Staff sy'n Gweithio Gartref

Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:10 pm ar 21 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 3:10, 21 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Comisiynydd am ei hateb. Mae'n rhaid imi ddweud bod hynny'n galonogol iawn. Hoffwn ofyn yn benodol a yw'r meini prawf sy'n galluogi rhai staff i ddod i mewn i'r gweithle yn cynnwys amgylchiadau lle gall pobl fod gartref gyda phlant bach iawn ac efallai'n ei chael hi'n anodd iawn gweithio gartref. Felly, a yw'r mathau hynny o amgylchiadau teuluol wedi'u cynnwys yn y math o amgylchiadau arbennig lle gellid caniatáu i aelod o staff weithio yn y gweithle?