1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 3 Tachwedd 2020.
4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr y GIG yn ystod y pandemig COVID-19 hwn? OQ55797
Llywydd, diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau iechyd i sicrhau bod cymorth ar gael i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig. Mae'r ymdrechion eithriadol y maen nhw'n eu gwneud ar ein rhan yn haeddu cefnogaeth pob un ohonom ni.
Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld staff rheng flaen y GIG yn sôn am realiti ymladd y pandemig hwn. Mae meddygon ymgynghorol uchel eu parch yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, fel David Hepburn, Tim Rogerson ac Ami Jones, i gyd wedi mynegi eu profiadau a disgrifio'r pwysau y maen nhw a'u cydweithwyr yn ei wynebu o ddydd i ddydd. Mae'r staff wedi gweithio yn ddiflino drwy gydol y cyfnod. Yn gynnar yn y pandemig, roedden nhw yn aml yn cyflawni swyddogaethau newydd. Mae llawer yn treulio oriau lawer mewn haenau o gyfarpar diogelu personol. Maen nhw hefyd yn teimlo poen anwyliaid nad ydyn nhw'n cael ffarwelio â chleifion ar ddiwedd eu hoes. Ychydig iawn o gyfle y mae staff y GIG wedi ei gael i orffwys wrth i fwy o wasanaethau arferol ailddechrau. Maen nhw wedi bod yn arwrol drwy gydol y pandemig hwn, ond wrth i ni nesáu at y gaeaf, mae angen i bob un ohonom ni gofio nad ydyn nhw'n uwchddynol. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei roi ar waith i helpu'r rhai hynny sydd ar y rheng flaen i sicrhau ein bod ni yn gofalu am y rhai sy'n parhau i ofalu amdanom ni?
Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn atodol trawiadol iawn yna? A gaf i dalu teyrnged i'r clinigwyr y mae hi wedi sôn amdanyn nhw yn y cwestiwn atodol hwnnw, am y ffordd y maen nhw wedi siarad ar ran profiad rheng flaen cynifer o'u cydweithwyr? Ac a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i gondemnio'r gamdriniaeth yr wyf i'n gwybod y mae nifer o'r clinigwyr hynny wedi ei dioddef o ganlyniad i'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud wrth gyfathrebu yn uniongyrchol â phobl yng Nghymru ynghylch sut brofiad yw bod yn glinigydd rheng flaen yn y GIG yn ystod cyfnod y coronafeirws? Mae'n frawychus ac yn gwbl annerbyniol y ffordd y mae rhai pobl wedi dewis cam-drin y bobl hynny sydd wedi esbonio yn syml i'r gweddill ohonom ni y profiad o ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.
Rydym ni yn parhau, fel y dywedais, Llywydd, i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â phawb sydd â budd yn ein GIG. Rwyf i'n credu ei bod yn rhyfeddol ein bod ni, yn gynharach yn y pandemig, wedi gallu darparu hyfforddiant sgiliau clinigol ychwanegol i 950 o unigolion er mwyn gallu eu dyrannu i helpu ei gilydd ac i atgyfnerthu'r rhai yn y rheng flaen wrth ymdrin â gwasanaethau gofal brys ac mewn argyfwng. Ac rwyf i'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud penderfyniad cynnar i ddarparu £1 miliwn o gyllid ychwanegol i Brifysgol Caerdydd er mwyn iddyn nhw allu darparu'r gwasanaeth iechyd i weithwyr proffesiynol, a oedd wedi bod ar gael i feddygon yn unig yn y GIG cyn hynny, i sicrhau ei fod ar gael i weithlu cyfan y GIG. Mae'r effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar ein staff rheng flaen nid yn unig yn gorfforol, ac mae'n real iawn yn ei ystyr corfforol—cyfeiriodd Jayne Bryant at bobl yn gweithio'r sifftiau hir hynny mewn cyfarpar diogelu personol—ond mae'n emosiynol hefyd. Mae'r ymdeimlad o ymlâdd o fod ar y rheng flaen yn cael effaith ar iechyd meddwl a lles pobl, a dyna pam y gwnaethom ni ymestyn y gwasanaeth iechyd hwnnw i weithwyr proffesiynol i bawb sy'n gweithio yn y GIG yma yng Nghymru.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae'r Ysbyty Athrofaol y Faenor newydd yng Nghwmbrân ar fin agor; rwy'n credu y bydd hynny yn ystod y mis hwn. Mae'n mynd i fod yn gyfleuster newydd gwych. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau Cynulliad—Aelodau Senedd ydym ni erbyn hyn—wedi cael cyfle i edrych o gwmpas y cyfleuster hwnnw yn ystod cyfnod ei adeiladu. Ond mae hefyd yn hanfodol bwysig ei fod wedi ei staffio'n dda, yn enwedig wrth i ni fynd drwy ail don pandemig COVID-19. Mae Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, wrth gwrs, yn ymdrin hefyd ar y rheng flaen â COVID-19 ac achosion o hynny, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gan y cyfleuster newydd gwych hwn yng Nghwmbrân, sy'n gwasanaethu sir Fynwy, Torfaen a'r de-ddwyrain, nid yn unig yr adeilad a'r cyfleusterau sydd eu hangen arno, ond hefyd staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda ac sy'n gallu ymateb i'r heriau a'r straen enfawr sydd wedi eu gosod arnyn nhw ar hyn o bryd, fel yr ydym ni newydd ei glywed gan Jayne Bryant?
Diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn yna ac am ei ddiddordeb parhaus yn natblygiad Ysbyty Athrofaol y Faenor, a oedd, ac rwy'n gwybod y bydd yn cofio hyn, yn ffrwyth gwaith Dyfodol Clinigol dan arweiniad staff yn ardal Gwent. Wrth gwrs, nid yn unig yr ydym ni angen y cyfleusterau gwych y bydd yn eu darparu, ond byddwn hefyd angen yr unigolion ymroddedig, medrus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw i wneud y mwyaf o'r cyfleusterau hynny.
Rwy'n gwybod y bydd Nick Ramsay yn cydnabod y ffaith, Llywydd, bod gweithlu cyffredinol y GIG wedi cynyddu gan 4.8 y cant yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mehefin eleni—4,000 o staff cyfwerth ag amser llawn ychwanegol. Y ffigur cymharol ar gyfer yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol oedd cynnydd o 0.5 y cant yn nifer y staff, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos graddau'r llwyddiant a gawsom wrth ddenu pobl i reng flaen y GIG yng Nghymru yn ystod argyfwng y pandemig. Yr adegau arferol ar gyfer recriwtio staff yw mis Hydref a mis Medi, wrth i fyfyrwyr ddod oddi ar gyrsiau ac yn y blaen, ond rydym ni wedi llwyddo, yn ystod cyfnod tawelach y flwyddyn fel arfer, i gyflawni cynnydd o dros 4,000 i staff yng Nghymru. Bydd hynny yn sicr yn cael effaith ar ein gallu i ddarparu staff yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.
Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi nid yn unig yn y staff sydd eu hangen arnom yn awr, ond yn y staff y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd o 89 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys, cynnydd o 57 y cant mewn lleoedd hyfforddi radiograffeg a chynnydd o 71 y cant mewn hyfforddiant bydwreigiaeth a ffisiotherapi. Bydd hynny yn caniatáu i ni fynd ati i dyfu gweithlu'r GIG yma yng Nghymru er mwyn i gyfleusterau newydd gwych fel ysbyty'r Faenor gael eu staffio yn briodol, ond hefyd y bydd gennym ni'r staff sydd eu hangen arnom ni ym mhob rhan o'r GIG ledled Cymru.
Cwestiwn 5, Neil Hamilton.
Mae angen i chi ddad-fudo eich hun, Neil Hamilton. Dyna chi.