4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

– Senedd Cymru am 4:07 pm ar 3 Tachwedd 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ann Jones Ann Jones Labour 4:07, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Symudwn ymlaen at eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cymorth strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. A galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour

(Cyfieithwyd)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ynghyd â'm swyddogion a'r bwrdd iechyd, rwy'n parhau i ganolbwyntio ar y gwaith i sicrhau gwelliannau cynaliadwy parhaus.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno adroddiad cynhwysfawr a chytbwys yn ddiweddar ynghylch y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod pan oedd mesurau arbennig yn dwysáu. Mae hyn yn dangos cynnydd gwirioneddol ond hefyd dirnadaeth gan dderbyn bod meysydd i weithredu arnynt a lle mae angen gwelliant parhaus. Mae'r meysydd cynnydd yn cynnwys y gallu i ysgogi gwelliant fel bod rhai gwasanaethau yn dod allan o fesurau arbennig. Mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau y tu allan i oriau wedi cyflawni hyn ac maen nhw bellach yn rhan o ymgyrch wella barhaus y bwrdd. Mae mesurau ansawdd, megis ymateb i bryderon ac atal a rheoli heintiau, yn dangos bod materion perfformiad hanesyddol wedi cael sylw. Erbyn hyn, mae gan y bwrdd ddull mwy strwythuredig o barhau i sicrhau a gwella.

Mae'n bwysig cydnabod yr ymateb cadarnhaol a pharhaus i COVID-19 gan y bwrdd iechyd yn yr amgylchiadau anoddaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r cydnerthedd a'r gallu gwell i gyflawni. Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu asesiad gonest o feysydd i weithredu arnynt a'u gwella'n barhaus sy'n cyd-fynd â barn cyfarfod diweddar y bartneriaeth deirochrog, gan gynnwys: yr angen i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach; datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor; cryfhau'r gallu i arwain ymhellach ym maes iechyd meddwl er mwyn gwella sefydlogrwydd a chydnerthedd; datblygu cynllun ariannol tair blynedd cadarn i gyflawni ei ddyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig; yr angen i gwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a sicrhau gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt.

Er bod gan lawer o sefydliadau iechyd eraill faterion cysylltiedig i fynd i'r afael â nhw, fel y gŵyr Aelodau, maen nhw yn fwy hirsefydlog yn y gogledd ac mae perfformiad yn anghymesur o wael o ran meysydd pwysig, megis atgyfeirio cleifion i gael triniaeth neu i unedau damweiniau ac achosion brys, gan ddangos bod angen galluogi atebion rheolaidd a thymor hwy. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hirsefydlog hyn rwyf wedi penderfynu bod angen dull gwahanol ar gyfer y cam gwella nesaf. Felly, byddaf yn darparu cyllid strategol tymor hwy ar gyfer materion allweddol yn ymwneud â gwasanaethau a pherfformiad. Bydd hyn yn galluogi'r bwrdd iechyd i symud oddi wrth gamau gweithredu tymor byr a gwneud cynnydd o ran cynllunio tymor canolig a thymor hwy sy'n trosi'n gynllun y gellir ei weithredu.

Rwyf eisoes wedi cadarnhau'r sefyllfa o ran diffygion hanesyddol a chymorth ariannol y GIG a fydd o fantais i'r bwrdd iechyd. Er mwyn gallu gwneud cynnydd pellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi pecyn o gymorth cefnogaeth strategol ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf. Bydd y cymorth hwn yn darparu cyfres wahanol o ffiniau a fydd yn galluogi'r bwrdd iechyd i ailosod a chynllunio'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, er mwyn diwallu anghenion iechyd pobl y gogledd. Bydd yn cynnwys: cyflenwi ar gyfer y diffyg o hyd at £40 miliwn y flwyddyn; cyllid i wella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi'i gynllunio gynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, o £30 miliwn y flwyddyn; £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o wella perfformiad a gweithredu'r strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth; a chymorth i feithrin gallu a chapasiti ehangach yn y sefydliad.

Bydd y gefnogaeth i'r dull strategol hwn ar y sail bod y bwrdd iechyd yn parhau i adeiladu ar gydberthnasau gyda phartneriaid presennol ac yn ymgysylltu'n llawn â'r cyhoedd, staff, undebau llafur a phartneriaid ehangach. Y cam cyntaf hanfodol fydd gweithio mewn partneriaeth i feithrin gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan arwain at gynllun tymor canolig, gan ganolbwyntio ar atal, lles corfforol a meddyliol, iechyd y boblogaeth ac, wrth gwrs, gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.

Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Fy mwriad felly yw parhau â'r gefnogaeth hon ar gyfer y blynyddoedd 2021-22 hyd at 2023-24, a chan gynnwys 2023-24. Bydd yn cynnwys fframwaith gwella diwygiedig a datblygu dull matrics aeddfedrwydd i asesu cynnydd. Yn ogystal, bydd Aelodau'n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn hysbysu'r Aelodau y byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i wneud argymhellion imi ynglŷn â chynnig ar gyfer ysgol feddygol yn y gogledd.

Bydd y cymorth hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau trawsnewid ac arloesi, gan arwain at well canlyniadau, profiad cleifion a pherfformiad ariannol o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n arwydd clir o'n hyder cynyddol yng ngallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella a darparu ymhellach y gwasanaethau a'r gofal o safon uchel y mae gan bobl y gogledd bob hawl i'w disgwyl. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 4:13, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am rannu copi ymlaen llaw gyda ni. A gaf i yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, dalu teyrnged ar goedd i staff y GIG yn y gogledd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith clodwiw iawn, rwy'n credu, i allu ymdopi dan rai amgylchiadau anodd iawn o ganlyniad i'r pandemig COVID? Nid yw bob amser yn hawdd, yn enwedig ar adegau fel y rhain, ond maen nhw wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb ac yn cyflawni mewn gwirionedd ar ran fy etholwyr ac etholwyr cynrychiolwyr eraill yn y Senedd hon, ac fe hoffwn i eu cymeradwyo am eu gwaith.

Mae hi wedi bod dros bum mlynedd bellach—rydym ni yn chweched flwyddyn y gyfundrefn mesurau arbennig yma yn y gogledd—ac mae llawer o bobl yn anhapus iawn ei bod hi wedi cymryd cyhyd i geisio datrys y problemau. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, y byddai cyfres o gynlluniau 100 diwrnod i geisio newid perfformiad. Wel, mae'n teimlo ychydig yn fwy tebyg i'r rhyfel 100 mlynedd o ran gwneud cynnydd yn hynny o beth. Cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith nad yw'r gyfundrefn mesurau arbennig yn berthnasol bellach i'r gwasanaethau mamolaeth na'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, a chroesawaf y ffaith nad yw'n berthnasol mwyach, ond rhaid inni beidio ag anghofio mai o ganlyniad i'r cyhoedd yn gorymdeithio ar y strydoedd y gwelsom y gwelliannau yn y gwasanaethau mamolaeth hynny a diogelwch y gwasanaethau mamolaeth, yn enwedig yn Ysbyty Glan Clwyd, yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholaeth fy hun ac, yn wir, etholwyr eich etholaeth chi, Dirprwy Lywydd.

O ran arweinyddiaeth hefyd yn y bwrdd iechyd, bu cryn newid dwylo. Rydym ni wedi gweld prif weithredwyr yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld cyfarwyddwyr cyllid yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld arweinwyr iechyd meddwl yn mynd a dod, a bu hi'n dipyn o draed moch mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y prif weithredwr newydd, pan fydd yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd, yn rhywun a fydd yn medru aros yn ei swydd, mynd i'r afael â'r problemau hyn a dod â nhw i fwcwl unwaith ac am byth.

Nawr, os gallaf hefyd fanteisio ar y cyfle heddiw i groesawu'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn y gogledd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wastad wedi dweud fy mod yn credu y bu diffyg strwythurol, a etifeddwyd gan y sefydliad yn y gogledd pan unodd â'r sefydliadau iechyd eraill yn y rhanbarth, pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y bydd y £40 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf yn ei helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny nad yw wedi gallu mynd i'r afael â nhw oherwydd diffyg adnoddau a chyllid. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a yw'r cyllid hwn o £40 miliwn yn gydnabyddiaeth bod diffyg strwythurol, ac os ydyw, a yw hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau y tu hwnt i'r tair blynedd hyn? Gwyddom y canfuwyd diffygion strwythurol mewn byrddau iechyd eraill o gryn faint—Hywel Dda yn arbennig—ac y bu cyllid ar gael yn barhaol yn y fan yna, a chredaf fod achos dros sicrhau bod y £40 miliwn ychwanegol hwn ar gael yn barhaol yn hytrach na dim ond am gyfnod o dair blynedd.

Unwaith eto, rwy'n croesawu'r £30 miliwn sy'n cael ei ddarparu i geisio helpu perfformiad o ran gwasanaethau brys, ac yn wir i fynd i'r afael â'r rhestrau aros amser atgyfeirio i driniaeth hefyd, ond eto, nid wyf yn siŵr a fydd £30 miliwn mewn gwirionedd yn ymdrin yn llwyr â'r broblem honno nac yn ei dileu. Rwy'n gwybod bod gan y bwrdd iechyd gynigion y mae'n eu cyflwyno a fydd yn gofyn am rywfaint o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, yn enwedig gydag amseroedd aros am driniaeth, y collwyd pob rheolaeth arnyn nhw dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig, ond a oedd eisoes yn sylweddol iawn hyd yn oed cyn hynny, gyda phobl yn aros dwy flynedd fel arfer am lawdriniaeth orthopedig. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog, yn ogystal â'r adnodd hwn o £30 miliwn i gefnogi llawdriniaethau heb eu cynllunio a dewisol, a fyddwch yn gallu gwneud peth buddsoddiad cyfalaf ychwanegol hefyd mewn pethau fel llawdriniaeth robotig, nad oes gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer cleifion wroleg yn y gogledd, ac yn wir o ran helpu i glirio'r rhestr aros honno, efallai gyda chanolfannau diagnostig a thriniaeth sydd ar wahân i'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar ein safleoedd ysbytai presennol?

Ac yn olaf, os gallaf droi at ran iechyd meddwl y datganiad heddiw, mae'n amlwg ein bod yn gwybod y bu pryderon difrifol am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd ers peth amser. Rydym ni wedi gweld y diffyg crebwyll ar ran y bwrdd iechyd gyda 1,600 o gleifion yn cael eu rhyddhau o wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy'n gwybod y bydd rhywfaint o newid—ac y bu rhywfaint o newid—yn arweinyddiaeth y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl o fewn y bwrdd, ond mae'n amlwg yn hanfodol ein bod ni'n cael rhywfaint o ffydd, wrth symud ymlaen bod y gwasanaethau hyn yn flaenoriaeth bendant. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu buddsoddi mewn uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, ac rwy'n falch iawn o'i gweld ac mae bellach ar waith, ond rwy'n pryderu nad arian i'w wario ar adeiladau yn unig sydd ei angen yma yn amlwg; mae angen inni newid y diwylliant o fewn y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Pa mor ffyddiog ydych chi y byddwch yn gallu sicrhau'r math o arweinyddiaeth a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd y mae angen dybryd inni ei gweld? Diolch, Llywydd.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:19, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch am y cwestiynau. Dechreuaf gyda'ch sylw olaf am iechyd meddwl. Mae gan y bwrdd iechyd ei strategaeth ei hun y mae wedi ei datblygu ynghyd â phartneriaid y tu allan i'r gwasanaeth iechyd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru'. Mae'r ddogfen honno yn amlinellu dull o barhau i drawsnewid a gwella gwasanaethau iechyd meddwl ac rydym ni wedi cael adborth da gan sefydliadau partner bod y bwrdd iechyd mewn gwirionedd yn ceisio llunio'r strategaeth honno ar y cyd, ac mae hynny'n digwydd oherwydd y newid mewn arweinyddiaeth a fu ar ôl cyflwyno mesurau arbennig. Felly, bu cynnydd a gwelliant mewn gwasanaethau iechyd meddwl a diben yr arian yr wyf wedi'i gyhoeddi ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf yw hyrwyddo'r gwelliant hwnnw ymhellach. Byddwn yn parhau i fesur a monitro'r cynnydd; mae'n ffactor allweddol yn yr holl sgyrsiau teirochrog sy'n digwydd, fel y gŵyr yr Aelod, rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru, nid yn unig i ystyried y gogledd, ond pob sefydliad wrth ystyried eu statws uwchgyfeirio.

O ran y cwestiynau eraill, mae'n gadarnhaol clywed Darren Millar yn croesawu'r penderfyniad buddsoddi heddiw. O ran yr awgrym bod diffyg strwythurol o £40 miliwn, nid dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen inni alluogi'r bwrdd iechyd i symud ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Maen nhw wedi gwneud mwy o gynnydd o ran dod yn sefydliad mwy effeithlon, felly maen nhw wedi gwneud cynnydd o ran eu rheolaeth ariannol, ond er mwyn caniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'r cynllunio tymor hwy y mae angen iddyn nhw ei wneud, rydym ni yn datrys rhai o'r problemau. Ac wrth gyfeirio at Hywel Dda, fe wnaethom ni roi cefnogaeth sylweddol i Hywel Dda mewn pecyn amlflwyddyn a ganiataodd i'r sefydliad hwnnw symud ymlaen, ac mae bellach mewn gwell sefyllfa nag yr oedd dair i bedair blynedd yn ôl. Felly, mae'r dewis a wnaethom ni gyda hynny mewn golwg wedi talu ar ei ganfed nid yn unig i arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd, ond yn bwysicach o lawer i'r staff a'r cyhoedd y maen nhw yn eu gwasanaethu, ac rydym ni bellach mewn sefyllfa i wneud dewis buddsoddi tebyg dros nifer o flynyddoedd i bobl y gogledd.

Rydym ni eisoes wedi cynnal adolygiad o'r fformiwla ddyrannu i ddiweddaru fformiwla Townsend, ac felly rydym ni mewn sefyllfa lle byddwn yn ei defnyddio ar gyfer dyraniadau yn y fformiwla gyffredinol yn y dyfodol, a bydd hynny'n adlewyrchu'r asesiad angen sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae hynny'n ystyried amrywiaeth o ffactorau, a buom yn trafod â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon o'r blaen ynglŷn â'r adolygiad hwnnw, felly gallwch ddisgwyl gweld y twf o ran y newid mewn gofal iechyd yn unol â'r fformiwla ddyrannu honno sydd wedi'i diweddaru.

O ran eich sylw am gyfalaf, mae hi eisoes yn wir fod y bwrdd iechyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer canolfan driniaeth ddiagnostig ac amrywiaeth o feysydd gwasanaeth eraill, ond fel gyda phob bwrdd iechyd, mae gennym ni broses o asesu unrhyw achos busnes, mae angen i ni adolygu pob achos busnes yn unigol yn rhan o'r cynllun cyffredinol ar gyfer y sefydliad. Felly, rwyf yn rhagweld y gallai rhywfaint o'r trawsnewid ar y gwasanaethau olygu y bydd angen gwario arian cyfalaf. Ond mewn gwirionedd, rydym ni wedi dangos ein parodrwydd i wario symiau sylweddol o gyfalaf ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Byddwch yn cofio'r adroddiad diweddar ar yr arian sylweddol sy'n cael ei wario ar Ysbyty Glan Clwyd, ond ar brosiectau eraill hefyd. Mae hynny wedi tynnu sylw at welliannau yr ydym ni wedi'u gwneud yn ein proses asesu achosion busnes ac mae angen inni barhau i wneud hynny. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i roi ymrwymiad penagored i gyfalaf, ond fel y dywedais, mae cydnabyddiaeth wrth wneud y penderfyniad hwn ei bod hi'n ddigon posib y bydd angen gwariant cyfalaf i gyd-fynd â'r cynlluniau gwella gwasanaethau a'r arian yr wyf wedi'i ddyrannu ar sail refeniw am y tair blynedd a hanner nesaf.

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:23, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw. Y peth cyntaf a ddywedaf yw fy mod yn falch iawn pan glywaf am unrhyw welliannau ym mherfformiad byrddau iechyd, lle bynnag y bo hynny yng Nghymru. Ond rhaid i mi ddweud, mae hyn yn debyg i raddau helaeth i unrhyw un o'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed dros y pum mlynedd a hanner diwethaf ers rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig. Credaf fod templed yn rhywle sydd wedi'i estyn oddi ar y silff; unwaith eto, bu rhai gwelliannau, ond mae materion pwysig o hyd y mae angen mynd i'r afael â nhw gyda Betsi Cadwaladr, ac nid wyf yn gweld yn y datganiad hwn, yn sicr, y dystiolaeth hyd yn oed i gefnogi'r honiadau bod gwelliannau gwirioneddol, felly byddwn yn gwerthfawrogi mwy o eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Ac wrth gwrs, pan glywch chi fod problemau sylweddol o hyd yn y cyfnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac o ran unedau damweiniau ac achosion brys, rydym yn sôn am elfennau hynod bwysig o'r bwrdd iechyd yn y gogledd sy'n dal yn broblem bum mlynedd a hanner ers cyflwyno mesurau arbennig.

Rwyf wedi gwneud fy safbwynt yn glir: rwy'n credu y bu digon o gyfle i geisio trawsnewid pethau ar gyfer Betsi Cadwaladr. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd dechrau o'r newydd gyda strwythur newydd ar gyfer iechyd yn y gogledd. Rwy'n adnabod llawer gormod o weithwyr iechyd yn y gogledd; rwy'n eu parchu a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd, a'r negeseuon a gaf ganddyn nhw yn dweud, 'Diolch yn fawr am ddweud bod angen i ni ddechrau o'r newydd.' Dyna fy nghred i. Ond, am y tro, wrth gwrs rwy'n croesawu cyllid ychwanegol. Rwyf hefyd yn amau a yw'n gwneud synnwyr rhoi terfyn amser ar rai o'r codiadau sylfaenol sy'n cael eu hawgrymu yn y fan yma, a gofynnaf i'r Gweinidog: a yw'n credu'n awr, yn dilyn yr adolygiad sydd wedi arwain at y datganiad hwn heddiw, y bu camgymeriad sylfaenol o ran pennu'r llinell sylfaen ar gyfer ariannu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd? Rwy'n sicr o'r farn honno a hoffwn glywed syniadau diweddaraf y Gweinidog am hynny.

Yn olaf, mae gennym ni newyddion am grŵp gorchwyl a gorffen i wneud argymhellion ynglŷn â chynnig ar gyfer ysgol feddygol y gogledd. Os bydd pobl dda Ynys Môn yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau i mi eu cynrychioli yn y Senedd ar ôl mis Mai nesaf, mae'n debyg mai dyna'r un ymgyrch y byddaf yn falch iawn y buom yn llwyddiannus ynddi—i sicrhau ein bod yn symud yn agosach at gyflwyno hyfforddiant meddygol i israddedigion ym Mhrifysgol Bangor. Gadewch i ni beidio â llaesu gormod ar ein dwylo nawr. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn hoffi ei grwpiau gorchwyl a gorffen, ond gadewch i ni sicrhau mai grŵp yw hwn sy'n penderfynu ar fanylion sut yr ydym yn bwrw iddi i sefydlu ysgol feddygol lawn ar gyfer y gogledd. Mae arnom ei hangen ar gyfer dyfodol y gweithlu yma yn y gogledd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod angen mynd ar ei drywydd nawr gyda rhywfaint o frys.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:27, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Nid wyf yn cytuno â'r datganiad agoriadol y mae'r Aelod yn ei wneud bod hyn yn ymdebygu i unrhyw un o'r datganiadau eraill a wnaed yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf. Bu amryw o adegau pryd y bu datganiadau dros y pum mlynedd a hanner diwethaf yn llawer mwy digalon ynghylch ein sefyllfa. Y gwir amdani yw bod mamolaeth a'r gwasanaeth y tu allan i oriau wedi dod allan o fesurau arbennig ar wahanol adegau, sy'n dangos y bu hyn yn gynnydd dros amser. Rydym ni hefyd wedi gweld heriau o ran rheolaeth ariannol a pherfformiad dros y cyfnod hwn, felly nid yw'n wir ein bod yn tynnu datganiad oddi ar y silff. Ac nid yw'n adlewyrchu'r datganiad uwchgyfeirio teirochrog a gyflwynwyd mewn gwirionedd, lle cafodd safbwyntiau allanol AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru eu hystyried, a'u hasesiad yw bod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a diffiniadwy. 

Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynglŷn â'i gynllun i ddarnio'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Credaf, dros y tymor nesaf, y byddai hi'n gwbl anghywir dweud bod angen i fwrdd iechyd sydd wedi ymdrin yn dda â'r pandemig COVID graffu ar ei hun i ystyried sut y byddai'n ailddyrannu gwahanol swyddi a gwasanaethau. Ond mae gan yr Aelod hawl i'w farn a bydd pobl yn penderfynu pa weledigaeth y mae arnyn nhw ei heisiau ar gyfer gofal iechyd yn y gogledd a gweddill y wlad.

O ran y sylw am y terfyn amser ac a oes camgymeriad sylfaenol yn y llinell sylfaen, wrth ateb cwestiynau Darren Millar, dywedais ein bod ni eisoes wedi adolygu'r fformiwla ddyrannu. Dylai'r Aelod fod yn ymwybodol o hynny, ar ôl iddo gymryd rhan yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rwy'n hapus i ddosbarthu nodyn arall i'r pwyllgor hwnnw i gadarnhau ble yr ydym ni arni gyda'r fformiwla ddyrannu, os yw hynny'n ddefnyddiol i roi eglurder. Ac o ran y terfyn amser, aethom ati mewn ffordd debyg yn Hywel Dda ym Mhowys o'r blaen, ond hefyd gyda Chaerdydd a'r Fro ac, yn wir, bwrdd iechyd Bae Abertawe, lle darparwyd arian gennym ni am gyfnod cyfyngedig o amser i helpu sicrhau gwelliant. Mae'r dull 'rhywbeth ar gyfer rhywbeth' hwnnw wedi gweithio'n dda yn yr ardaloedd hynny, ac felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gamgymeriad nodi terfyn amser o ran am ba hyd y bydd y cymorth strategol hwn ar gael.

O ran yr ysgol feddygol, credaf fod y ffaith y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, y ffaith inni gael cynnig llawer mwy credadwy ac ystyrlon rhwng Prifysgol Bangor yn arbennig a'r bwrdd iechyd, ond hefyd gyda chefnogaeth ac ymrwymiad partneriaid arwyddocaol eraill yn y gogledd, yn arwydd gwirioneddol o'r cydweithio gwell. Nid gymaint â hynny yn ôl ni fyddech wedi disgwyl y byddai partneriaid yn y gogledd wedi dod ynghyd i gyflwyno cynllun gwirioneddol yn y gogledd gyda'r ardal gyfan yn ymrwymo i ddatblygiad sylweddol fel hwn. Mae'n arwydd da o well gweithgarwch gan y bwrdd iechyd a'i bartneriaid, a chredaf fod hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Ac, wrth gwrs, fe hoffwn i glywed barn grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn caniatáu imi wneud dewisiadau yn nhymor y Senedd hon, felly gallwn ddarparu rhyw fath o gynllun ar gyfer y dyfodol, ond bydd angen imi weld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Ac, wrth gwrs, rwyf eisoes wedi cyhoeddi hynny, Dirprwy Lywydd, mewn datganiad ysgrifenedig blaenorol.

Photo of Mandy Jones Mandy Jones UKIP 4:30, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddechrau'r cyfraniad hwn drwy estyn fy nghydymdeimlad i staff Ysbyty Maelor Wrecsam a gollodd eu cydweithiwr Wilbert Llobrera yn ddiweddar mewn damwain taro a ffoi y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n meddwl am ei wraig a'i ferch yn eu galar.

Rwyf wedi sôn o'r blaen ynglŷn â sut mae mesurau arbennig yn amlwg wedi dod yn rhan o drefn feunyddiol pethau i fwrdd iechyd gogledd Cymru. Fe wadoch chi nhw bryd hynny, mae'n debyg y byddwch yn eu gwadu eto heddiw. O ran diddordeb, rwyf wedi cael golwg ar y datganiadau cyhoeddedig sy'n ymwneud â Betsi dros flynyddoedd tymor y Senedd hon. Yn 2016, cynnydd cadarnhaol; 2018, dwysáu, adolygu a chymorth ychwanegol; hefyd yn 2018, £6.8 miliwn i wella perfformiad. Ac felly mae'n parhau.

Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad hwn heddiw a'r defnydd o'r gair 'strategol'—mae hwnnw'n un newydd, wedi'r cyfan. Fodd bynnag, nid oes gennyf fawr o ffydd y bydd unrhyw beth yn newid mewn gwirionedd. Dim ond dau gwestiwn i chi ar gyfer heddiw, Gweinidog—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i am hynny. Dau gwestiwn ichi heddiw, Gweinidog: pryd byddwch yn rhoi cynnig ar rywbeth sy'n sylfaenol wahanol i gael y bwrdd hwn ar ei draed a phryd bydd pobl y gogledd yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu ac yn talu amdano? Diolch.

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 4:31, 3 Tachwedd 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch ichi am eich sylwadau, ac rwy'n edmygu eich gallu i beidio â rhegi'n iawn pan dorrwyd ar eich traws. O ran yr her y mae'r bwrdd iechyd yn ei hwynebu, credaf y dylem fod â mwy o ffydd yn eu gallu i gyflawni. Daw hynny o'r adolygiad teirochrog, ac ni fyddwn i'n mabwysiadu'r dull gweithredu gwahanol a sylweddol hwn wrth gyhoeddi pecyn buddsoddi o'r math hwn dros dair blynedd a hanner os nad oedd mwy o hyder y byddant yn gallu cyflawni'r cynllun sydd ganddyn nhw. Mae'n ymwneud ag i ba raddau maen nhw'n dirnad, yn deall ac yn derbyn bod angen iddyn nhw wella. Mae hefyd yn ffaith bod sefydliadau partner yn y gogledd mewn lle llawer gwell o ran eu ffydd yn y bwrdd iechyd. Nid oes dim yn berffaith mewn unrhyw bartneriaeth neu berthynas, o ran hynny, fel yn achos y rhai ohonom ni sydd â barn arall am gydweithio mewn meysydd eraill o fywyd, mae angen i bartneriaid ddod at ei gilydd i weithio drwy anawsterau yn ogystal â chytuno ar faterion. Maen nhw mewn sefyllfa sy'n llawer mwy aeddfed yn y gogledd, ac maen nhw wedi gwneud hynny dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly mae hynny'n beth da. Mae mwy o hyder. Mae hwn yn ddull gweithredu sylfaenol wahanol. O ran y sylw ynghylch pryd y bydd gan bobl y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu, dyna'n union yw diben gwneud y dewis hwn heddiw a chyflwyno'r datganiad hwn i'r Senedd. Credaf fod pobl yn y gogledd yn haeddu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, ac mae hyn yn ymwneud â galluogi'r bwrdd iechyd i wneud ei ran yn fwy hyderus gyda mwy o gapasiti i ddarparu'r gofal y mae pob dinesydd yng Nghymru yn ei haeddu.

Rwyf eisiau gorffen, Dirprwy Lywydd, drwy rannu fy nghydymdeimlad fy hun yn achos y nyrs o'r Maelor a gollodd ei fywyd mewn damwain taro a ffoi yn ddiweddar. Mae'n dangos bod heriau bob amser, ond nid ydym yn disgwyl i'n staff golli eu bywyd o dan yr amgylchiadau hyn. Rwy'n gwybod ei fod wedi cael effaith ar ffrindiau a chydweithwyr yn y gwaith a'r tu allan hefyd. Felly, fy nymuniadau gorau a'm cydymdeimlad dwysaf i'r teulu a phawb sy'n galaru yn sgil y golled ar hyn o bryd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.