Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:50, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, rwyf i'n cyflwyno achos nad yw'r Aelod byth yn ei wneud dros undod cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, i ni rannu ein risgiau a chael ein gwobrau pan fydd eu hangen nhw arnom ni. Rwyf i'n credu y bu hynny o fantais i Gymru erioed. Mater i'r Aelod yw esbonio i Gymru pam y mae e'n credu, o golli popeth yr ydym yn ei gael trwy fod yn rhan o'r cyfan ehangach, y byddai Cymru yn fwy llwyddiannus ar ei phen ei hun yn y byd. Nid wyf i erioed wedi derbyn y ddadl honno. Nid oeddwn i eisiau i ni adael yr Undeb Ewropeaidd; nid wyf i eisiau i ni adael undeb y Deyrnas Unedig.