Part of the debate – Senedd Cymru am 5:11 pm ar 21 Hydref 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Nawr, yn y ddadl yma, dwi'n mynd i ganolbwyntio ar addysg gyfrwng Cymraeg ac o brofiad fel cyn-gadeirydd corff llywodraethol Ysgol Gynradd Gymraeg y Login Fach yn Waunarlwydd, Abertawe, â 250 o blant efo 92 y cant o ddisgyblion yn dod o gartrefi di-Gymraeg. Mae'n debyg mai'r diffyg gweithredu a diffyg unrhyw ymateb ystyrlon i adroddiad yr Athro Sioned Davies, 'Un iaith i bawb', sy'n crisialu'n amlycaf y cynnydd hollol annigonol sydd wedi digwydd ym maes addysg Gymraeg ers datganoli. Dywedwyd wrth y Llywodraeth yn ôl yn 2013 ei bod hi'n unfed awr ar ddeg ac y dylid gweithredu i greu un continwwm dysgu ac un cymhwyster Cymraeg i bawb, ac ar fyrder, i sicrhau nad yw'r system addysg yn amddifadu rhagor o'n pobl ifanc o'u rhuglder yn ein dwy iaith genedlaethol.
Mae cwestiynau caled iawn angen eu gofyn ynglŷn â sut ein bod ni wedi parhau efo'r system ddiffygiol am saith mlynedd heb weithredu. Ac mae gan adran addysg Llywodraeth Cymru lot i ateb yn ei gylch, ond mae gan yr un adran cwestiynau yr un mor ddyrys i'w hateb wrth edrych ymlaen, sef: sut all ddarn o ddeddfwriaeth arfaethedig, sydd, yn ôl Aled Roberts, yn peryglu sail a statws addysg gyfrwng Cymraeg, sy'n gwneud Saesneg yn elfen fandadol o'r cwricwlwm gan danseilio addysg gyfrwng Cymraeg ac sy'n milwrio yn erbyn strategaeth iaith Gymraeg y Llywodraeth ei hun—ei eiriau fe ydy'r rheini—wedi gwneud ei ffordd allan o ddrysau rhithiol Parc Cathays o gwbl, heb sôn am ddechrau ar ei thaith seneddol?
Rhywbeth arall fydd yn niweidiol i'r weledigaeth ar gyfer y dyfodol ydy methu gwerthfawrogi a thyfu'r hyn sydd gennym ni'n barod. Caeodd cyngor Abertawe Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre yn fy rhanbarth i, yn groes i safonau'r Gymraeg, gan fwrw ymlaen i werthu'r ysgol mewn ocsiwn yn Llundain a chodi dau fys i ddyfarniad Comisiynydd y Gymraeg am fethiannau niferus wrth ymgysylltu ac ystyried yr effaith ar y Gymraeg.
Mewn achos tebyg iawn yn ddiweddar, aeth criw o drigolion Rhondda Cynon Taf â'r cyngor i gyfraith ac ennill yn erbyn y cyngor yn achos Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Sion Norton ac ysgolion eraill, sy'n dangos pa mor gryf mae pobl yn teimlo am yr hawl i gael addysg Gymraeg. Mae dyfarniad cadarn y Barnwr Fraser yn ei gyfanrwydd yn gam mawr ymlaen o ran y disgwyliadau gan lysoedd ar awdurdodau cyhoeddus i roi sylw teilwng a phriodol i'r Gymraeg wrth wneud penderfyniadau, ac yn warchodaeth i gymunedau eraill. Yn ôl y dyfarniad llys, 10 y cant yn unig o asesiad effaith y penderfyniad i gau Ysgol Pont Sion Norton yng Nghilfynydd oedd yn canolbwyntio ar yr effaith ar y Gymraeg. Ac mae'r cyngor, wrth geisio herio sail y dyfarniad, yn parhau i fethu'n lân â derbyn nad ydy cynnydd llefydd mewn addysg Gymraeg ar lefel sirol yn gwneud iawn am dynnu darpariaeth o un gymuned, gan olygu y gallai'r disgyblion hynny fod wedi eu colli am byth o addysg Gymraeg, fel y dywedir yn y dyfarniad.
Ategaf yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian ddoe wrth Jeremy Miles: mae'n gywilydd o beth i unrhyw awdurdod cyhoeddus fod yn herio'r dyfarniad ar y sail yma a'r cynseiliau sy'n codi ohono. Mae angen i'r Llywodraeth roi datganiad clir a diamwys na fyddan nhw'n cefnogi apêl ar y sail yma, ac yn lle ceisio tanseilio’r cynseiliau sy’n codi o’r achos, dylid eu hyrwyddo.
Roedd Jeremy Miles yn sôn ddoe bod y Llywodraeth yn ystyried impact y dyfarniad—yr impact ar gynghorau sir fel Abertawe a Rhondda sydd yn parhau i lesteirio ymdrechion i dyfu addysg Gymraeg, beryg. Ond os yw 1 miliwn o siaradwyr yn uchelgais wirioneddol i’r Llywodraeth, dylai groesawu’r effaith gadarnhaol a'r disgwyliadau sy’n codi o’r achos yma o ran ystyried effaith penderfyniadau ar y Gymraeg yn ystyrlon a chynhwysfawr. Mae angen ei weld fel penderfyniad cadarnhaol i gymunedau Cymru, i addysg Gymraeg ac i rym y bobl.
I gloi, wrth gofio Felindre, cefnogwn rieni, athrawon, disgyblion a chymunedau Pontypridd yn eu brwydr dros addysg a’r Gymraeg, gan fod brwydr Pontypridd yn frwydr i Gymru gyfan ac yn crisialu’r dewis sydd i Lywodraeth Cymru: cefnogi cam sylweddol ymlaen i addysg Gymraeg neu gefnogi cynghorau sir sy’n tanseilio'r ymdrechion i greu'r filiwn. Diolch yn fawr.