Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 21 Hydref 2020.
Cyn i mi symud ymlaen at y materion sy'n ymwneud â'r cynnig, a gaf fi gofnodi fy niolch i staff ein system addysg, sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy'r pandemig a'r cyfyngiadau, ac yn enwedig ein hathrawon? Roeddent yn wynebu heriau anodd bryd hynny ac fe wnaethant gamu i'r adwy a chyflawni dros ein pobl ifanc a sicrhau y gallai dysgu ddigwydd. Credaf fod hyn hefyd yn adlewyrchu'r ffaith bod gennym, yng Nghymru, system addysg a oedd â hunaniaeth ddigidol mewn gwirionedd, a chyda system Hwb ar waith, gallodd disgyblion ddatblygu eu sgiliau gartref, drwy gymorth yr athrawon a oedd yn gweithio yn yr ystafelloedd dosbarth. Rwy'n eu canmol am yr holl waith a wnaethant a'r gwaith y maent wedi'i wneud ers hynny.
Rwyf hefyd am siarad am y cynnig nawr, a chredaf fy mod yn cytuno â Suzy Davies: mae'r cynnig hwn mor eang, nid yw'n gwneud cyfiawnder â'r gwahanol elfennau ynddo. Ar un elfen yn unig y gallwn ganolbwyntio, fel arfer, mewn cynnig ac mae cynifer o elfennau yn y cynnig hwn, ac rwy'n credu bod y cwmpas yn rhy fawr i allu canolbwyntio ar un elfen.
Ond rwyf am ganolbwyntio ar y system arholi. Rwy'n cytuno ag Aelodau sydd wedi nodi'r heriau a wynebodd pobl ifanc yn yr haf a'r anawsterau a gawsant pan oeddent yn aros am y canlyniadau, oherwydd nid oeddent yn glir a fyddai'r algorithm hwnnw'n gweithio ai peidio, a phan ddaeth y canlyniadau allan, yr hyn a ddigwyddodd y tu hwnt i hynny, a rhaid inni beidio â gadael i hynny ddigwydd eto. Roedd hynny'n rhywbeth y dylem ddysgu gwersi ohono a gwneud yn siŵr nad yw'n digwydd eto.
Nawr, lle mae gennym fantais yw bod y rhan fwyaf o unigolion a oedd yn wynebu arholiadau yr haf hwnnw wedi cwblhau eu cyrsiau at ei gilydd erbyn y daeth y cyfyngiadau symud i rym, felly roedd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r deunydd pwnc wedi'i gwblhau—yn ddigon agos. Efallai nad oedd rhai wedi cyrraedd mor bell â hynny eto. Mae'r sefyllfa'n wahanol eleni gan nad yw'r myfyrwyr sydd o bosibl yn wynebu arholiadau yr haf nesaf yn yr un sefyllfa. Byddent wedi colli rhywfaint o addysgu ym mis Mehefin a mis Gorffennaf y byddent wedi'i gael yn y chweched isaf neu ym mlwyddyn 10, ac maent hefyd yn wynebu ychydig o aflonyddwch nawr. Felly, gwyddom ymlaen llaw na fydd y deunydd a'r wybodaeth a'r cymwyseddau a'r sgiliau, o bosibl, ar y lefel y byddem yn disgwyl iddynt fod erbyn i'r arholiadau ddod o dan amgylchiadau arferol, a rhaid inni ystyried hynny.
Nawr, y cwestiwn wedyn yw: ai arholiadau yw'r ateb neu ai mecanweithiau eraill yw'r ateb? Rwyf wedi codi'r cwestiwn o'r blaen ynglŷn ag a ddylem edrych ar ddull wedi'i gymedroli o asesu athrawon. Fe gymeraf y ddau opsiwn yma, Lywydd dros dro. Os dilynwn lwybr arholi a bod yn rhaid cynnal yr arholiadau—ac rydym yn aros am benderfyniad y Gweinidog ar hyn—rhaid inni sicrhau bod yr arholiadau'n adlewyrchu'r galluoedd a'r wybodaeth y mae myfyrwyr wedi'u hennill yn y cyfnod hwnnw. Oherwydd gallai fod gennym faes llafur, ond ni fydd pob ysgol yn cyflwyno'r maes llafur hwnnw yn yr un drefn neu'r un modd, ac felly ni allwch warantu y bydd disgybl ar yr un lefel o wybodaeth a dealltwriaeth i ateb cwestiynau yn yr arholiad yr haf nesaf, yn y ffordd rydym yn ei wneud ar hyn o bryd. Felly, mae'n gwestiwn difrifol iawn: os ydym yn cael arholiadau, sut bethau fydd yr arholiadau hynny mewn gwirionedd a beth fyddant yn ei asesu?
Os ydym am symud at ddull asesu wedi'i gymedroli, rhaid inni wneud y penderfyniad yn gyflym oherwydd bod angen i athrawon a disgyblion ddeall sut y cânt eu hasesu ar gyfer eu graddau, ac mae hynny'n hollbwysig. Rwy'n hapus i roi fy mhrofiad i Blaid Cymru o fod wedi gwneud hynny. Rwyf wedi dysgu ar bob lefel: TGAU hyd at raddau Meistr, ar bob lefel. Rwyf hefyd wedi cymedroli ac arholi ar lefelau ar hyd y llinellau hynny hefyd. Ac mae'n wahanol i'w addysgu, ei asesu a'i gymedroli, ac mae angen deall y profiadau os ydym am wneud hynny. Er mwyn rhoi cymedroli ar waith, mae angen inni weithredu'n gyflym, oherwydd mae angen i athrawon wybod sut y maent wedi rhoi pethau at ei gilydd, mae angen iddynt gael eu dulliau asesu, y cynlluniau marcio asesiadau, mae angen iddynt gael gwaith cwrs enghreifftiol, mae angen eu hanfon at arholwyr i'w cymedroli. Mae yna broses gyfan sy'n rhaid ei rhoi ar waith, ac ni ellir gwneud hynny yn ystod wythnosau olaf y flwyddyn; mae angen ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Felly, rwy'n cytuno, os ydym yn symud at asesiad athrawon, gorau po gyntaf, felly rwy'n edrych ymlaen at y cyhoeddiad yn yr wythnos sy'n dechrau 9 Tachwedd i gael hynny. Rwy'n croesawu'n fawr ymrwymiad y Gweinidog addysg i'w roi mor gynnar â hynny.
Ond rwyf hefyd yn ystyried sylwadau llefarydd Plaid Cymru pan agorodd y ddadl, ynglŷn â ble rydym yn mynd gydag asesiadau a ble rydym yn mynd gydag arholiadau. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn gwneud datganiadau eang fod angen inni gael newid, ond mae'r newid hwnnw'n cymryd amser, ac mae angen mynd â phobl gyda chi ar y newid hwnnw. Mae angen mynd â disgyblion, cymdeithas, busnesau, y system addysg, prifysgolion a cholegau gyda chi ar y newid hwnnw, ac nid yn ein gwlad ni'n unig, ond ym mhob gwlad yn y DU a gwledydd ledled Ewrop, oherwydd mae pawb yn cydnabod y mathau hynny o gymwysterau. Os ydym am i'n pobl ifanc allu gweithio yn y byd y tu hwnt i Gymru, rhaid inni sicrhau bod y byd y tu hwnt i Gymru yn cydnabod yr hyn rydym yn ei asesu a'r cymwysterau a fydd ganddynt. Nid darlun tymor byr yw hwnnw; mae'n sefyllfa hirdymor i allu cael hynny, ac os nad ydych yn fy nghredu, ceisiwch edrych ar sut y cafodd bagloriaeth Cymru ei derbyn gan brifysgolion dros y blynyddoedd diwethaf. Gallaf ddweud wrthych o'r adeg pan oeddwn yn gweithio yn y sector ei bod wedi bod yn anodd cael cydnabyddiaeth iddi i ddechrau, yn enwedig gan rai o'r prifysgolion gorau. Mae angen inni sicrhau bod pawb yn dod gyda ni. Mae datganiadau mawreddog yn iawn, ond mae'r realiti'n llawer mwy cymhleth. Felly, os ydych am sicrhau dyfodol cadarn i'n pobl ifanc, fod ganddynt lefydd i fynd yn unrhyw le yn y byd—