Part of the debate – Senedd Cymru am 3:05 pm ar 3 Tachwedd 2020.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad cynhwysfawr ef y prynhawn yma? Mae'r mesurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyfnod clo presennol ledled Cymru, wrth gwrs, yn rhoi rhywfaint o eglurder, ac mae'r hyn a glywsom ni gan y Prif Weinidog y prynhawn yma wedi rhoi mwy o eglurder, ond mae yna rai materion a phryderon sy'n weddill y mae angen rhagor o wybodaeth amdanyn nhw fel y gallwn ddeall yn well yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud o'r wythnos nesaf ymlaen.
Yn gyntaf, rwy'n gwerthfawrogi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ganiatáu i ddwy aelwyd fod mewn swigen yng Nghymru. I laweroedd o gymunedau ledled y wlad, fe fydd yna groeso mawr i allu cwrdd ag aelwyd arall ac mae hynny o rywfaint o gysur i'r rhai nad ydyn nhw wedi gweld aelodau o'u teuluoedd ers cryn amser.
Nawr, mae eich cyhoeddiad chi'n eglur iawn ynglŷn ag ysgolion ledled Cymru yn ailagor o ddydd Llun, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig fod plant a myfyrwyr yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, ar yr amod bod y dystiolaeth yn dangos ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni'n deall mwy am sut y gall y feirws fod yn cael ei drosglwyddo neu beidio mewn ysgolion a phrifysgolion. Felly, gan fod y darparwyr addysg ar agor unwaith eto, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n dweud ychydig mwy wrthym am yr asesiad a wnaed o drosglwyddiad y feirws yn y lleoliadau hynny a sut mae hynny wedi effeithio ar bolisi'r Llywodraeth.
Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn egluro hefyd y bydd gweithio o gartref yn mynd i fod yn bwysicach eto, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn ystyried symud tuag at fwy o weithio o gartref ledled Cymru. Er bod manteision i weithio o gartref, fe geir canlyniadau economaidd i'r stryd fawr a chanol trefi, ac mae rhai pryderon dilys ynghylch effaith gweithio o gartref ar iechyd meddwl rhai pobl hefyd. Gan hynny, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru hyd yn hyn gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â pholisi gweithio o bellter Llywodraeth Cymru a'r effaith economaidd, ac yn wir yr effaith y gallai gweithio o gartref ei chael ar iechyd meddwl yn y tymor hwy?
Mae'n gwbl hanfodol, wrth symud ymlaen, fod y flaenoriaeth yn cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru i iechyd meddwl, boed hynny mewn cysylltiad â'r gofalwyr, plant a phobl ifanc, neu yn wir, bobl hŷn. O gofio bod y feirws yn parhau i fod yn gyfredol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac o ganlyniad, y cyfyngwyd ar ryddid llawer o bobl ers peth amser, a wnaiff Llywodraeth Cymru nawr ddatblygu strategaeth iechyd meddwl ar gyfer y tymor hwy sy'n adlewyrchu'r heriau y mae'r feirws yn eu cyflwyno?
Wrth gwrs, yn sail i'r mesurau newydd sy'n dilyn y cyfnod atal byr, mae angen i fusnesau ledled Cymru allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rydym ni i gyd yn gwybod am fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi'r pandemig ac mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth ar lawer ohonyn nhw yn ystod y misoedd nesaf. Nawr, fel y dywedais i'n gynharach heddiw, mae llawer o fusnesau wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth nid yn unig am y cyfnod atal byr o bythefnos, ond mewn rhai achosion am gyfnod llawer hwy. Felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon nhw ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw'n gyflym. A wnewch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa newidiadau a wneir i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn?
Fe wn i fod trafodaethau wedi parhau rhwng Gweinidogion â'r sector lletygarwch ynglŷn â'r rheolau ar gyfer ailagor, ac rwy'n croesawu'r newyddion y bydd lletygarwch yn ailagor er mwyn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o unigolion gyfarfod mewn lleoliad sydd dan reolaeth. Fe ddywed y datganiad heddiw y caiff hyn ei adolygu'n gyson, ac rwy'n sylweddoli y bydd yn rhaid monitro hyn yn ofalus iawn. Serch hynny, a wnewch chi gadarnhau pryd y byddwch chi'n adolygu'r mesur hwn ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n ymgysylltu â busnesau ledled y wlad i sicrhau mai'r mesur yw'r un priodol wrth symud ymlaen?
Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyfnod atal byr, fe fynegwyd yn eglur bod y cyfnod o bythefnos yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol i'w phrosesau, ac er fy mod i'n derbyn bod gennym ni wythnos i fynd eto, mae'n bwysig iawn y gall pobl Cymru weld y gwelliannau hynny a deall sut mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r amser yn ystod y cyfnod clo i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol. Mae rhywfaint o wybodaeth wedi cael ei rhoi eisoes am y gwaith a wnaed o ran y system brofi, sydd i'w groesawu'n fawr, ac rydych chi wedi cadarnhau heddiw yn eich datganiad fod canolfannau prawf newydd wedi eu hagor a bod mwy ar y gweill. Ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny a pha waith arall sydd wedi digwydd yn barod yn ystod y cyfnod atal byr o ran rhaglen brofi Llywodraeth Cymru, a beth arall y gallwn ni ei ddisgwyl dros y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf?
Prif Weinidog, rydych chi wedi clywed y newyddion gofidus am 30 o farwolaethau eraill yn gysylltiedig â haint COVID-19 a drosglwyddwyd y tu mewn i bedwar ysbyty, ac mae'n amlwg bod angen cymryd camau ar fyrder i fynd i'r afael â hynny. Fe ddywed datganiad heddiw bod byrddau iechyd lleol yn parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n gallu ni mewn ysbytai maes. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am ddatblygiad y gwaith hwnnw a phryd y cawn ni ddechrau gweld y capasiti hwnnw ar waith?
Ac yn olaf, Llywydd, fe hoffwn i ddiolch yn ddiffuant ar goedd i staff ardderchog ein GIG ni a'n sefydliadau a'n helusennau trydydd sector sydd wedi parhau i gyflawni cymaint i gefnogi pobl ledled Cymru mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn. Ac fe wn i, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf. Diolch.