1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2020.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithlu GIG Cymru? OQ55808
Llywydd, mae popeth yr ydym ni'n ei wneud i leihau lledaeniad y coronafeiws wedi'i gynllunio i gefnogi gweithlu ein GIG. Mae'r rhai hynny sy'n tanseilio'r ymdrechion hyn yn ychwanegu at y pwysau sy'n wynebu staff rheng flaen sydd o dan gryn bwysau yn ystod y gaeaf unigryw o heriol hwn.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae ein nyrsys a'n staff y GIG wedi bod ar y rheng flaen yn ymdrin â'r pandemig hwn ers dechrau'r flwyddyn. Bob dydd Iau, roeddem ni'n arfer mynd allan a chlapio a dweud 'diolch' wrthyn nhw. Er bod hynny wedi dod i ben erbyn hyn, mae arnom ni ddyled enfawr o hyd i'r rhai sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd pan fyddan nhw'n mynd i weithio i ofalu am aelodau ein teuluoedd sydd angen eu gofal. Ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ddweud 'diolch' trwy ddarparu cymorth yn awr ac yn y dyfodol. Ac wrth ddweud 'diolch', mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw'n ddiogel ac nad oes ganddyn nhw unrhyw bryder ynghylch cefnogi eu teuluoedd eu hunain. Rwy'n clywed geiriau cynnes y Torïaid am gefnogi ein staff ni yma, ac yn San Steffan, ond mae eu gweithredoedd diweddar yn dweud stori wahanol wrthym ni. Er enghraifft, maen nhw wedi ailgyflwyno treth ar werth lawn ar gyfarpar diogelu personol, gan dynnu'r arian oddi ar y GIG a'i roi yn ôl i'r Trysorlys. Nid ydyn nhw wedi gwobrwyo ein staff GIG gyda'r dyfarniadau cyflog y maen nhw'n eu haeddu am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i ni ac y byddan nhw yn ei wneud i ni. A wnewch chi a'ch Gweinidog gefnogi'r alwad gan staff y GIG, ac annog y Llywodraeth, yn enwedig y Canghellor, sydd fel pe byddai'n gallu dod o hyd i arian pan fo seddi Gweinidogion Torïaidd mewn perygl, i roi'r gorau i siarad a dechrau gweithredu er budd ein staff GIG gwych?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i David Rees am y cwestiynau atodol yna? Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—rydym ni wedi dibynnu cymaint ar ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig hwn. Maen nhw'n mynd i mewn i'r gaeaf hwn ar ôl gweithio yr holl ffordd drwodd, o'r gwanwyn drwy'r haf, i adfer gwasanaethau'r GIG i barhau i ddarparu ar gyfer y rhai hynny sy'n mynd yn sâl, ac maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth ym mhob ffordd.
Mae'r penderfyniad i roi TAW yn ôl ar gyfarpar diogelu personol yn mynd yn groes i unrhyw synnwyr neu resymeg yn fy marn i. Bydd yn creu biliau newydd enfawr i'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Bydd yn creu biliau newydd i'r busnesau niferus hynny sy'n awyddus i wneud y peth iawn, sy'n buddsoddi mewn cyfarpar diogelu personol i amddiffyn eu staff a'u cwsmeriaid—busnesau y gwyddom eu bod wedi ei chael hi'n anodd drwy gydol y pandemig. A nawr, mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i arian ychwanegol—20 y cant yn ychwanegol at yr hyn yr oedden nhw'n dod o hyd iddo ychydig wythnosau yn ôl. Nawr, ysgrifennodd ein Gweinidog cyllid ar 30 Hydref at y Trysorlys, gan annog Gweinidogion i ailystyried diweddu cyfradd sero. Roedd hwnnw yn gyngor da iawn, ac mae'n drueni mawr nad yw'n ymddangos bod neb yn gwrando arno.
O ran dyfarniadau tâl, wrth gwrs, mae David Rees yn iawn. Rydym ni'n dod at ddiwedd cytundeb cyflog tair blynedd gyda staff yr Agenda ar gyfer Newid yn y GIG. Rydym ni wedi ymrwymo fel erioed i weithio mewn partneriaeth—partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau iechyd. Ac rwy'n ategu'r sylwadau y mae David Rees wedi eu gwneud. Llywodraeth y DU sy'n pennu amserlenni'r adolygiadau cyflog a'r cwantwm sydd ar gael i wobrwyo'r gweithwyr hyn. Gallwn ni wneud penderfyniadau gwahanol yng Nghymru ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r cwantwm hwnnw. Dyna sut y gwnaethom ni ddod i gytundeb y byddai GIG Cymru yn gyflogwr cyflog byw. Ond mae'r amserlen a'r cwantwm yn nwylo Llywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n talu rhywfaint o sylw i'r hyn y mae ein cyd-Aelod David Rees wedi ei ddweud y prynhawn yma.
Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn. Hoffwn i gyfeirio fy nghwestiwn atoch chi ynglŷn â chais Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yr wythnos diwethaf am i'r Llywodraeth ystyried y rheolau yn ymwneud â rhyddhau cleifion. Rydym ni'n gwybod am y pwysau y mae staff y GIG yn ei wynebu, yn amlwg, pan nad ydyn nhw'n gallu rhyddhau cleifion a derbyn cleifion newydd i'r ysbytai. Mae rhai o'r rheoliadau a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill, a ddiwygiwyd ym mis Gorffennaf, yn ei gwneud yn ofynnol i gleifion dreulio cyfnod ynysu o 14 diwrnod pan fyddan nhw'n cael eu hanfon adref. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn credu y dylid rhoi sylw i hyn. A allwch chi roi unrhyw galondid i ni o ran pa un a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y gweithdrefnau rhyddhau i liniaru peth o'r pwysau yn yr ysbytai?
Llywydd, diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna. Fe wnes i drafod yr adroddiad hwn gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, yn gynharach yn yr wythnos. A byddwn yn sicr yn ystyried yr adroddiad o ddifrif. Ond fe fydd e'n cofio adeg yn gynharach yn y pandemig pan oedd Llywodraeth Cymru yn cael ei holi'n sylweddol ynghylch rhyddhau pobl o ysbytai heb iddyn nhw fod yn glir o'r coronafeirws. Dyna pam y sefydlwyd y cyfnod o 14 diwrnod—i sicrhau nad oedd pobl yn gallu cael eu rhyddhau i gartrefi gofal, er enghraifft, tan ein bod yn gwbl siŵr nad oedden nhw'n cario'r coronafeirws i'r lleoliadau hynny. Felly, mae'r 14 diwrnod yno at ddiben clinigol penodol. Ond mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch iechyd y boblogaeth ehangach—y boblogaeth ehangach mewn ysbytai, hynny yw—a sut y gellid gwasanaethu hynny yn well trwy fod â chyfnod byrrach. A byddwn yn sicr yn trafod hynny gyda nhw a gyda chydweithwyr eraill yn GIG Cymru.
Gweinidog, rwy'n gwybod bod llawer o sicrwydd wedi ei roi bod GIG Cymru ar agor i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rwyf i'n clywed gan etholwyr na all hyd yn oed y rhai hynny sy'n gweithio ar reng flaen y GIG gael gafael ar driniaethau arferol, fel pigiadau steroid ar gyfer arthritis. Os na all y GIG ofalu am ei bobl ei hun, Gweinidog, sut y gall ofalu am y cyhoedd yn ehangach? Diolch.
Llywydd, ni fu gennym ni erioed bolisi yng Nghymru o symud gweithwyr y GIG i flaen y ciw o ran triniaethau arferol. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod y GIG wedi gweithio'n galed iawn i adfer triniaethau arferol yn GIG Cymru. Mae gwasanaethau canser wedi eu hadfer i fwy neu lai yr hyn oedden nhw yn ôl ym mis Ebrill. Mae gennym ni 70 y cant o weithgarwch cleifion allanol wedi ei adfer yn GIG Cymru. Byddwn ni ond yn gallu—byddwn ni ond yn gallu—cynnal y lefel honno o weithgarwch yn y GIG ar gyfer cleifion nad ydyn nhw â'r coronafeirws os ydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal llif y clefyd hwn yma yng Nghymru. A'r cyfraniad unigol mwyaf y gall unrhyw un ei wneud i sicrhau bod y GIG yno ar gyfer yr holl bethau eraill yr ydym ni angen iddo fod yno ar eu cyfer yw bod pob un ohonom ni yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i atal lledaeniad y feirws marwol hwn yma yng Nghymru.