Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 21 Hydref 2020.
Mewn perthynas ag arholiadau ac asesu, rwyf am fod yn sicr fod y penderfyniadau a wnawn yn awr er lles gorau pob dysgwr, ac mae hynny'n golygu sicrhau'n bendant ein bod yn dysgu gwersi 2020. Yn wahanol i Lywodraeth San Steffan, rwyf wedi sefydlu adolygiad annibynnol i'n helpu i ddysgu'r gwersi hynny ac i ddarparu argymhellion ar gyfer y modd y caiff cymwysterau eu hasesu yn 2021. Bydd Cymwysterau Cymru hefyd yn rhoi cyngor pellach ar sut y dylid cwblhau asesiadau yn 2021, o ystyried yr aflonyddu parhaus yn sgil COVID-19 ar addysg y dosbarthiadau arholiad hynny. Byddaf yn edrych ar y cyngor ac yn gwneud penderfyniad yn syth ar ôl toriad hanner tymor. Rwy'n credu ei bod yn bwysig fod y penderfyniad hwnnw'n cael ei wneud tra bo plant yn yr ysgol fel y gallant gael y lefelau priodol o gymorth a gwybodaeth a sgyrsiau gyda'u hathrawon.
A gaf fi ddweud, Lywydd dros dro—? Pan fo Gareth Bennett yn gwneud y cyhuddiadau y mae'n eu gwneud am safonau addysg yng Nghymru a mynediad i brifysgolion ar y lefel uchaf, yn 2019, enillodd myfyrwyr Cymru fwy o ganlyniadau Safon Uwch ar y lefel uchaf na'r un rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Mae gennym y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr yn gwneud ceisiadau llwyddiannus i astudio meddygaeth, milfeddygaeth, peirianneg yn ein prifysgolion gorau un. Mae ein rhaglen Seren wedi sicrhau, os ydych yn blentyn wedi'i addysgu mewn ysgol gyfun yng Nghymru, eich bod yn fwy tebygol nag unman arall yn y Deyrnas Unedig o gael cynnig gan brifysgol Caergrawnt. A phan ystyriwch yr heriau a wynebir yn rhai o'n cymunedau cynhenid dlawd, mae honno'n dipyn o gamp. Ac yn hytrach na difrïo athrawon a myfyrwyr Cymru yma y prynhawn yma, dylem ddiolch iddynt am eu hymdrechion enfawr yn cyflawni yn y modd hwnnw. Mawredd, 'a'n gwaredo' meddai. Wel, a'n gwaredo rhag bod yn genedl sydd am sicrhau y gall ein holl blant a phobl ifanc adael eu system addysg yn siarad y ddwy iaith. A'n gwaredo rhag bod gennym Aelod yn y lle hwn nad yw'n gweld gwerth cael a chreu system addysg sy'n caniatáu i'n plant fod yn ddwyieithog. Rwy'n credu bod hynny'n llawer mwy o syndod na dim arall rwyf wedi'i glywed y prynhawn yma.
Nawr, gwn hefyd fod ysgolion yn poeni ar hyn o bryd am ddatblygu'r cwricwlwm. Rydym wedi cyhoeddi 'Cwricwlwm Cymru: y daith hyd at 2022' yn ddiweddar. Er nad oes angen gweithredu ar y ddogfen disgwyliadau cyffredin hon ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfeiriad clir tuag at ddiwygio'r cwricwlwm. Mae cyhoeddi'r disgwyliadau hyn yn garreg filltir bwysig tuag at newid y cwricwlwm, ond wrth gwrs, o dan yr amgylchiadau presennol, dim ond pan fydd eu staff a'u dysgwyr yn barod y dylai ysgolion ddefnyddio'r rhain i gefnogi eu prosesau cynllunio. Rydym hefyd yn parhau i weithio ar gynnwys y cwricwlwm, ac rwy'n glir y dylai gwmpasu ehangder y profiadau a'r hanesion sy'n ffurfio Cymru, a dyna pam ein bod wedi penodi'r Athro Charlotte Williams OBE i arwain gweithgor i gynghori a gwella'r gwaith o addysgu themâu sy'n ymwneud â chymunedau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, nid mewn hanes yn unig, ond ym mhob rhan o'r cwricwlwm ysgol.
Gan droi at addysg cyfrwng Cymraeg, gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau parhad ieithyddol o'r cyfnod cyn 16 oed i'r cyfnod ôl-16. Mae cynllun ôl-16 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn manylu ar y camau gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor sydd eu hangen i wireddu hyn. Mae gwaith wedi dechrau ar brosiectau strategol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus i sefydlu darpariaeth gadarn ac i ddatblygu rhwydwaith o gymorth i diwtoriaid a chomisiynu adnoddau'n benodol i ymgorffori darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer ein dysgwyr. Yn y sector prentisiaethau, mae mwy o hyfforddiant asesydd cyfrwng Cymraeg yn cael ei ddarparu, ac mae llwyddiant y modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth o'r Gymraeg, Prentis-Iaith, ymhell y tu hwnt i'n disgwyliadau. Mae'r coleg hefyd yn datblygu'r seilwaith addysg uwch, gan ddarparu grantiau academaidd i brifysgolion mewn pynciau STEM, iechyd a gofal cymdeithasol, a'r gwyddorau cymdeithasol, i enwi ond rhai ohonynt. Rwyf hefyd yn gweithio i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o ddeilliannau ieithyddol disgwyliedig dysgwyr. Cynhaliwyd adolygiad o ddiffiniadau cyfredol o ysgolion y llynedd, a chyn bo hir, byddaf yn ymgynghori ar drefniadau anstatudol newydd ar gyfer dynodiadau ysgolion.
Ond wrth gwrs, mae dysgu'n ymwneud â mwy nag arholiadau a'r cwricwlwm yn unig. Mae iechyd meddwl a lles ein dysgwyr, yn enwedig yn ystod y cyfnod hwn, o'r pwys mwyaf. Daeth yr ymgynghoriad ar y dull ysgol gyfan o ymdrin â chanllawiau fframwaith lles emosiynol i ben ym mis Medi, a bwriadwn gyhoeddi fersiwn derfynol o'r fframwaith tuag at ddiwedd y flwyddyn neu ddechrau mis Ionawr. Bydd y canllawiau statudol hyn yn helpu awdurdodau lleol ac ysgolion i ddiwallu eu hanghenion lles eu hunain mewn modd cyson a chyfannol sy'n hyrwyddo mynediad cyfartal. Mae hefyd yn arf pwysig i fynd i'r afael â'r ymateb tymor byr, tymor canolig a hirdymor i COVID-19 drwy fynd i'r afael ag anghenion lles plant a phobl ifanc.
Lywydd Dros Dro, mae lliniaru effaith y pandemig hwn wedi bod yn ffocws pwysig i mi a'r Llywodraeth hon ac rydym wedi gweithio'n agos gyda'r sector i ddarparu arweiniad a chymorth i sicrhau y gellir darparu addysg ddiogel rhag COVID, ac rwy'n hynod ddiolchgar i bawb am y ffordd y maent wedi gweithio i sicrhau bod dysgu wedi parhau. Roedd cyfraniad Jenny Rathbone yn tynnu sylw'n berffaith at y gwaith caled sydd wedi bod yn digwydd yn ein hysgolion, ein colegau a'n prifysgolion.
Mae gennym sylfeini cadarn yn eu lle, a thrwy weithio gyda'n gilydd, rydym yn benderfynol o barhau i godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad, a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol a hyder y cyhoedd, ac rydym yn gwneud hynny i gyd yn wyneb pandemig byd-eang. Ac unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i'r gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y system addysg ac sy'n gwneud popeth yn eu gallu dan yr amgylchiadau mwyaf anodd i sicrhau ein bod yn cyflawni ein cenhadaeth genedlaethol.