei chynhyrchu gan algorithm. Gwn y byddwch yn gwneud y datganiad ymhen ychydig wythnosau, ond a allai'r Gweinidog ein sicrhau ei bod yn gwneud popeth yn ei gallu i sicrhau bod arholiadau ysgol yn cael eu cynnal yng Nghymru yr haf nesaf?
Wel, mae'r Aelod yn iawn—mae arholiadau'n rhan bwysig a phrif ffrwd o'r ffordd rydym yn gweithredu ein system addysg yng Nghymru, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod hefyd yn cytuno bod hwn yn gyfnod eithriadol, a'r hyn na all system arholi ei wneud yw datrys y tarfu eithafol sydd wedi bod ar addysg plant ar ei phen ei hun. Yn wir, pe bai'r Aelod yn edrych ar ei ranbarth ei hun, byddai'n ymwybodol fod rhai plant, heb fod unrhyw fai arnynt hwy, wedi wynebu tarfu i'w haddysg am eu bod mewn swigen gyda phlentyn sydd wedi dal COVID-19. Mae'r ffordd rydym yn dod o hyd i system—system arholi—sy'n trin y plentyn hwnnw yr un mor deg â phlentyn nad yw wedi wynebu tarfu pellach i'w haddysg am eu bod yn ddigon ffodus i fod mewn carfan nad yw wedi cael ei hanfon adref o'r ysgol, rwy'n siŵr y byddai'n cytuno, yn her go iawn. Dyna pam y gofynnais i'r adolygiad annibynnol edrych ar y sefyllfa, a bydd wedi gweld y bore yma fod Cymwysterau Cymru hefyd wedi cydnabod bod y tarfu ar addysg yn sylweddol. Mae Lloegr wedi gwneud eu penderfyniad; mae'r Alban wedi gwneud un gwahanol. Byddaf yn gwneud penderfyniad sydd, yn fy marn i, er lles gorau dysgwyr Cymru ac sy'n deg â'r garfan benodol hon o blant sydd, unwaith eto, yng ngeiriau Cymwysterau Cymru, wedi dioddef mwy o aflonyddwch ac wedi wynebu mwy o heriau—y garfan hon—na charfan y llynedd hyd yn oed, ac mae angen inni fod yn deg â hwy.
Diolch am yr ymateb i'r cwestiwn agoriadol, Weinidog. Yn amlwg, gyda'r cyfyngiadau symud cenedlaethol sy'n dod i rym nos Wener, mae blynyddoedd 9 ac uwch wedi cael eu gorchymyn i aros gartref o'r ysgol am wythnos. A allwch chi fy nghyfeirio at y dystiolaeth wyddonol sy'n dweud bod hwn yn gam gweithredu synhwyrol ar gyfer blynyddoedd 9 ac uwch, neu fel y dywedoch chi yn eich ymateb i Suzy Davies, a yw'n aberth y mae'n rhaid inni ei wneud, yn amlwg, i atal y feirws?
Fe fyddwch yn ymwybodol o'r dystiolaeth sydd wedi'i chynnwys ym mhapur y gell cyngor technegol sy'n sôn am gyfraniad cau ysgolion yn eu cyfanrwydd a chau ysgolion uwchradd yn benodol i leihau rhif R. Drwy gydol y pandemig hwn, rwyf wedi ceisio lleihau'r aflonyddwch i blant a sicrhau'r addysg orau bosibl. Mae'n peri pryder mawr i'r plant hynny ym mlynyddoedd 9 ac uwch fod y penderfyniad hwn wedi'i wneud, ond fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, mae'r rhan hon o'r garfan yn y sefyllfa orau i allu cymryd rhan mewn dysgu hunangyfeiriedig a dysgu o bell. A thrwy gyfyngu ar y feirws ledled Cymru a lleihau cyfraddau trosglwyddo cymunedol, rwy'n gobeithio y bydd hynny'n cyfyngu ar yr aflonyddwch i addysg wrth inni anelu at ddiwedd y tymor hwn.