Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 3 Tachwedd 2020.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ynghyd â'm swyddogion a'r bwrdd iechyd, rwy'n parhau i ganolbwyntio ar y gwaith i sicrhau gwelliannau cynaliadwy parhaus.
Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno adroddiad cynhwysfawr a chytbwys yn ddiweddar ynghylch y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod pan oedd mesurau arbennig yn dwysáu. Mae hyn yn dangos cynnydd gwirioneddol ond hefyd dirnadaeth gan dderbyn bod meysydd i weithredu arnynt a lle mae angen gwelliant parhaus. Mae'r meysydd cynnydd yn cynnwys y gallu i ysgogi gwelliant fel bod rhai gwasanaethau yn dod allan o fesurau arbennig. Mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau y tu allan i oriau wedi cyflawni hyn ac maen nhw bellach yn rhan o ymgyrch wella barhaus y bwrdd. Mae mesurau ansawdd, megis ymateb i bryderon ac atal a rheoli heintiau, yn dangos bod materion perfformiad hanesyddol wedi cael sylw. Erbyn hyn, mae gan y bwrdd ddull mwy strwythuredig o barhau i sicrhau a gwella.
Mae'n bwysig cydnabod yr ymateb cadarnhaol a pharhaus i COVID-19 gan y bwrdd iechyd yn yr amgylchiadau anoddaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r cydnerthedd a'r gallu gwell i gyflawni. Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu asesiad gonest o feysydd i weithredu arnynt a'u gwella'n barhaus sy'n cyd-fynd â barn cyfarfod diweddar y bartneriaeth deirochrog, gan gynnwys: yr angen i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach; datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor; cryfhau'r gallu i arwain ymhellach ym maes iechyd meddwl er mwyn gwella sefydlogrwydd a chydnerthedd; datblygu cynllun ariannol tair blynedd cadarn i gyflawni ei ddyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig; yr angen i gwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a sicrhau gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt.
Er bod gan lawer o sefydliadau iechyd eraill faterion cysylltiedig i fynd i'r afael â nhw, fel y gŵyr Aelodau, maen nhw yn fwy hirsefydlog yn y gogledd ac mae perfformiad yn anghymesur o wael o ran meysydd pwysig, megis atgyfeirio cleifion i gael triniaeth neu i unedau damweiniau ac achosion brys, gan ddangos bod angen galluogi atebion rheolaidd a thymor hwy. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hirsefydlog hyn rwyf wedi penderfynu bod angen dull gwahanol ar gyfer y cam gwella nesaf. Felly, byddaf yn darparu cyllid strategol tymor hwy ar gyfer materion allweddol yn ymwneud â gwasanaethau a pherfformiad. Bydd hyn yn galluogi'r bwrdd iechyd i symud oddi wrth gamau gweithredu tymor byr a gwneud cynnydd o ran cynllunio tymor canolig a thymor hwy sy'n trosi'n gynllun y gellir ei weithredu.
Rwyf eisoes wedi cadarnhau'r sefyllfa o ran diffygion hanesyddol a chymorth ariannol y GIG a fydd o fantais i'r bwrdd iechyd. Er mwyn gallu gwneud cynnydd pellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi pecyn o gymorth cefnogaeth strategol ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf. Bydd y cymorth hwn yn darparu cyfres wahanol o ffiniau a fydd yn galluogi'r bwrdd iechyd i ailosod a chynllunio'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, er mwyn diwallu anghenion iechyd pobl y gogledd. Bydd yn cynnwys: cyflenwi ar gyfer y diffyg o hyd at £40 miliwn y flwyddyn; cyllid i wella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi'i gynllunio gynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, o £30 miliwn y flwyddyn; £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o wella perfformiad a gweithredu'r strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth; a chymorth i feithrin gallu a chapasiti ehangach yn y sefydliad.
Bydd y gefnogaeth i'r dull strategol hwn ar y sail bod y bwrdd iechyd yn parhau i adeiladu ar gydberthnasau gyda phartneriaid presennol ac yn ymgysylltu'n llawn â'r cyhoedd, staff, undebau llafur a phartneriaid ehangach. Y cam cyntaf hanfodol fydd gweithio mewn partneriaeth i feithrin gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan arwain at gynllun tymor canolig, gan ganolbwyntio ar atal, lles corfforol a meddyliol, iechyd y boblogaeth ac, wrth gwrs, gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.
Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Fy mwriad felly yw parhau â'r gefnogaeth hon ar gyfer y blynyddoedd 2021-22 hyd at 2023-24, a chan gynnwys 2023-24. Bydd yn cynnwys fframwaith gwella diwygiedig a datblygu dull matrics aeddfedrwydd i asesu cynnydd. Yn ogystal, bydd Aelodau'n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn hysbysu'r Aelodau y byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i wneud argymhellion imi ynglŷn â chynnig ar gyfer ysgol feddygol yn y gogledd.
Bydd y cymorth hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau trawsnewid ac arloesi, gan arwain at well canlyniadau, profiad cleifion a pherfformiad ariannol o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n arwydd clir o'n hyder cynyddol yng ngallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella a darparu ymhellach y gwasanaethau a'r gofal o safon uchel y mae gan bobl y gogledd bob hawl i'w disgwyl. Diolch, Dirprwy Lywydd.