Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:49, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, rydych chi'n dweud bod bod yn rhan o'r DU yn golygu bod gan Gymru y fantais o gymryd rhan mewn polisi yswiriant ar raddfa fawr, ond onid yw'r wythnosau diwethaf newydd ddangos ei fod yn bolisi nad yw'n talu allan pan fydd fwyaf ei angen arnom ni yng Nghymru? Mae'r Torïaid wedi honni ein bod ni wedi cael £4 biliwn gan San Steffan yn ystod y pandemig, ond dim ond ein cyfran Barnett ni yw hynny o'r arian y mae'r Trysorlys wedi ei fenthyg ar ein rhan oherwydd ei fod wedi ein hatal ni rhag ei fenthyg ein hunain. Pe byddem ni'n gallu benthyg ein hunain, heb lyffethair fel gwlad annibynnol, yna gallem ni wneud cymaint mwy. Gallem ni fuddsoddi yn ein gallu profi ein hunain, fel y mae Slofacia wedi gallu ei wneud, gan ei galluogi i brofi dwy ran o dair o'i phoblogaeth gyfan dros y penwythnos. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â system fethedig labordy goleudy y DU, sy'n rhoi Cymru ar ei cholled, a oes unrhyw syndod bod pobl yn ymuno ag ymgyrch YesCymru yn eu miloedd?