Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Nid wyf yn cytuno â'r datganiad agoriadol y mae'r Aelod yn ei wneud bod hyn yn ymdebygu i unrhyw un o'r datganiadau eraill a wnaed yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf. Bu amryw o adegau pryd y bu datganiadau dros y pum mlynedd a hanner diwethaf yn llawer mwy digalon ynghylch ein sefyllfa. Y gwir amdani yw bod mamolaeth a'r gwasanaeth y tu allan i oriau wedi dod allan o fesurau arbennig ar wahanol adegau, sy'n dangos y bu hyn yn gynnydd dros amser. Rydym ni hefyd wedi gweld heriau o ran rheolaeth ariannol a pherfformiad dros y cyfnod hwn, felly nid yw'n wir ein bod yn tynnu datganiad oddi ar y silff. Ac nid yw'n adlewyrchu'r datganiad uwchgyfeirio teirochrog a gyflwynwyd mewn gwirionedd, lle cafodd safbwyntiau allanol AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru eu hystyried, a'u hasesiad yw bod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a diffiniadwy.
Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynglŷn â'i gynllun i ddarnio'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Credaf, dros y tymor nesaf, y byddai hi'n gwbl anghywir dweud bod angen i fwrdd iechyd sydd wedi ymdrin yn dda â'r pandemig COVID graffu ar ei hun i ystyried sut y byddai'n ailddyrannu gwahanol swyddi a gwasanaethau. Ond mae gan yr Aelod hawl i'w farn a bydd pobl yn penderfynu pa weledigaeth y mae arnyn nhw ei heisiau ar gyfer gofal iechyd yn y gogledd a gweddill y wlad.
O ran y sylw am y terfyn amser ac a oes camgymeriad sylfaenol yn y llinell sylfaen, wrth ateb cwestiynau Darren Millar, dywedais ein bod ni eisoes wedi adolygu'r fformiwla ddyrannu. Dylai'r Aelod fod yn ymwybodol o hynny, ar ôl iddo gymryd rhan yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rwy'n hapus i ddosbarthu nodyn arall i'r pwyllgor hwnnw i gadarnhau ble yr ydym ni arni gyda'r fformiwla ddyrannu, os yw hynny'n ddefnyddiol i roi eglurder. Ac o ran y terfyn amser, aethom ati mewn ffordd debyg yn Hywel Dda ym Mhowys o'r blaen, ond hefyd gyda Chaerdydd a'r Fro ac, yn wir, bwrdd iechyd Bae Abertawe, lle darparwyd arian gennym ni am gyfnod cyfyngedig o amser i helpu sicrhau gwelliant. Mae'r dull 'rhywbeth ar gyfer rhywbeth' hwnnw wedi gweithio'n dda yn yr ardaloedd hynny, ac felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gamgymeriad nodi terfyn amser o ran am ba hyd y bydd y cymorth strategol hwn ar gael.
O ran yr ysgol feddygol, credaf fod y ffaith y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, y ffaith inni gael cynnig llawer mwy credadwy ac ystyrlon rhwng Prifysgol Bangor yn arbennig a'r bwrdd iechyd, ond hefyd gyda chefnogaeth ac ymrwymiad partneriaid arwyddocaol eraill yn y gogledd, yn arwydd gwirioneddol o'r cydweithio gwell. Nid gymaint â hynny yn ôl ni fyddech wedi disgwyl y byddai partneriaid yn y gogledd wedi dod ynghyd i gyflwyno cynllun gwirioneddol yn y gogledd gyda'r ardal gyfan yn ymrwymo i ddatblygiad sylweddol fel hwn. Mae'n arwydd da o well gweithgarwch gan y bwrdd iechyd a'i bartneriaid, a chredaf fod hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Ac, wrth gwrs, fe hoffwn i glywed barn grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn caniatáu imi wneud dewisiadau yn nhymor y Senedd hon, felly gallwn ddarparu rhyw fath o gynllun ar gyfer y dyfodol, ond bydd angen imi weld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Ac, wrth gwrs, rwyf eisoes wedi cyhoeddi hynny, Dirprwy Lywydd, mewn datganiad ysgrifenedig blaenorol.