Part of 3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 3:09 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch am y cwestiwn hwnnw. Mae'r mesurau a ddarperir i staff y Comisiwn yn helaeth ac yn cynnwys cymorth ymarferol ar ffurf TGCh ac addasiadau eraill i galedwedd a swyddfeydd cartref, gan gynnwys desgiau a chadeiriau; iechyd, diogelwch a chymorth emosiynol, yn amrywio o asesiadau offer a sgrin arddangos a chanllawiau gweithio o'r cartref i gymorth a mynediad at adnoddau llesiant. Ceir hyblygrwydd o ran arferion gwaith i gefnogi staff sydd â chyfrifoldebau gofalu, yn ogystal â chyfathrebu dwy ffordd parhaus a rheolaidd. Ers mis Medi, gall unigolion sy'n cael trafferth gyda llesiant neu sy'n cael anhawster gyda'u hamgylchedd cartref fynychu'r gweithle, a bydd yr holl drefniadau hyn yn cael eu hadolygu wrth i'r amgylchiadau newid.